Siarter y Myfyrwyr
Diweddarwyd: 09/08/2023 14:18
Mae Siarter y Myfyrwyr yn amlinellu'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan Brifysgol Caerdydd ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â’r rôl sydd gennych o ran manteisio ar eich amser gyda ni i’r eithaf.
Rydyn ni’n awgrymu ichi ddarllen Siarter y Myfyrwyr cyn ichi gyrraedd.
Y Siarter
Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod profiad pob myfyriwr cystal ag y bo modd drwy wneud y canlynol:
Gweithio ar y cyd
Mae myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i gryfhau eu profiad fel myfyrwyr.
Bydd y Brifysgol yn gwrando ac yn ymateb i lais y myfyrwyr i greu sefydliad dysgu sy'n ateb eu disgwyliadau ac yn helpu i ehangu eu profiad. Mae gan fyfyrwyr amryw o gyfleoedd i fynegi eu barn am yr hyn mae’r Brifysgol yn ei wneud yn dda a’r hyn y gallai ei wella.
Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am newidiadau sydd wedi deillio o’u adborth mewn amryw ffyrdd megis: System Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr (sy'n cynnwys paneli staff myfyrwyr), Wythnos Siarad/Enillion Myfyrwyr (ymgyrch llais myfyrwyr), mewnrwyd myfyrwyr, Dysgu Canolog, ap myfyrwyr a newyddion myfyrwyr (dros ebost, cylchlythyrau, papurau newydd ac ati)
Diben Undeb y Myfyrwyr yw cynrychioli ei aelodau yn y Brifysgol trwy gwahodd myfyrwyr i gymryd rhan yn y prosesau ac ymgyrchoedd democrataidd, gwrando ar lais y myfyrwyr a nodi pethau sy’n codi dro ar ôl tro yn adborth myfyrwyr. Yn flynyddol, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynhyrchu Barn y Myfyrwyr, gan nodi tueddiadau a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach i brofiad myfyrwyr. Mae Prosiectau Partneriaeth yn cael eu sefydlu yn ystod pob sesiwn academaidd mewn ymateb i Farn y Myfyrwyr. Mae'r prosiectau hynny'n cael eu harwain ar y cyd gan staff a myfyrwyr, eu monitro gan y Grŵp Llywio Barn Myfyrwyr ac mae Cyngor y Brifysgol yn cael gwybod amdanynt yn rheolaidd.
Creu amgylchedd dysgu cyffrous
Mae'r Brifysgol yn cynnig addysg sy'n ceisio cyffroi, ysgogi, estyn a helpu myfyrwyr.
Diben y rhaglenni astudio yw galluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n weithredol gyda'u prosesau dysgu, dod yn rhan o gymuned ddysgu'r Brifysgol, a buddio o'n diwylliant ymchwil ardderchog. Mae'r addysgu yn eu cefnogi i ddod yn ddysgwyr annibynnol sy'n frwdfrydig ac yn ymrwymedig i'w hastudiaethau. Mae lleoedd dysgu ffisegol, cymdeithasol a rhithwir y Brifysgol wedi'u dylunio ar y cyd â'n myfyrwyr. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ymgorffori uniondeb academaidd o fewn y gymuned ddysgu.
Mae gan Brifysgol Caerdydd amgylchedd cyffrous a buddiol sy’n cynnig amrywiaeth helaeth o weithgareddau addysgol, cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol i ysgogi myfyrwyr, eu hestyn a'u helpu i lwyddo.
Mae ein hymrwymiad yn dibynnu ar bartneriaeth weithredol rhwng myfyrwyr a'r Brifysgol, gan wrando ar farn myfyrwyr a gweithredu arnynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw newidiadau i'r rhaglenni yn effeithio'n ormodol ar fyfyrwyr. Mae Undeb y Brifysgol a'r Myfyrwyr yn croesawu adborth gan fyfyrwyr ar bob agwedd ar fywyd myfyrwyr.
Mae'r Brifysgol yn cefnogi prosesau dysgu myfyrwyr drwy roi adborth rheolaidd, adeiladol, amserol (heb fod dros 20 diwrnod gwaith ar gyfer gwaith cwrs), a datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Cynorthwyo ein myfyrwyr
Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr i bersonoli eu prosesau dysgu a'u cefnogi yn ystod eu hastudiaethau.
Rydym wedi ymrwymo i amgylchedd dysgu, gweithio a byw diogel sy’n hybu eu iechyd meddwl, a lle gall pob aelod o gymuned y Brifysgol ffynnu. Mae'r Brifysgol wedi gweithio gyda phartneriaid i fabwysiadu ymagwedd tuag at iechyd meddwl sy'n rhychwantu'r sefydliad yn ei gyfanrwydd, yn unol ag arferion gorau yn y sector. Rydym wedi nodi hyn yn Galluogi Llwyddiant: Strategaeth i Greu Prifysgol sy'n Iach yn Feddyliol. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod iechyd meddwl a lles cadarnhaol yn rhan annatod o bopeth a wnawn. Mae cydweithio â'n staff, myfyrwyr a'r gymuned yn fwy eang yn ganolog ar gyfer gosod y sail ar gyfer iechyd meddwl cadarnhaol gydol oes a chreu prifysgol sy'n iach yn feddyliol.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hunanladdiad ymysg myfyrwyr ac yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn bod yn Brifysgol Mwy Diogel rhag Hunanladdiad, gan ddefnyddio fframweithiau Prifysgolion Mwy Diogel rhag Hunanladdiad.
Mae gan fyfyrwyr fynediad at ystod o wasanaethau i gefnogi a gwella bywyd myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau i gefnogi lles, datblygu sgiliau newydd, rheoli arian, ac ymgartrefu ym Mhrifysgol Caerdydd a bywyd myfyrwyr. Mae'r rhain yn bodoli'n y lle cyntaf i gael gwared ar rwystrau i ddysgu, i wneud yn siŵr y gall myfyrwyr gyflawni hyd eithaf eu gallu academaidd, a gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn byw mewn cymuned ddiogel a chynhwysol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau i gefnogi lles, datblygu sgiliau newydd, rheoli arian, ac ymgartrefu ym Mhrifysgol Caerdydd a bywyd myfyrwyr. Rydyn ni’n eich annog i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael cyn gynted ag y bo modd os oes ei angen arnyn nhw.
Mae saith swyddog sabothol amser llawn gan Undeb y Myfyrwyr a deg swyddog ymgyrchoedd i gynrychioli anghenion a diddordebau'r myfyrwyr.
Dathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru
Rydyn ni’n falch o fod yn brifysgol yng nghanol prifddinas Cymru. Rydym yn annog pob un o'n myfyrwyr i ymgysylltu â diwylliant Cymru, yn cynnwys digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl, Diwrnod Shw’mae Su'mae a Gŵyl Sŵn.
Rydyn ni wedi ymrwymo i hybu’r Gymraeg a helpu pawb i’w defnyddio yn y sefydliad hwn. Mae gwybodaeth ynghylch cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar dudalennau gwe cangen y Coleg Cymraeg. Ein nod yw parhau i godi ymwybyddiaeth ynghylch iaith a diwylliant Cymru ymysg pob un o'n myfyrwyr, ac rydym yn disgwyl i'n myfyrwyr barchu statws cyfartal y Gymraeg a'r Saesneg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae rhaglen Cymraeg i Bawb y Brifysgol yn galluogi pob myfyriwr i feithrin a mireinio sgiliau Cymraeg.
Yr ydym wedi lansio Strategaeth y Gymraeg yn ddiweddar, sy'n adeiladu ar ein mentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau iaith Gymraeg presennol drwy ddarparu agenda ddiwylliannol a chymunedol ddiffiniedig. Fel rhan o hyn, ein nod yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog, ac ehangu a gwella ein darpariaeth ar gyfer addysgu yn y Gymraeg. Byddwn hefyd yn ceisio datblygu Cynnig Caerdydd (ein cynnig Cymraeg) ar gyfer ein myfyrwyr.
Mae cangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol o fewn y Brifysgol ac rydym yn cydweithio â'r Coleg Cymraeg i ddatblygu a darparu portffolio cynaliadwy o ddarpariaeth addysgol Cymraeg a bodloni anghenion ein myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, a chyflogwyr yn y dyfodol.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i Safonau'r Gymraeg, gan ddarparu Tiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg i fyfyrwyr lle y gofynnir amdanynt a sicrhau bod y rhai sy'n dymuno gwneud hynny yn gallu cynnal asesiadau ac arholiadau yn Gymraeg (heb unrhyw oedi i ganlyniadau).
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC) yn undeb o fewn Undeb y Myfyrwyr. Mae’n gyfrifol am gynrychioli siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a phawb sy’n ymddiddori yn y Gymraeg a’i diwylliant yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae cynrychiolaeth Gymraeg hefyd ar ffurf Swyddog Ymgyrchu Iaith Gymraeg etholedig.
Gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydyn ni’n croesawu ac yn cynorthwyo myfyrwyr o sawl cefndir, gan ffurfio cymuned fyd-eang amrywiol.
Gall myfyrwyr ddisgwyl cael eu croesawu a'u helpu i addasu i fywyd y Brifysgol, boed yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig, ac yn gyfnewid am hynny disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at amgylchedd croesawgar i bawb.
Mae disgwyl i staff a myfyrwyr - unigolion a grwpiau fel ei gilydd - ymddwyn yn briodol gan amlygu urddas, cwrteisi a pharch tuag at ei gilydd a’r gymuned ac adnoddau lleol. Rydym yn disgwyl i bawb dderbyn eu cyfrifoldebau tuag at ei gilydd ar bob adeg, a gweithio gyda'i gilydd y wneud yn siŵr y gall pob myfyriwr fyw ac astudio heb ragfarn ac aflonyddwch. Mae hynny'n cynnwys cyfnodau ym myd gwaith a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau allgyrsiol eraill, ac amser ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r Weithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr yn nodi disgwyliadau'r Brifysgol o ymddygiad myfyrwyr. Mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglenni sy'n arwain at gofrestru proffesiynol hefyd ddilyn y Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer. Rydym yn darparu amgylchedd lle mae myfyrwyr yn teimlo'n hyderus i'n hysbysu os yw ymddygiad cyd-fyfyrwyr neu staff sy'n defnyddio'r Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr.
Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo hinsawdd o gyfle cyfartal i bob myfyriwr ac mae wedi ymrwymo i fodloni ei chyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb, amrywiaeth, diogelu a nodweddion gwarchodedig. Yn y cyfamser, rydym yn eich annog i helpu i feithrin agwedd ystyriol ar y campws trwy ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddysgu am ei gilydd, cynorthwyo ein gilydd a rhoi gwybod i'r Brifysgol am unrhyw anawsterau.
Canolbwyntio ar ddinasyddiaeth fyd-eang a chyflogadwyedd
Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd a chymorth i bob myfyriwr feithrin rhinweddau fydd yn ei alluogi i lwyddo yn fel dinesydd y byd a gwneud gwahaniaeth go iawn yn y byd.
Mae’r Brifysgol yn annog myfyrwyr i ymgysylltu â phryderon y byd go iawn yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt. Ein nod yw rhoi cyfleoedd i'n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol a'r rhinweddau ar gyfer bod yn ddinasyddion byd-eang effeithiol a brwdfrydig. Rydyn ni’n helpu myfyrwyr i adnabod y medrau maen nhw’n eu meithrin fel y gallan nhw eu hamlygu a’u cofnodi’n briodol. Mae ambell enghraifft o hyn i'w gael ar yr Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy ac rydym yn llofnodi'r Cytundeb Nod Datblygu Cynaliadwy. Fel rhan o hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn ymgysylltu'n ystyrlon â her fyd-eang cynaliadwyedd.
Rydyn ni’n annog myfyrwyr i fireinio eu sgiliau trwy fanteisio ar y cyfleodd sydd ar gael, naill ai’n rhan o raglen astudio neu’n weithgaredd allgyrsiol. Mae hynny'n cynnwys astudio a lleoliadau dramor, fel rhan o'u cyrsiau ac yn ychwanegol i'w cyrsiau. Gall hynny fod yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod gwyliau'r haf, a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, fel y Cynllun Mentor Myfyrwyr, yr Undeb Athletau, Urdd y Cymdeithasau, y Ganolfan Sgiliau, Gwirfoddoli, Cynrychioli Myfyrwyr, y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau, Menter, Senedd y Myfyrwyr a'r Siop Swyddi.
Bod yn agored ac yn onest wrth gyfathrebu
Gall ein myfyrwyr ddisgwyl i’r Brifysgol gyfathrebu â nhw mewn modd gonest, agored, cywir ac amserol a thrin a thrafod unrhyw bryderon a godir mewn modd tringar a phroffesiynol.
Mae'r Brifysgol yn rhoi gwybodaeth clir ynghylch rhaglenni, modiwlau ac asesiadau i fyfyrwyr ac yn cadw at y gyfraith diogelu defnyddwyr, yn unol â'r hyn a bennir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
Mae'r Brifysgol yn ei gwneud yn glir i ymgeiswyr lle y gallai fod angen costau ychwanegol i gyflawni eu cwrs. Mae costau ychwanegol wedi'u nodi ar dudalennau chwiliwr cwrs y Brifysgol o dan yr adran ffioedd dysgu, a chaiff ymgeiswyr fanylion ar PDF eu llythyr cynnig.
Amgylchiadau esgusodol
Disgwylir i fyfyrwyr ddweud wrth y Brifysgol pryd y mae amgylchiadau a allai effeithio ar eu hastudiaethau, fel bod modd inni ddarparu cymorth a chefnogaeth lle bo angen. Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â phrosesau'r Brifysgol ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau esgusodol a deall canlyniadau posibl cais llwyddiannus o dan y Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol (Israddedig ac Ôl-raddedig). Defnyddir gweithdrefn ar wahân ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Cymorth ychwanegol os oes gan fyfyrwyr anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir
Os oes gan fyfyrwyr anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, efallai y bydd ganddynt hawl i gymorth ychwanegol neu addasiadau rhesymol i raglen astudio, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol. Mae cyngor ar gael gan Wasanaeth Anabledd Myfyrwyr y Brifysgol.
Er mwyn cael syniad da o'r hyn sy'n mynd ymlaen, disgwylir i fyfyrwyr dalu sylw i ohebiaeth y Brifysgol; yn arbennig i gylchlythyron, ebyst a thudalennau perthnasol ar y we.
Amgylchiadau eithriadol
Os, o dan amgylchiadau eithriadol (e.e. pan mae'r Brifysgol ar gau achos eira, pandemig neu gyfnod o weithredu diwydiannol), nad yw'r Brifysgol yn gallu darparu'r hyn a hysbyswyd, bydd yn ceisio cadw'r effaith ar brodiad dysgu myfyrwyr ar ei lleiaf, drwy wneud yn siŵr bod addasiadau priodol yn cael eu gwneud i ddarpariaeth rhaglenni ac asesiadau (gweler hefyd yr Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr.) Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y Brifysgol yn gwneud yn siŵr bod yna gyfathrebu amserol a chlir. Mae hyn wedi'i ddatgan yn y Rheoliadau Academaidd o dan yr adran Amrywio’r Trefniadau. Mae Rheoliadau Academaidd y Brifysgol yn cael eu hadolygu drwy'r flwyddyn a chaiff myfyrwyr wybod am newidiadau ar y fewnrwyd a chyfryngau eraill.
Cadw'n wybodus
Mae ebost yn un o'n ffyrdd creiddiol o gyfathrebu â myfyrwyr. Dylai myfyrwyr wirio eu cyfeiriad ebost @caerdydd.ac.uk yn rheolaidd.
Cefnogaeth a chyngor
Rydyn ni’n cydweithio er lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Os nad yw myfyriwr yn mwynhau’r profiad yma yn ôl y disgwyl, mae gyda ni brosesau hirsefydlog i drin a thrafod y pryderon. Mae cefnogaeth ar gael drwy wasanaeth Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol a thrwy Wasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr Undeb y Myfyrwyr, sy'n wasanaeth rhad ac am ddim a diduedd, ac yn wasanaeth sy'n annibynnol o'r Brifysgol.
Gwneud cwyn
Rydym yn cydnabod y gallai myfyriwr fod yn anfodlon o bryd i'w gilydd ac efallai y byddwn am gwyno wrth wneud cwyn i'r Brifysgol. Rydym yn ystyried pob cwyn o ddifrif. Disgwylir i fyfyrwyr godi pryder cyn gynted â phosibl ac o fewn 28 diwrnod i bryder godi. Rhaid codi pryderon o dan y Weithdrefn Gwyno i Fyfyrwyr. Gellir cyflwyno cwyn os yw myfyriwr yn teimlo ei fod wedi dioddef niwed, anfodlonrwydd neu anfantais oherwydd gweithredoedd honedig aelod neu staff neu fyfyriwr; afreoleidd-dra wrth ddarparu rhaglen, darparu goruchwyliaeth, materion yn ymwneud â lleoliad neu bryder am ansawdd gwasanaethau, cyfleusterau neu adnoddau dysgu. Gall myfyrwyr ofyn am gymorth ac arweiniad ar y broses gwyno, a'n holl weithdrefnau, gan wasanaeth Cyngor Myfyrwyr annibynnol Undeb y Myfyrwyr. Lle bynnag y bo modd, nod y Brifysgol yw datrys cwynion cyn gynted â phosibl. Caiff myfyrwyr gyfle i uwchgyfeirio pryderon a cheisio adolygiad o'r canlyniad. Nod y Brifysgol yw cwblhau achosion cwynion o fewn 90 diwrnod. Os bydd myfyrwyr yn dal yn anfodlon ar ddiwedd prosesau mewnol y Brifysgol, gallant wneud cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Siarter y Myfyrwyr, cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr neu Undeb y Myfyrwyr.
Y Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr
Undeb y Myfyrwyr
Y ffordd hawdd o gynllunio eich diwrnod, cadarnhau lle mae angen i chi fod, a chael help a chymorth.