Sgiliau Ysgrifennu ar gyfer Busnes (cwrs pwrpasol)
Bydd y cwrs undydd hwn yn helpu cyfranogwyr i gyfathrebu'n gliriach ac yn fwy hyderus yn yr holl waith ysgrifennu sy'n gysylltiedig â busnes a gynhyrchir ganddynt, o negeseuon e-bost syml i adroddiadau llawn.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhaglen bwrpasol ar gyfer cwmnïau a sefydliadau yn unig. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.
Drwy wneud pethau'n iawn y tro cyntaf ac osgoi ail-ysgrifennu droeon sy'n cymryd amser, bydd cyfranogwyr yn fwy effeithlon ac yn fwy cynhyrchiol. A thrwy ysgrifennu mewn Saesneg clir, gall busnesau a sefydliadau sicrhau bod eu dulliau cyfathrebu ysgrifenedig yn fwy tryloyw a chynhwysol ac yn cael eu darllen gan fwy o bobl.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Unrhyw un sy'n defnyddio'r gair ysgrifenedig yn eu gwaith ac sydd am wella ansawdd, effaith ac effeithlonrwydd eu hysgrifennu.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ysgrifennu mewn Saesneg clir
- Dysgu osgoi'r gwallau cyffredin mewn atalnodi a gramadeg
- Sut i ysgrifennu ar gyfer pobl o wahanol alluoedd darllen
- Dysgu dylanwadu ar ddarllenwyr gyda thechnegau ysgrifennu darbwyllol
- Y pŵer y gall cyflwyniad gwych ei roi i'ch gwaith
Pynciau dan sylw
- Pwysigrwydd deall ar gyfer pwy rydych chi'n ysgrifennu
- Pam mae Saesneg plaen yn hanfodol
- Gwersi syml a hwyl i'ch helpu i ddefnyddio gramadeg ac atalnodi'n iawn
- Sut i osgoi peryglon cyffredin Saesneg
- Arddull ysgrifennu a darllenadwyedd
- Cynllunio a strwythuro adroddiadau
- Ysgrifennu e-byst ac ysgrifennu ar gyfer y we
- Prawfddarllen
Manteision
- Ysgrifennu mewn ffordd sy'n cyflwyno delwedd broffesiynol ohonoch chi a'ch cwmni
- Dysgu ysgrifennu'n fwy effeithiol ac yn dylanwadu
- Dysgwch i ysgrifennu copi arbenigol ar gyfer e-bost a'r we
- Drwy ysgrifennu'n fwy effeithlon byddwch yn dod yn fwy cynhyrchiol
- Gwneud eich cyfathrebu ysgrifenedig yn fwy tryloyw a chynhwysol