Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn Brifysgol Grŵp Russell, sy’n adnabyddus am addysgu ardderchog, ymchwil ragorol a chysylltiadau â busnesau a’r diwydiant.

Ein arbenigedd

P’un a ydych yn fusnes sydd am ddatblygu eich staff, yn unigolyn sy’n ceisio datblygu eich gyrfa drwy gwrs byr, neu’n sefydliad proffesiynol sy’n archwilio cyfleoedd i ddatblygu, mae gennym rywbeth ar eich cyfer chi. Gydag arbenigedd sy’n cynnwys sawl sector a disgyblaeth, rydym yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol helaeth sydd wedi’u dylunio i godi lefelau sgiliau a rhoi gwybodaeth a thechnegau arloesol i gyfranogwyr.

Ein cyfleoedd hyfforddi DPP

Mae'r llawlyfr yn darparu manylion o amrywiaeth eang o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) sydd ar gael yn y Brifysgol, gan gynnwys ein rhaglen agored o ddewisiadau datblygiad proffesiynol. Mae'r rhaglen agored, sydd wedi'i ddylunio ar gyfer unigolion a busnesau, yn cynnwys pynciau fel marchnata, cyfathrebu ar-lein, rheoli prosiect a rheoli pobl. Mae yna hefyd nifer o gyrsiau hyfforddi meddygol a gofal iechyd, sy'n cael eu cynnal gan yr Ysgol Meddygaeth, yn cynnig hyfforddiant datblygiad proffesiynol am brisiau cost-effeithiol.

Rydym hefyd yn cynnig modiwlau unigol ôl-raddedig a addysgir, sydd wedi eu dylunio yn benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio fel DPP.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau agored ar sail bwrpasol i fodloni gofynion penodol eich busnes/sefydliad.

  • Dosbarthiadau bach mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas
  • Mae 90% o’n cwsmeriaid yn ein canmol yn dda neu’n ardderchog
  • Mae gennym profiad helaeth gyda busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Uned DPP bwrpasol

Mae gan ein tîm o arbenigwyr brofiad helaeth o weithio gyda sefydliadau yn y DU ac yn rhyngwladol.

Rydym ni yma i roi porth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ar draws y Brifysgol.  Byddwn yn eich arwain drwy’r broses, gan hwyluso’r gwaith o droi ymchwil a gwybodaeth yn weithgareddau hyfforddiant ymarferol ac effeithiol.

Customer Service Excellence

Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid

Rydym yn falch o fod wedi cyrraedd y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid® nodedig sy'n golygu gallwch fod yn sicr bod eich profiad gyda ni yn gadarnhaol a chyfeillgar. Yn ogystal, cyflwynwyd gwobr Customer Service Excellence® 2021 i ni’n ddiweddar am gynnal sefydliad sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, sy’n cydnabod y gwaith rydym wedi'i wneud i addasu ein gwasanaethau a chefnogi dysgu, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.