Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen ymgyfarwyddo

Diweddarwyd: 31/08/2022 15:27

Ymgyfarwyddo Ar-lein i'ch helpu i baratoi ar gyfer dechrau bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n rhoi trosolwg o bynciau megis iechyd meddwl, sgiliau astudio, a bywyd yng Nghymru fel y byddwch chi’n gwbl barod ar gyfer eich amser gyda ni.

Mae’r rhaglen ymgyfarwyddo wedi’i rhannu’n 19 adran o'r enw 'deciau'. Mae deciau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, graddedigion ôl-raddedig (a addysgir ac ymchwil), a myfyrwyr sy'n astudio ar Gampws Parc y Mynydd Bychan. Gallwch chi gwblhau’r deciau mewn unrhyw drefn.

Cyrchu’r wybodaeth

Ddechrau mis Medi byddwch chi’n cael ebost gan welcome@caerdydd.ac.uk o'r enw 'Dyma raglen Ymgyfarwyddo Prifysgol Caerdydd' ar y cyd â chyfarwyddiadau ar sut i gyrchu’r rhaglen Ymgyfarwyddo.

Ar eich cyfer chi’n unig y mae’r ddolen yn yr ebost. Felly, gofalwch mai dim ond y ddolen hon rydych chi’n ei defnyddio i gyrchu’r rhaglen.

Rydyn ni’n argymell eich bod yn cwblhau’r rhaglen ymgyfarwyddo ar-lein cyn ichi gyrraedd y campws er mwyn ichi fod yn gwbl barod ar gyfer bywyd myfyrwyr y Brifysgol.

Os oes gennych chi gwestiynau neu broblemau wrth gyrchu’r rhaglen, ebostiwch welcome@caerdydd.ac.uk.