Llety preifat
Diweddarwyd: 13/07/2022 13:08
Dysgwch sut i ddod o hyd i lety preifat yng Nghaerdydd, a beth yw eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel tenant.
Ble i chwilio am lety preifat

Mae digon o lety i fyfyrwyr yng Nghaerdydd sy’n cael ei osod gan landlordiaid preifat neu drwy asiantau gosod. Mae llety o'r fath yn cynnwys tai i’w rhannu a fflatiau. O bryd i’w gilydd, gallwch ddod o hyd i ystafell mewn tŷ y byddwch yn ei rannu gyda’r perchennog.
Os ydych yn bwriadu dod o hyd i lety preifat, nid ydym yn argymell eich bod yn llofnodi contract tenantiaeth heb ymweld â’r eiddo, ac yn ddelfrydol byddwch yn cwrdd ag unrhyw gydletywr posibl ymlaen llaw. Gallwch wedyn wneud yn siŵr eich bod yn fodlon gyda phopeth cyn arwyddo'r contract.
I gael gwybodaeth am bob agwedd ar edrych am dŷ neu ystafell i'w rentu yng Nghaerdydd, gweler canllawiau Tai tîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr ar-lein. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys y canlynol:
- ble i edrych am lety preifat
- yr ardaloedd gwahanol o gwmpas y Brifysgol
- llety tymor byr
- edrych ar eiddo
- blaendaliadau a ffioedd
- contractau
- rhestrau
- Treth y Cyngor a
- symud allan.
Gwasanaethau'r Brifysgol
Hefyd, mae tîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr yn cadw rhestr o'r ystafelloedd unigol sydd ar gael mewn tai a rennir, a hefyd y bobl sy'n chwilio am ystafelloedd. Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol am hyn i gael rhagor o wybodaeth.
Os byddai'n well gennych chi fyw yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol gallwch gysylltu â'r tîm Preswylfeydd i weld a oes lle.
Os byddwch chi yng Nghaerdydd am 6 mis neu lai, cysylltwch â'r tîm Cyfleoedd Byd-eang. Maen nhw'n cadw rhestr o ystafelloedd sy'n cael eu hysbysebu i'w gosod gan fyfyrwyr cyfnewid fydd dramor dros naill ai semester yr hydref neu'r gwanwyn yn unig. Fel arall, gweler adran Llety Tymor Byr o ganllawiau Tai Undeb y Myfyrwyr.
Gosod cyllideb
Mae arian yn mynd yn eithaf pell yng Nghaerdydd, ond mae'n bwysig gwybod pa arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan cyn y gallwch benderfynu faint o rent fyddwch yn gallu ei fforddio. Cofiwch y bydd rhaid i chi hefyd gyllidebu am filiau (oni bai eu bod wedi'u cynnwys yn benodol yn eich rhent).
Gallwch ddefnyddio cyfrifydd costau byw'r Brifysgol i gael syniad o gyfartaledd costau byw mewn llety preifat. Cofiwch mai cyfartaledd yw hyn a bydd eich gwariant yn dibynnu ar beth rydych chi'n cytuno iddo a sut rydych chi'n rheoli eich arian.
Rhagor o wybodaeth am gostau byw a chyllidebu.
Beth yw’r costau?
Bydd cost llety preifat yn amrywio gan ddibynnu ar leoliad, maint a safon y fflat neu dŷ, faint o bobl rydych chi’n rhannu’r llety gyda nhw a p’un a yw biliau wedi’u cynnwys yng nghost y rhent ai peidio.
Y gost fisol ar gyfartaledd o rentu ystafell mewn tŷ yr ydych yn ei rannu ag eraill yw tua £350 heb gynnwys eich biliau dŵr, nwy, trydan, band eang ac yswiriant. Yn wahanol i breswylfeydd y Brifysgol, lle mae’r rhan fwyaf o filiau wedi’u cynnwys, fe welwch pan fyddwch yn rhentu llety preifat ei bod yn bosibl y bydd gennych gostau ychwanegol.
Mae’r rhain yn debygol o gynnwys:
- Bond, sydd hefyd yn cael ei alw yn flaendal. Fel rheol bydd y swm cyfwerth â mis o rent a chaiff ei ddychwelyd i chi ar ôl i chi adael yr eiddo, ar yr amod bod dim niwed wedi’i wneud. Dylai’r arian hwn gael ei warchod gan y landlord drwy gynllun blaendal tenantiaeth.
- Biliau dŵr, trydan, nwy, ffôn a’r rhyngrwyd
- Yswiriant (rydym yn eich annog yn gryf i yswirio eich eiddo personol yn erbyn difrod, colled neu ladrad)
- Yn aml fe gynigir rhent neu hanner rhent yn ystod yr haf, fel llety preifat i fyfyrwyr ar gontract 12 mis.
Lle i aros wrth i chi chwilio?
Os ydych yn bwriadu treulio ychydig o amser yng Nghaerdydd cyn i chi drefnu llety preifat, gallwch aros mewn hostel, gwesty neu lety gwely a brecwast.
Mae llety hostel yn sylfaenol, gyda’r rhataf yn costio tua £20 y noson. Mae gwely a brecwast yn costio tua £40-£80 y noson, ac mae gwesty rhwng £70 a £150 y noson. Gallwch ddod o hyd i’r llety hwn ger y campws ac yng nghanol y ddinas.
Mae rhagor o wybodaeth am lety yng Nghaerdydd ar wefan Croeso Caerdydd.
Aros gyda ni dros yr haf
Mae llety hunanarlwyo ar gael yn Llys Cartwright a Llys Senghennydd o ddydd Gwener 1 Gorffennaf hyd at ddydd Mercher 14 Medi 2022. Rhagor o wybodaeth.
Help a chyngor ynghylch tai
Os ydych chi’n ystyried rhentu llety yn y sector preifat, gall tîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr helpu hefyd. Maent yn hapus i egluro a gwirio eich cytundeb tenantiaeth cyn i chi lofnodi’r contract, neu dalu unrhyw arian i’ch landlord. Mae hefyd ganddynt wybodaeth yn eu Canllawiau Tai cynhwysfawr ar-lein i'ch helpu i ddod o hyd i lety.
Gallwch hefyd gysylltu â'n tîm Cyngor ac Arian gydag unrhyw gwestiynau am dai: