Cyrsiau byr
Cynigiwn ystod o gyrsiau byr yn unol ag amserlen, gan alluogi’r rhai sy’n eu dilyn i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn amgylchedd difyr a deinamig wrth rannu profiadau a syniadau ag eraill yn y maes.
Mae ein rhaglen DPP cyrsiau byr yn eich galluogi chi i ddysgu'n hyblyg a datblygu sgiliau'n berthnasol i'ch proffesiwn. Cyrsiau byrrach, dwys, di-gredyd yw’r rhain gan mwyaf. Er bod rhai ar gyfer pobl mewn meysydd proffesiynol penodol, mae eraill yn ymdrin â sgiliau mwy cyffredinol a fydd yn werthfawr i ystod eang o bobl.
Mae ein cyrsiau Marchnata a Chyfathrebu ar-lein, Cyfathrebu, a Rheoli wedi'u dylunio i ategu'u gilydd, felly rydym yn cynnig gostyngiad o 10% os ydych yn archebu mwy nag un cwrs ar unwaith. Mae pynciau yn cynnwys cysylltiadau â'r cyfryngau, ysgrifennu ar gyfer y we a hyfforddiant Dadansoddeg Google.