Ewch i’r prif gynnwys

Pensaernïaeth

Mae’n bleser gennym gynnig detholiad o fodiwlau ôl-raddedig a addysgir gan yr MSc mewn Dylunio Adeiladau Amgylcheddol, rhaglen sydd wedi'i hachredu gan Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE).

Mae'r modiwlau a gynigir yn addas ar gyfer penseiri proffesiynol, peirianwyr, technolegwyr adeiladu, neu'r rhai sy'n gweithio ym maes dylunio amgylcheddol sy'n dymuno datblygu eu sgiliau neu eu gyrfa, ac sy'n hapus i astudio ochr yn ochr â myfyrwyr MSc llawn.

Mae rhaglen dysgu o bell Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi'i theilwra'n neilltuol er mwyn gweddu i’r unigolion hynny nad ydynt yn cael eu haddysgu yng Nghaerdydd. Yn bennaf, rwy’n hoff iawn o’r ffaith y caiff pob darlith ei recordio, gan gynnwys unrhyw gwestiynau a holwyd yn y ddarlith, a thrafodaethau â myfyrwyr lleol. Yn hyn o beth, go brin y collaf unrhyw gynnwys y cwrs, sy’n caniatáu imi ymdrin â’r holl ddeunydd yn fy amser fy hun, ac ar gyflymdra sy’n gweddu i mi. Mae'r staff yn hynod gefnogol ac yn cynnig cymorth yn ystod tiwtorialau ar-lein a thros Skype. Ar ben hynny, rhoddir cyfle imi ymgysylltu â dysgwyr eraill o bell, a myfyrwyr lleol hefyd, naill ai drwy waith grŵp, dros Skype neu yn ystod tiwtorialau ar-lein.

Kate Paxton, MSc Dylunio Adeiladau’n Amgylcheddol (Dysgu o bell) MSc Dylunio Adeiladau'n Amgylcheddol

Modiwlau

Fel arfer, mae’r modiwlau hyn wedi cael eu cynnig fel opsiynau unigol:

RIAI logo

Cydnabyddir y cyrsiau hyn gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Iwerddon (RIAI).

Credydau

Modiwl 10 credyd ar Lefel 7 (lefel ôl-raddedig) (cyfeirnod ART122)

Dyddiadau a chost

Semester yr Hydref.Cysylltwch â ni i gael yr amserlen ddiweddaraf a gwybodaeth ffioedd.

Disgrifiad amlinellol

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno prif gysyniadau cynaliadwyedd. Mae'n ystyried bod datblygiad hanesyddol y mudiad 'gwyrdd' a Newid yn yr Hinsawdd yn gyd-destun pwysig ar gyfer datblygu cynaliadwy.

Mae'n nodi safbwyntiau gwahanol am gynaliadwyedd a fabwysiadir heddiw, ar lefel ddamcaniaethol yn ogystal ag ymarferol, ac yn annog myfyrwyr i gwestiynu'r rheini yn ogystal â'u safbwyntiau eu hunain. Mae'r modiwl yn gofyn i fyfyrwyr yn datblygu eu safbwynt eu hunain am gynaliadwyedd mewn perthynas â graddfa ddatblygu benodol (o adeiladau unigol drwy gymunedau i raddfa drefol); gan gynnwys ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n sail i gynaliadwyedd yn yr amgylchedd adeiledig (h.y. iechyd a lles, cyfiawnder cymdeithasol, cyfrifoldeb proffesiynol a moeseg).

Mae'r modiwl yn rhoi strwythur i fyfyrwyr ddatblygu, trafod a llunio eu safbwynt cynaliadwyedd personol a myfyrio ar rôl eu proffesiwn dewisol yn y dyfodol wrth sicrhau cynaliadwyedd cyfannol.

Amcanion

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyriwr fod yn gallu:

  • crynhoi'r cysyniad a chyd-destun cynaliadwyedd
  • nodi cymhlethdodau a chyd-ddibyniaethau datblygu cynaliadwy a'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â chymhwyso egwyddorion cynaliadwyedd ar waith ar amrywiaeth o raddfeydd datblygu
  • llunio safbwynt y gellir ei gyfiawnhau i ddangos yr hyn y gall eu rôl broffesiynol o'u dewis ei wneud i wella cynaliadwyedd holistaidd mewn perthynas â'r amgylchedd adeiledig.

Cyflwyniad

Bydd y deunydd ar gyfer y modiwl hwn ar gael i bob myfyriwr drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, sef Dysgu Canolog.  Bydd deunydd yn cael ei ryddhau bob wythnos tra bydd y modiwl yn cael ei addysgu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gweithio drwy'r deunydd hwn mewn modd amserol.  Bydd y deunydd yn:

Deunydd Darllen: Bydd disgwyl i fyfyrwyr weithio drwy destunau gosod. Bydd y rhain ar gael naill ai drwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir neu’r llyfr(au) a nodwyd isod a/neu a gaiff eu rhoi ar ddiwrnod cyntaf addysgu’r modiwl.

Deunydd Darlithoedd: Bydd nifer o ddarlithoedd yn ymdrin â'r pynciau allweddol.  Bydd y pwnc yn cael ei esbonio ar lafar drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol.

Deunydd Seminarau: Bydd materion penodol yn cael eu hystyried mewn seminarau grŵp. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i fynegi a thrafod eu barn ar bynciau penodol. Bydd tasgau byr yn cael eu gosod er mwyn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr astudio’n unigol a chreu fforwm ar gyfer cyfnewid barn.

Astudiaethau achos: Bydd astudiaethau achos o’r diwydiant a’r byd academaidd yn egluro cysyniadau ac egwyddorion.

Bydd recordiadau o ddarlithoedd a thrafodaethau ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n ymwneud â’r modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr o bell, a bydd disgwyl iddynt eu gwylio/gwrando arnynt.  Mae'r darlithoedd hyn yn esbonio neu’n ymhelaethu ar y prif bwnc a nodir yn y rhestr ddarllen hanfodol.  Fel arfer, bydd cyflwyniadau PowerPoint neu PDF yn ategu recordiadau o'r darlithoedd.

Credydau

Modiwl 10 credyd ar Lefel 7 (lefel ôl-raddedig) (cyfeirnod ART135)

Dyddiadau a chost

Semester y Gwanwyn.Cysylltwch â ni i gael yr amserlen ddiweddaraf a gwybodaeth ffioedd.

Disgrifiad amlinellol

Mae dyluniad carbon isel yn gofyn am ddull holistaidd o ddefnyddio ynni adeilad. Mae angen i'r dylunydd ddeall mewn egwyddor sut mae adeiladau'n defnyddio ynni ac ategu'r ddealltwriaeth hon â thystiolaeth o ddefnydd ynni o'r maes. Bydd angen i'r myfyriwr allu gweithio gyda nodau o ran dylunio adeiladau, megis safonau dim carbon, a ffyrdd o wrthbwyso’r defnydd o ynni gyda thechnolegau adnewyddadwy.

Felly nodau'r modiwl yw:

  • cyflwyno'r ffyrdd y mae adeiladau'n defnyddio ynni
  • cyflwyno dulliau o ateb gofynion ynni adeiladau trwy ynni adnewyddadwy a systemau ynni isel
  • cyflwyno technegau ar gyfer asesu ôl-troed carbon a pherfformiad yr adeilad gan ddefnyddio meincnodau.

Amcanion

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyriwr fod yn gallu:

  • esbonio sut mae adeiladau’n defnyddio ynni, gofynion a llwythi adeiladau ac effaith deiliadaeth ar y defnydd o ynni
  • esbonio’r defnydd o dechnolegau adnewyddadwy a thechnolegau oeri ynni isel mewn adeiladau
  • dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cysyniad o ynni ymgorfforedig
  • dangos dealltwriaeth o ddulliau asesu ar gyfer dyluniad cynaliadwy
  • gwerthuso pa mor dda mae adeilad yn cyflawni dyluniad carbon isel
  • asesu effaith opsiynau gwasanaethau adeiladu amrywiol ar broblem dylunio adeiladau.

Cyflwyniad

Bydd y prif bwnc yn cael ei esbonio mewn darlithoedd drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol. Bydd yr addysgu’n rhyngweithiol ac yn cynnwys arddangosiadau, lle bo’n berthnasol. Bydd y darlithoedd yn cael eu recordio, a bydd y recordiadau ar gael ar-lein.

Deunydd ategol ar lein: Bydd cynnwys y modiwl ar gael i fyfyrwyr yn electronig ar ffurf gwybodaeth ar y we, nodiadau technegol ac arddangosiadau rhyngweithiol, drwy wneud defnydd o Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, sef Dysgu Canolog.

Testunau gosod:  Bydd rhai testunau’n brif ffynonellau cyfeirio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â'r deunydd ynddynt.

Astudiaethau achos: Bydd cyflwyniadau mewn darlithoedd yn trafod enghreifftiau go iawn i ddangos sut mae'r theori sy’n cael ei hastudio’n rhan o’r modiwl wedi'i rhoi ar waith yn ymarferol.

  • Bydd tasgau byr yn cael eu gosod i roi cyfleoedd i fyfyrwyr atgyfnerthu eu sgiliau a’u gwybodaeth am y pwnc a chreu fforwm ar gyfer cyfnewid barn. Byddant hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wella eu sgiliau ysgrifennu a chyflwyno. Gellir cyflawni'r tasgau hyn drwy amgylchedd cydweithredol ar-lein.
  • Bydd cyfle i fyfyrwyr drafod pynciau penodol â thiwtoriaid a chymheiriaid mewn seminarau grŵp. Bydd myfyrwyr yn cyfrannu’n sylweddol at y seminarau grŵp hyn. Bydd cyfle i fyfyrwyr hefyd gyflwyno a thrafod eu barn eu hunain. Gellir cymryd rhan yn y sesiynau grŵp hyn drwy amgylchedd cydweithredol ar-lein.
  • Bydd gweithgareddau ymarferol yn cael eu cynnal i roi cyfle i fyfyrwyr ymarfer defnyddio sgiliau sy’n benodol i’r pwnc, yn ogystal â sgiliau datrys problemau a chyflwyno mwy generig. Bydd gweithdai’n cael eu cynnal, lle bydd myfyrwyr yn gweithredu’r feddalwedd a ddefnyddir yn y modiwl wrth derfynellau cyfrifiadurol. Gall y gweithdai hyn gael eu cynnal drwy amgylchedd cydweithredol ar-lein.

Modelu cyfrifiadurol: Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i gael profiad o ddefnyddio dulliau o fodelu meddalwedd a gyflwynir yn y cwrs.

Credydau

Modiwl 10 credyd ar Lefel 7 (lefel ôl-raddedig) (cyfeirnod ART142)

Dyddiadau a chost

Semester dwbl. Cysylltwch â ni i gael yr amserlen ddiweddaraf a gwybodaeth ffioedd.

Disgrifiad amlinellol

Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno'r dulliau a'r technegau y gall dylunwyr, perchnogion a gweithredwyr adeiladau eu defnyddio i bennu a yw eu hadeiladau'n perfformio yn ôl y disgwyl. Mae'n cyflwyno mesur a gwerthuso ôl-feddiannaeth.

Mae angen i adeiladau berfformio yn ôl y disgwyl er mwyn datblygu'r amgylchedd adeiledig yn gynaliadwy. Mae profiad wedi dangos i ni y bydd adeiladau sy'n anghyfforddus, yn cael eu gweithredu'n wael, neu wedi'u cynnal a'u cadw'n wael, yn defnyddio llawer mwy o adnoddau nag y cawsant eu cynllunio ar eu cyfer

Mae'r modiwl yn seiliedig ar y gred bod gwerthuso, adborth a beirniadaeth yn gydrannau hanfodol i gynnydd dylunio. Dim ond pan fydd yr asesiad hwn wedi'i gwblhau gan ddefnyddio dulliau credadwy a phriodol y gellir sicrhau cynnydd. Nod y modiwl yw atgyfnerthu'r neges hon a chyflwyno nifer o ddulliau a thechnegau ymchwilio a dadansoddol i'r myfyriwr, gan gynnwys efelychu, mesur ac arolygu. Bydd yn ystyried safbwyntiau ffisegol a dynol yr amgylchedd adeiledig ac yn defnyddio dulliau sy'n briodol i ymchwiliadau academaidd sy'n seiliedig ar ymarfer.

Amcanion

Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyriwr fod yn gallu:

  • nodi ffactorau sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at berfformiad cynaliadwy adeiladau sy'n cael eu defnyddio
  • nodi technegau monitro ac ymchwil priodol i werthuso perfformiad adeiladu a datblygu sydd ar waith
  • esbonio sut y gellir monitro ac ymchwilio i helpu i wella perfformiad adeiladu.

Cyflwyniad

Bydd y deunydd ar gyfer y modiwl hwn ar gael i bob myfyriwr drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog. Bydd deunydd yn cael ei ryddhau bob wythnos tra bydd y modiwl yn cael ei addysgu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw gweithio drwy'r deunydd hwn mewn modd amserol.  Bydd y deunydd yn:

  • Deunydd Darlithoedd: Bydd y prif bwnc yn cael ei esbonio mewn darlithoedd drwy ddefnyddio cymhorthion gweledol. Bydd yr addysgu’n rhyngweithiol ac yn cynnwys arddangosiadau, lle bo’n berthnasol. Fel arfer, bydd darlithoedd yn cael eu recordio, a bydd y recordiadau ar gael i’w gwylio.
  • Deunydd Darllen a Chymorth Ar-lein: Bydd cynnwys y modiwl ar gael i fyfyrwyr yn electronig. Yn ogystal, bydd rhai testunau’n brif ffynonellau cyfeirio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gyfarwydd â'r deunydd ynddynt.
  • Deunydd Aseiniadau: Bydd gweithgareddau ymarferol yn cael eu gosod er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer defnyddio rhai sgiliau sy’n benodol i’r pwnc.

Yn ogystal, i gefnogi'r uchod, bydd:

  • Trafodaethau: Bydd byrddau trafod ar-lein, ar gyfer myfyrwyr sy’n dysgu o bell a myfyrwyr lleol, yn cael eu defnyddio er mwyn i fyfyrwyr gael cymorth gan diwtoriaid a chymheiriaid.

Tiwtorialau: Gellir trefnu i grwpiau bach gael trafodaeth wyneb-yn-wyneb â thiwtor y modiwl drwy ddefnyddio meddalwedd cyfathrebu ar-lein, ar adeg sy’n gyfleus i’r ddwy ochr.

A fydd angen unrhyw offer penodol arnaf?

Bydd angen mynediad at gyfrifiadur/gliniadur gyda meddalwedd prosesu geiriau a mynediad da i'r rhyngrwyd, ac sy'n gallu rhedeg meddalwedd Design Builder. Dylai meddalwedd briodol fod ar gael trwy fewnrwyd Prifysgol Caerdydd a byddwch yn cael eich cyfeirio ato pan fo angen.

Byddai gyriant USB neu galed i storio'ch gwaith, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer darlunio sylfaenol yn ddefnyddiol hefyd

Lle bo hynny'n briodol, rydym yn darparu trwyddedau myfyrwyr neu fynediad i'r feddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar gyfer addysgu, ond ar hyn o bryd gallwn ond warantu bod y rhain yn gweithio ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows.

Bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol.

Efallai yr hoffech chi brynu rhai testunau allweddol hefyd. Er bod y testunau sy'n ofynnol ar gyfer astudio ar gael yn llyfrgell yr Ysgol, mae manteision i fod yn berchen ar eich copi personol o waith allweddol fel y gallwch gael mynediad atynt pryd bynnag y dymunwch.

Asesu

Asesir modiwlau a addysgir mewn amryw o wahanol ffyrdd. Rydym yn defnyddio profion dosbarth, gwaith cwrs (aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar neu asesiadau/adolygiadau beirniadol), a gwaith prosiect, neu gyfuniad o'r rhain i asesu'ch cynnydd. Efallai y gofynnir i chi hefyd gwblhau profion trwy oruchwylio ar-lein.

Gofynion mynediad

Fel arfer, bydd angen i ymgeiswyr fod â naill ai:

  • gradd anrhydedd 2:1 mewn pensaernïaeth, peirianneg gwasanaethau adeiladu, technoleg adeiladu, neu astudiaethau amgylcheddol
  • cymhwyster academaidd cyfatebol a gydnabyddir gan brifysgol
  • neu brofiad proffesiynol perthnasol y mae geirda yn ei ddangos.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS sydd â sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth a dderbynnir.

Rhagor o wybodaeth am y gofynion iaith Saesneg.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â'r Uned DPP i gael arweiniad pellach ar y broses ymgeisio:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus