Ewch i’r prif gynnwys

Costau byw a chyllidebu

Diweddarwyd ddiwethaf: 27/06/2025 14:25

Dysgwch am bwysigrwydd cyllidebu a sut i gael mwy am eich arian.

Mae cyllidebu yn sgil sy’n ein galluogi i reoli ein harian. Mewn egwyddor, mae’n syml, ond gall rhoi’r theori ar waith fod yn anodd, ac mae angen disgyblaeth.

Cyfartaledd costau byw

Dim ond hanner y broses o gyllidebu yw gwybod faint o arian sydd gennych. Mae angen i chi wybod hefyd faint fyddwch chi’n ei wario fel myfyriwr.

Gall ein cyfrifiannell costau byw eich helpu i ddangos y gost gyfartalog o fyw (wedi’i gyfrifo o wariant myfyrwyr go iawn) yn dibynnu ar eich lefel astudio a lle rydych chi’n dewis byw.

Myfyrwyr rhyngwladol: Mae’r ffigurau hyn yn wahanol i’r prawf cynnal a chadw ariannol a ofynnir i chi ei basio i dderbyn eich fisa myfyriwr Haen 4.

Cyllidebu

Yn syml, cyfrifwch faint o gyllid sy’n dod i mewn a pha gostau sydd rhaid i chi ei dalu. Gall fod yn ddefnyddiol cyllidebu ar sail wythnosau, misoedd neu dymhorau. Gwnewch yr hyn sy’n gweithio orau i chi. Cofiwch gadw golwg ar eich cyfrif banc yn rheolaidd er mwyn osgoi bod mewn argyfwng arian annisgwyl.

Cyfrifon banc i fyfyrwyr

Mae gwneud y gorau o'r cynnyrch ariannol sydd ar gael i chi tra’r rydych yn fyfyriwr yn beth call i’w wneud.

Cymerwch olwg ar Save the Student neu Money Saving Expert i gael gwybodaeth ddefnyddiol am gyfrifon banc i fyfyrwyr.

Myfyrwyr rhyngwladol

Ar ôl i chi gyrraedd Caerdydd a chasglu eich cerdyn adnabod myfyriwr, byddwch yn gallu agor cyfrif banc yn y DU. Mae canllawiau llawn, gan gynnwys sut i gael eich llythyr banc a throsglwyddo arian o dramor, ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Myfyrwyr cyfnewid un semester

Os ydych chi'n aros yng Nghaerdydd am chwe mis neu lai, efallai y bydd eich opsiynau ar gyfer agor cyfrif banc yn y DU yn gyfyngedig, gan fod llawer o fanciau angen i chi aros am hirach.

Opsiynau eraill i'w hystyried:

  • cyfrif sylfaenol neu gyfrif myfyriwr rhyngwladol gan fanciau fel HSBC neu Lloyds
  • banciau sy'n seiliedig ar apiau fel Monzo, Revolut, neu Wise
  • defnyddio'ch cyfrif banc cartref os yw'n caniatáu defnydd rhyngwladol
  • cardiau teithio a dalwyd ymlaen llaw ar gyfer gwariant bob dydd

Gwiriwch am ffioedd a thaliadau trosi arian cyfred cyn gwneud eich dewis.

Cael mwy am eich arian

Dyma syniadau ar gyfer cynyddu eich incwm a lleihau eich gwariant.

Efallai eich bod eisoes wedi cael swydd ran-amser cyn dod i'r brifysgol, felly beth am barhau gyda hynny?

Dysgwch fwy am weithio yn ystod eich astudiaethau.

Cerdyn Adnabod Myfyriwr Prifysgol Caerdydd

Yn ogystal â rhoi mynediad i chi i adeiladau'r Brifysgol, efallai y bydd eich cerdyn adnabod myfyriwr hefyd yn rhoi'r hawl i chi gael gostyngiad myfyriwr mewn rhai siopau, sinemâu a bwytai.

Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Fel myfyriwr byddwch yn gallu prynu cerdyn TOTUM os hoffech un. Os gwnewch hynny, fe welwch fod llawer o bethau, gan gynnwys tocynnau sinema, dillad, teithiau, ar gael am bris gostyngol. Os nad ydych yn siŵr a yw rhywle yn cynnig gostyngiad myfyriwr, gofynnwch.

ISIC (Cerdyn Adnabod Myfyriwr Rhyngwladol)

Mae cerdyn ISIC ar gael i unrhyw fyfyriwr amser llawn ac mae'n rhoi'r hawl i chi gael gostyngiadau ar deithiau hedfan siarter, rhai llety, tocynnau sinema a mynediad i orielau celf ac amgueddfeydd.

I gael ISIC, bydd angen ffotograff maint pasbort arnoch a phrawf eich bod yn fyfyriwr amser llawn.

Cerdyn Bws i Bobl Ifanc

Mae’r cerdyn bws i bobl Ifanc yn rhoi gostyngiad oddi ar holl deithiau bws National Express yn y DU i chi a gallwch brynu un yn swyddfeydd bysiau National Express neu o wefan National Express.

Cerdyn rheilffordd 16-25

Mae'r cerdyn hwn yn rhoi gostyngiad oddi ar eich teithiau trên (yn amodol ar delerau ac amodau) yn y DU. I gael hwn bydd angen prawf eich bod yn fyfyriwr, eich pasbort a llun maint pasbort. Gallwch brynu'r cerdyn mewn unrhyw orsaf reilffordd neu drwy wefan y cerdyn rheilffordd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gostau byw neu gyllidebu, cysylltwch â ni:

Cyngor ac Arian Myfyrwyr