Ewch i’r prif gynnwys

Trwydded barcio

Diweddarwyd: 16/08/2022 15:49

Gallwch barcio car mewn rhai neuaddau preswyl os ydych chi wedi cael trwydded barcio.

Dim ond hyn a hyn o drwyddedau parcio sydd ar gael ar gyfer pob neuadd breswyl. Rhaid i chi ofyn am drwydded barcio wrth wneud cais am lety. Dim ond os oes lle ar gael y rhoddir trwydded barcio i chi.

Dyma’r neuaddau lle mae ychydig o leoedd parcio ar gael i’r rhai sydd â thrwydded barcio:

  • Neuadd Aberconwy (trwyddedau myfyrwyr anabl yn unig)
  • Llys Cartwright
  • Neuadd Hodge
  • Neuadd Roy Jenkins
  • Llys Tal-y-bont (trwyddedau myfyrwyr anabl yn unig)
  • Porth Tal-y-bont
  • Gogledd Tal-y-bont
  • Neuadd y Brifysgol.

Os nad oes gennych drwydded, neu os ydych chi'n aros mewn unrhyw neuaddau preswyl eraill, ni fyddwch yn gallu parcio ar y safle. Os felly, ni ddylech ystyried dod â char i Gaerdydd.

Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gallu mynd o gwmpas Caerdydd a'r ardal gyfagos yn hwylus drwy gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Diogelwch a chyfyngiadau

At ddibenion diogelwch, rhaid i bob cerbyd sydd wedi parcio ar dir sy’n eiddo i’r Brifysgol ddangos trwyddedau parcio dilys. Os nad yw’r drwydded i’w gweld ar gerbyd, gallwch wynebu camau pellach. Fe’ch cynghorir i gloi eich cerbyd bob amser a pheidio â gadael eitemau gwerthfawr ynddo.

Rhaid i bob cerbyd fod wedi’i barcio mewn man parcio dynodedig fel bod cerbydau’r gwasanaethau brys yn gallu cael mynediad bob amser.

Cofiwch fod cyfyngiad cyflymder o 5mya ar holl safleoedd y preswylfeydd.