Cwrs eDdysgu a rhithwir cyfunol PRINCE2®
Mae'r gweithdy rhithwir a’r cwrs eDdysgu cyfunol hwn yn cynnig fersiwn ddiweddaraf 2017 ar ddull Rheoli Prosiectau PRINCE2®, ac mae’n paratoi cyfranogwyr ar gyfer arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy'n cael eu sefyll fel rhan o'r rhaglen hon.
Bydd modiwlau sylfaenol yn cael eu cynnal drwy eDdysgu cyn mynd ar y cwrs. Byddwch yn cwblhau'r cwrs eDdysgu yn eich amser eich hun.
Nod y gweithdy rhithwir dau ddiwrnod yw eich helpu i atgyfnerthu'r eDdysgu yr ydych wedi'i gwblhau yn eich amser eich hun, a'ch paratoi ar gyfer yr arholiadau Sylfaenol ac Ymarferydd (wedi'u cynnwys yn rhan o ffi'r cwrs).
Byddwch yn sefyll yr arholiadau Sylfaenol ac Ymarferydd ar adeg sy'n gyfleus i chi ar ôl y gweithdy rhithwir.
Gwybodaeth am Prince2®
Mae PRINCE2® (PRojects IN Controlled Environments) yn ddull strwythuredig o Reoli Prosiectau yn effeithiol.
Mae dull PRINCE2® yn cael ei dderbyn yn rhyngwladol fel yr ymagwedd rheoli prosiect ‘arferion gorau’ blaenllaw, sy’n cael ei ddefnyddio’n eang yn y sectorau preifat a chyhoeddus, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae PRINCE2® yn rhoi fframwaith hyblyg ac addasadwy sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a gweithgareddau sy’n ofynnol i reoli prosiectau, gan achosi iddo fod yn hynod boblogaidd gyda busnesau a sefydliadau.
Mae achrediad PRINCE2® yn dynodi bod rheoli prosiect neu fusnes yn broffesiynol, galluog a chymwys i ymateb i amgylchiadau heriol a newidiol.
Ynglŷn â’r cwrs
eDdysgu
Bydd yr holl eDdysgu ar lefel sylfaenol yn cael ei wneud yn eich amser eich hun yn y mis cyn y gweithdy rhithwir dau ddiwrnod. Bydd holl ddeunyddiau’r cwrs yn cael eu hanfon atoch mewn da bryd.
Mae'r dull hwn yn rhoi dealltwriaeth ehangach i chi fel y byddwch yn dod i'r gweithdy'n gwybod mwy am sut i ddefnyddio'r cysyniadau wrth eich gwaith.
Noder: Gallwch ddewis astudio'r pynciau eDdysgu ar lefel Ymarferydd cyn cymryd rhan yn y gweithdy rhithwir, fodd bynnag nid yw hyn yn hanfodol.
Noder: Bydd angen i chi brynu llawlyfr ar gyfer y cwrs. Nid yw pris hwn yn rhan o ffi'r cwrs.
Gweithdy rhithwir
Mae’r digwyddiad gweithdy dau ddiwrnod yn eich galluogi i ymdrwytho yn y pwnc gyda hyfforddwr arbenigol, ac mae’n gyfle i ddeall sut i gymhwyso dull PRINCE2® yn ymarferol.
Mae'r gweithdy dau ddiwrnod yn dwyn ynghyd y pynciau ar lefel Sylfaenol yr ydych eisoes wedi'u trafod yn eich eDdysgu, gyda rhai elfennau Ymarferydd. Gwneir defnydd helaeth o ddeunyddiau astudiaethau achos sydd â'r nod o'ch helpu i atgyfnerthu elfennau o ran Sylfaenol cwrs PRINCE2®, creu cynhyrchion rheoli allweddol PRINCE2®, trafod materion graddio PRINCE2® a defnyddio elfennau PRINCE2® mewn sefyllfa ymarferol, yn unol â'r hyn y disgwylir i chi ei wneud yn yr arholiad Ymarferydd.
Mae paratoi'n allweddol i lwyddiant, felly rydym yn cynnig rhaglen eDdysgu cyn-gwrs llawn, er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd yn hollol barod ar y diwrnod cyntaf. Mae'r gweithdy rhithwir yn eich galluogi i weithio gyda hyfforddwr arbenigol am ddau ddiwrnod, gan ddefnyddio Zoom i atgyfnerthu eich gwybodaeth, ac i ddysgu sut i ddefnyddio'r cysyniadau.
Mae'r gweithdy rhithwir yn ddwys, ond yn llawn hwyl. Mae swm y wybodaeth y mae angen ei phrosesu er mwyn cyrraedd lefel Ymarferydd yn uchel iawn, felly mae'n hollbwysig eich bod yn cwblhau'r holl ddeunyddiau eDdysgu cyn dod i'r gweithdy rhithwir.
Arholiadau
Bydd y rhain yn cael eu cwblhau ar-lein, ar adeg sy'n gyfleus i chi (yn ddelfrydol o fewn 14 diwrnod o fod ar y gweithdy). Mae'r talebion arholiadau'n ddilys am 12 mis.
Noder: Bydd disgwyl i chi sefyll ffug arholiad Ymarferydd gyda'r hwyr ar ddiwrnod cynta'r gweithdy rhithwir.
Aspire Europe (partner Prifysgol Caerdydd) fydd eich hyfforddwr.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
- Gweithwyr proffesiynol prysur sy'n hapus i gyfuno astudiaeth eDdysgu breifat â sesiynau byw i atgyfnerthu eu dysgu a pharatoi ar gyfer yr arholiadau.
- Rheolwyr prosiect sy'n dymuno datblygu eu sgiliau a dysgu am reoli prosiectau drwy ddefnyddio dull PRINCE2®
- Gweithwyr proffesiynol sy'n dymuno dysgu am reoli prosiectau a dull PRINCE2® yn benodol.
- Unrhyw un sydd angen gwybod sut i redeg prosiectau yn fwy effeithiol.
Pynciau dan sylw
Bydd modiwlau sylfaenol yn cael eu cynnal drwy eDdysgu cyn mynd ar y cwrs. Byddwch yn cwblhau'r cwrs eDdysgu yn eich amser eich hun.
Amlinelliad o'r cwrs eDdysgu
Modiwl | Pynciau |
---|---|
Cyflwyno PRINCE2® |
|
Cysyniadau allweddol |
|
Sefydliad |
|
Dechrau prosiect |
|
Cychwyn prosiect |
|
Ansawdd |
|
Cynlluniau a chynllunio |
|
Rheoli cynnydd |
|
Rheoli ffurfweddiad |
|
Rheoli newid |
|
Rheoli risg |
|
Cludo cynnyrch |
|
Cau prosiect |
|
Bydd y gweithdy arholiadau rhithwir dau ddiwrnod yn cysoni eich dysgu, ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau. Byddwch yn sefyll yr arholiadau ar adeg sy'n gyfleus i chi (yn ddelfrydol o fewn 14 diwrnod o gwblhau'r gweithdy). Mae ffioedd yr arholiadau'n rhan o bris y cwrs.
Sylwch na fydd unrhyw destunau addysgu'n cael eu trafod yn y gweithdy, gan fod hyn yn cael ei drafod yn rhan eDdysgu'r cwrs.
Manteision
- Mynediad at y porth deunyddiau eDdysgu Sylfaenol ac Ymarferydd am 12 mis
- Byddwch yn gwbl barod i sefyll yr arholiadau Sylfaenol ac Ymarferydd (wedi'u cynnwys yn rhan o ffi'r cwrs)
- Gallwch weithio drwy rhan eDdysgu'r cwrs yn eich amser eich hun, fydd yn eich galluogi i ddod i'r gweithdy rhithwir yn barod i gysoni eich dysgu
- Meintiau dosbarthiadau rhithwir bach (uchafswm o 10 o gyfranogwyr), fydd yn eich galluogi i elwa ar broses adolygu gynhwysfawr - rydym hefyd yn defnyddio ystafelloedd trafod i grwpiau bach ar Zoom, sy'n eich galluogi i gydweithio mewn grwpiau llai
- Deall ac egluro rolau, dogfennau, egwyddorion, themâu a phrosesau PRINCE2® a'r berthynas rhyngddynt
- Teilwra a defnyddio cysyniadau allweddol PRINCE2® ar unrhyw brosiect
- Strwythuro, cynllunio a rheoli rhaglenni gan ddefnyddio elfennau priodol PRINCE2®.
Gofynion mynediad
Noder: Bydd angen i chi brynu llawlyfr ar gyfer y cwrs. Nid yw pris hwn yn rhan o ffi'r cwrs.
Cymeradwyir llawlyfrau y gellir eu lawrlwytho i'w defnyddio mewn arholiadau hyd at 30 Medi 2020. Nid ydym wedi cael cadarnhad mai dyma fydd y sefyllfa ar ôl y dyddiad hwn – felly byddem yn eich argymell i brynu llawlyfr copi caled y gallwch wneud nodiadau arno ac ychwanegu tabiau er mwyn gallu ei ddefnyddio'n rhwydd yn ystod eich arholiad.
Ni fydd angen unrhyw offer pellach arnoch heblaw cyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd da a chamera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom.
Dylai fod gennych o leiaf 6 mis o brofiad rheoli prosiectau.
Mae'r cwrs hwn yn ddwys a bydd angen i gynrychiolwyr ymgymryd â chwrs eDdysgu Sylfaenol PRINCE2® yn llawn cyn mynd i'r gweithdy rhithwir. Mae angen cwblhau oddeutu 12 awr o astudio preifat ar gyfer yr elfen eDdysgu.
Mae angen gweithio gyda'r nos ar ddiwedd diwrnod cynta'r gweithdy gan fod y digwyddiad hwn yn ddwys.
Rhesymau dros astudio gyda ni
- Mae ein cwsmeriaid a’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn gennym yn bwysig i ni
- Mae gennym Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®, sydd â chefnogaeth Swyddfa’r Cabinet
- Mae lle i hyd at 10 o bobl ar y gweithdy rhithwir hwn, sy’n galluogi pawb i gymryd rhan yn llawn yn y profiad dysgu
- Mae ein hyfforddwyr wedi derbyn adborth rhagorol gan y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gorffennol
- Mae ein tîm yn cynnig awyrgylch cyfeillgar, croesawgar a chefnogol er mwyn dysgu.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Byddwn yn cadarnhau amseroedd a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pedair wythnos cyn eich cwrs. Mae disgwyl i’r elfen gweithdy rhithwir redeg o 9am bob diwrnod.
Noder: Bydd angen i chi brynu llawlyfr ar gyfer y cwrs. Nid yw pris hwn yn rhan o ffi'r cwrs.
Cymeradwyir llawlyfrau y gellir eu lawrlwytho i'w defnyddio mewn arholiadau hyd at 30 Medi 2020. Nid ydym wedi cael cadarnhad mai dyma fydd y sefyllfa ar ôl y dyddiad hwn – felly byddem yn eich argymell i brynu llawlyfr copi caled y gallwch wneud nodiadau arno ac ychwanegu tabiau er mwyn gallu ei ddefnyddio'n rhwydd yn ystod eich arholiad.
Rhwydwaith o Gynfyfyrwyr Rheoli Prosiectau
Mae pob un o’n cyrsiau ynghylch rheoli prosiectau’n cynnwys aelodaeth rad ac am ddim â Rhwydwaith Rheoli Prosiectau i Gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd i helpu’r rheini sy’n gweithio ym maes rheoli prosiectau a rhaglenni i rwydweithio, rhannu ymarfer gorau a chael y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd y manteision yn cynnwys mynediad â blaenoriaeth i ddigwyddiadau a gweithdai rheoli prosiectau, ymgyrchoedd hyrwyddo a gostyngiadau, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau eraill yn y Brifysgol.
Canslo, trosglwyddo a chyfnewid
Mae'r cwrs hwn yn un 'arbennig' yn nhermau ein poisi canslo, trosglwyddo a chyfnewid. Dyma grynodeb o'r termau sy'n berthnasol i'r cwrs hwn. Mae'r manylion llawn i'w gweld yn ein telerau ac amodau.
Noder, ar ôl i chi gael mynediad at yr elfen e-ddysgu/ar ôl ei lawrlwytho, chewch chi ddim canslo neu drosglwyddo eich lle ar y cwrs.
Canslo
Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith | % ffioedd y cwrs sy’n daladwy |
---|---|
Dros 20 | Ffi weinyddol o £50 |
20-1 | Os na allwn gael rhywun i gadw eich lle: 70%, yn ogystal ag unrhyw gostau ar gyfer deunyddiau cyn y cwrs sydd eisoes wedi’u hanfon ar yr unigolyn neu’r Cleient, oni bai bod y deunyddiau yn cael eu dychwelyd atom o fewn 10 Diwrnod Gwaith mewn cyflwr newydd sbon. |
0 | 100% |
Cyfnewid
Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith | Ffi yn daladwy |
---|---|
Dros 15 | N/A |
15-1 | Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy. |
Trosglwyddo
Faint o rybudd yn ôl diwrnodau gwaith | Ffi yn daladwy |
---|---|
Dros 20 | £50 yn ogystal ag unrhyw wahaniaeth rhwng y ddau gwrs |
20-1 | Byddwn yn trin hwn yn yr un modd â'ch bod wedi canslo a bydd y ffi canslo yn daladwy. |
Darperir hyfforddiant PRINCE2® achrededig fersiwn 6 gan Aspire Europe, wedi'i achredu gan PeopleCert. Mae PRINCE2® fersiwn 6 yn nod masnach cofrestredig i AXELOS Limited. Cedwir pob hawl.