Ewch i’r prif gynnwys

Pethau pwysig i'w pacio

Diweddarwyd: 09/08/2023 14:18

Rhagor o wybodaeth am beth a ddarperir i chi a beth sydd angen i chi ddod gyda chi yn llety'r brifysgol.

Mae gan bob ystafell ym mhreswylfeydd y brifysgol Wi-Fi a phwyntiau cysylltu ar gyfer mynediad i rwydwaith y brifysgol a rhyngrwyd cyflym.

Myfyrwyr rhyngwladol: Rydym yn argymell i chi brynu eich eitemau yng Nghaerdydd yn hytrach na defnyddio gofod yn eich bagiau.

Darperir ar eich cyfer:

  • gwely a matres
  • desg a chadair
  • silff lyfrau
  • cwpwrdd dillad
  • basged sbwriel
  • oergell/rhewgell
  • microdon
  • ffwrn
  • tostiwr
  • tegell
  • haearn smwddio
  • bwrdd smwddio
  • padell ludw a brws
  • bin cegin
  • mop a bwced
  • sugnwr llwch
  • bleinds/llenni
  • hysbysfwrdd
  • sied feiciau (Gall myfyrwyr Neuadd Aberconwy a Thai Heol Colum/Rhodfa Colum ddefnyddio'r siediau beiciau yn Neuadd Colum. NID oes siediau beiciau ar gael ar gyfer myfyrwyr yn Nhai/Fflatiau Myfyrwyr yn y "Pentref".)

Mae angen i chi ddod â:

  • dillad gwely (cynfasau, gorchudd gobennydd, duvet, blancedi, gobenyddion a thywelion) - oni bai eich bod wedi archebu pecyn dillad gwely wrth gadarnhau pryd byddwch yn cyrraedd ar-lein
  • llestri (ar gyfer eich hunan)
  • cyllyll a ffyrc (ar gyfer eich hunan)
  • offer coginio a sosbenni (ar gyfer eich hunan)
  • clo beic (neu gallwch ei brynu o'r Ganolfan Diogelwch ar Blas y Parc)
  • cebl ethernet.

Llety ‘Ychwanegol’ a ‘Mwy'

Ni fydd angen i chi ddod a dillad gwely, llestri, cyllyll a ffyrc na offer coginio os ydych wedi cael eich rhoi yn:

  • Ôl-raddedig Ychwanegol yn Ogledd Talybont
  • Ôl-raddedig a ‘mwy’ yn Llys Senghennydd
  • Israddedig a ‘mwy’ yn Ne Talybont.