Rheoli perfformiad ar gyfer canlyniadau
Mae rheoli perfformiad yn effeithiol yn ennyn ymgysylltiad cyflogeion i ddangos ymdrech dewisol tuag at eu rheolwr – sy'n helpu cynhyrchiant, yn meithrin cymhelliant, yn cadw staff a pherthynas waith dda.
Bydd y cwrs yn cynnig technegau ymarferol i helpu cyfranogwyr i fabwysiadu ymagwedd ddeublyg: datblygu eich gweithwyr trwy arsylwi cadarn ac adborth treiddgar – sydd wedyn yn golygu bod eich ymdrechion i gyfathrebu a hyfforddi'n barhaus yn cyflawni canlyniadau dymunol. Mae'r dull hwn yn ddigon hyblyg ar gyfer pob proses rheoli ac arfarnu perfformiad gan fod y ffocws ar ddatblygu eich sgiliau a'ch dull o fesur a monitro staff – waeth beth fo'u personoliaeth neu eu cenhedlaeth.
Manjula Bray fydd eich hyfforddwr.
Mynegwch eich diddordeb
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch fynegi eich diddordeb drwy gysylltu â ni.
Ar gyfer pwy mae hwn
Rheolwyr ac arweinwyr tîm, os ydynt yn newydd i swydd rheoli llinell, neu'n brofiadol a hoffent adnewyddu a gwella eu sgiliau.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sgiliau a thechnegau i helpu i wella perfformiad y staff.
- Rôl rheoli perfformiad o fewn datblygiad staff.
- Sut i ddatblygu staff, gosod cynlluniau perfformiad clir â ffocws.
- Cael sgyrsiau adeiladol er mwyn delio'n effeithiol â than-berfformwyr.
Pynciau dan sylw
- Rolau a chyfrifoldebau.
- Sicrhau eglurder o ran safonau perfformiad a ffynonellau tystiolaeth.
- Sgyrsiau adeiladol: paratoi, strwythur a sgiliau, gan gynnwys dull hyfforddi.
- Datblygu sgiliau: gwrando, holi ac adborth gyda chyfleoedd i ymarfer.
Manteision
- Deall sut i nodi, gosod a chytuno ar safonau a nodau gyda'ch staff.
- Datblygu'ch sgiliau holi a gwrando gweithredol er mwyn nodi problemau craidd
- Gwybod sut i roi adborth effeithiol ac adeiladol a'i dderbyn.
- Cydnabod sut i deilwra ymyriadau i ddiwallu anghenion unigol.
- Arfer strategaethau gwella perfformiad effeithiol.