Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant DPP ar gyfer dylunio adeiladau a'r sector cynllunio dinasoedd

Mae sawl cyfle hyfforddi DPP ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd dylunio adeiladau a chynllunio dinasoedd.

Er mwyn dod o hyd i'r hyfforddiant DPP cywir i chi, rydym wedi creu pecyn o weithgareddau hyfforddi sydd wedi'u dylunio i gefnogi a hybu gyrfaoedd gweithwyr proffesiynol mewn meysydd fel:

  • Dylunio adeiladau
  • Rheoli adeiladau
  • Adeiladu amgylcheddol
  • Cynllunio trefol
  • Cynllunio/logisteg trafnidiaeth
  • Cynllunio ynni adnewyddadwy.

Gallwch ddod i wybod rhagor drwy lawrlwytho ein llyfryn yn rhad ac am ddim, neu drwy glicio ar unrhyw un o'r dolenni canlynol i'r cyrsiau perthnasol a'r cyfleoedd hyfforddi.

Lawrlwytho ein llyfryn

Engin-planning-archi-booklet-welsh.pdf

Mae’r llyfryn hwn yn rhoi manylion ystod o gyfleoedd DPP gan gynnwys modiwlau ar lefel ôl-raddedig sydd ar gael ar sail unigol.

Modiwlau ôl-raddedig unigol

Mae'r rhain yn fodiwlau y gellir eu cymryd ar sail unigol at ddibenion DPP. Yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio ar lefel ôl-raddedig wrth reoli eich ymrwymiadau gwaith a bywyd.

RIAI logo

Cydnabyddir y cyrsiau hyn gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Iwerddon (RIAI).

Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol

Y Ddaear a Chymdeithas

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Mae'r modiwl yn rhoi strwythur i fyfyrwyr ddatblygu, trafod a llunio eu safbwyntiau personol o ran cynaliadwyedd.

Adeiladau Carbon Isel

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Mae’r modiwl hwn yn defnyddio dull cyfannol o ran defnydd adeilad o ynni.

Ymchwilio i'r Amgylchedd Adeiledig

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno'r dulliau a'r technegau y gall dylunwyr, perchnogion a gweithredwyr adeiladau eu defnyddio i bennu a yw eu hadeiladau'n perfformio yn ôl y disgwyl.

Dylunio Adeiladau'n AmgylcheddolYsgol Peirianneg

Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddeall cysyniad cynaliadwyedd yng nghyd-destun dyluniad adeiladau, ac effaith yr amgylchedd adeiledig ar yr amgylchedd naturiol.

Dylunio Trefol a Chynllunio

Trafodaethau ynghylch cynllunio a datblygu Eco-ddinasYsgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae'r modiwl hwn yn rhoi dadansoddiad manwl o'r gwahanol fathau o ddatblygiad eco-ddinas (o adeiladau newydd i ôl-ffitio a datblygu anffurfiol) a bydd yn dadansoddi pa brosesau sy’n peri i eco-ddinasoedd ddod i'r amlwg.

Polisïau Trafnidiaeth GynaliadwyYsgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae'r modiwl hwn yn ystyried y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag ymateb i anghenion symudedd cymdeithas ochr yn ochr â lleihau’r effeithiau negyddol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar yr wyneb.

Dadansoddi trafnidiaethYsgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno i’r myfyrwyr set o ddulliau dadansoddol a ddefnyddir yn aml mewn arferion cynllunio trafnidiaeth.

Datblygu a chynllunio ynni adnewyddadwyYsgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Mae ffynonellau ynni adnewyddadwy yn elfen allweddol o bontio i systemau o’r fath, ond mae ehangu cwmpas ynni adnewyddadwy yn codi materion pwysig o ran y berthynas rhwng cymdeithas, ynni, llywodraeth a thirlun.

Llywodraethu'r broses o ddatblygu’r eco-ddinasYsgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Diben y modiwl hwn yw darparu sail ddamcaniaethol wybodus ar gyfer dadansoddi natur ac amrywiaeth y ffurfiau o lywodraethu sy'n nodweddu datblygiadau eco a charbon isel ledled y byd.

Cyfleoedd hyfforddiant DPP eraill

Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau

Mae ein cyrsiau CPD ym maes rheoli rhaglenni a phrosiectau ar gyfer y rhai hynny sydd am ddatblygu sgiliau ymarferol, yn ogystal ag ymarferwyr mwy profiadol sy’n chwilio am gymhwyster ffurfiol.

Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer y rheiny sydd angen sgiliau rheoli prosiect neu raglenni er mwyn gweithredu'n fwyaf effeithiol fel penseiri, peirianwyr adeiladau / amgylcheddol neu gynllunwyr trefol.

Mae’r cyrsiau’n cynnwys:

Cwrs wyneb yn wyneb PRINCE2®

Cwrs hyfforddi dwys, 5 diwrnod o hyd sy'n eich paratoi ar gyfer yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy'n cael eu cymryd fel rhan o'r cwrs. Mae PRINCE2®yn cael ei dderbyn yn rhyngwladol fel y dull rheoli prosiect 'arfer gorau' mwyaf blaenllaw.

CwrsRheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) wyneb yn wyneb

Cwrs hyfforddi dwys, 5 diwrnod o hyd sy'n eich paratoi ar gyfer yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy'n cael eu sefyll yn rhan o'r cwrs. Mae MSP yn cynnig dull strwythuredig o ran rheoli rhaglenni, sy'n helpu sefydliadau i newid.

Cwrs wyneb yn wyneb AGILE PM®

Cwrs hyfforddi dwys, 5 diwrnod o hyd sy'n eich paratoi ar gyfer yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy'n cael eu sefyll yn rhan o'r cwrs. Yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n rheoli neu'n cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno prosiect fydd yn cael ei gynnal drwy ddull Ystwyth.

Cwrs e-ddysgu cyfunol PRINCE2®

Cwrs e-ddysgu cyfunol – cyfle i astudio'n hyblyg gartref neu ar eich cyflymder eich hun, yna ymunwch â ni ar gyfer gweithdy arholiad 2 ddiwrnod o hyd. Yn cynnwys arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd.
Cwrs e-ddysgu cyfunol Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus(MSP)®Cwrs e-ddysgu cyfunol – cyfle i astudio'n hyblyg gartref neu ar eich cyflymder eich hun, yna ymunwch â ni ar gyfer gweithdy arholiad 2 ddiwrnod o hyd. Yn cynnwys arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd.

Cwrs cyflwyniadol Rheoli Prosiect 2 ddiwrnod o hyd

Y dewis perffaith ar gyfer y rheiny sydd angen iddynt ddysgu hanfodion rheoli prosiect mewn amser byr, ond nad oes angen cwrs ardystiedig arnynt. Ymarferol a llawn gwybodaeth.

Mae manylion llawn y cwrs ar dudalen astudiaeth achos rheoli rhaglenni a phrosiectau.

Addysg weithredol

Mae ein darpariaeth Addysg Weithredol yn troi ymchwil academaidd sy'n arwain y byd yn arferion busnes perthnasol, gweithredol ac effeithiol ar gyfer unigolion a sefydliadau. Mae'r rhaglenni wedi eu dylunio i droi cysyniadau a syniadau’n gamau gweithredu penodol sy’n gwella perfformiad unigolion a sefydliadau.

Mae’r cyrsiau’n cynnwys:

Rhaglen Arweinyddiaeth a Gweinyddu Busnes (LBA)Wedi'i dylunio i gynnig cipolwg penodol ar sail gwaith ar ein MBA i Weithredwyr. Bydd modiwlau'n gwbl berthnasol ar gyfer gweithleoedd y rhai sy’n cymryd rhan felly gellir cymhwyso'r hyn a ddysgir yn syth.
Lean Six SigmaYmagwedd sydd wedi hen ennill ei phlwyf sy'n ceisio nodi a dileu diffygion, camgymeriadau neu fethiannau mewn prosesau neu systemau busnes. Rhaglen hyfforddi 5 diwrnod mewn hyd.

Cyflwyniad i Arferion Di-wastraff (Lean) a Rhagoriaeth Weithredol

Diwrnod o hyfforddiant yn archwilio egwyddorion craidd Arferion Di-wastraff Gwelliant Parhaus a Rhagoriaeth Weithredol.

Rhaglen Arbenigol Arferion Di-wastraff

Rhaglen 5 diwrnod o hyd wedi'i dylunio i roi'r sgiliau i asiantau newid, rheolwyr ac arweinwyr i arwain rhaglenni trawsffurfio yn llwyddiannus.

Mae manylion llawn y cwrs ar dudalennau gwe Addysg Weithredol.

Cyrsiau byr DPP

Mae ein rhaglen cwrs byr yn ymdrin â phynciau megis marchnata, cyfathrebu ar-lein a rheoli pobl. Gweithdai a dosbarthiadau ymarferol yw'r rhain, wedi'u dylunio ar gyfer gwella lefelau sgiliau a datblygu gwybodaeth mewn meysydd allweddol.

Rydym wedi dewis y cyrsiau canlynol am eu bod yn arbennig o berthnasol ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn y sector peirianneg/cynllunio/pensaerniaeth/cynllunio.

Cyfathrebu
Sgiliau ysgrifennu ar gyfer busnes
Cyfathrebu hyderus
Sgiliau cyflwyno
Marchnata a chyfathrebu ar-lein
Dadansoddeg Google
Google Ads
SEO
Cyflwyniad i Farchnata Digidol
Marchnata Digidol Uwch
Cyflwyniad i Ysgrifennu Copi
Sgiliau Ysgrifennu Copi Lefel Uwch
Sgiliau rheoli a threfnu
Hyfforddi'r hyfforddwr (2 ddiwrnod)
Hunan-drefnu effeithiol (2 ddiwrnod)
Rheoli Perfformiad er mwyn cael Canlyniadau

Mae manylion llawn y cwrs ar dudalennau gwe Cyrsiau byr DPP.

Os hoffech siarad â'n tîm cyfeillgar yn yr Uned DPP, rhwydd hynt i chi gysylltu â ni:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus