Datblygu proffesiynol
Cynigiwn gyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth i wella eich sgiliau a rhoi’r wybodaeth a’r technegau diweddaraf i chi.
Datblygwch eich sgiliau a’ch gwybodaeth broffesiynol gyda'n rhaglen cwrs byr, wrth rannu profiadau a syniadau ag eraill yn eich maes.
Rydym yn cynnig ystod ddethol o fodiwlau a addysgir i ôl-raddedigion y gellir eu hastudio yn unigol.
Gallwn gynnig fersiynau wedi’u teilwra o gwrs hyfforddiant DPP presennol, neu ddatblygu rhywbeth yn benodol i’ch sefydliad. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Angen gloywi eich sgiliau rheoli prosiect? Porwch drwy ein hystod trawiadol o gyrsiau hyfforddiant, gan gynnwys rhaglenni PRINCE2 a MSP.
Newyddion diweddaraf
Cyrsiau hyfforddiant DPP a chyfleoedd i unigolion sy'n gweithio ym maes dylunio adeiladau'n amgylcheddol a chynllunio'r eco-ddinas.
Rydym yn cynnig nifer o raglenni cyffrous, gan gynnwys cyrsiau Di-wastraff a Rheoli. Mae'r rhain yn eich galluogi i gael safbwyntiau newydd ar amrywiaeth o faterion busnes a rheoli.