Ewch i’r prif gynnwys

Talu am eich llety

Diweddarwyd: 29/09/2023 15:34

Sut i dalu am eich amser mewn preswylfeydd yn dibynnu ar eich trefniant.

Os ydych yn aros yn Nhŷ Clodien neu Adam Street Gardens, bydd manylion am dalu yn cael eu cynnwys yn y wybodaeth a anfonir atoch gan Unite ar ôl i chi gael lle.

Mae rhent yn daladwy drwy un o'r dulliau canlynol:

  • Cerdyn credyd/debyd yn llawn ymlaen llaw neu ar ôl cyrraedd
  • Ddebyd Uniongyrchol o gyfrif banc yn y Deyrnas Unedig (sy'n daladwy mewn uchafswm o 3 rhandaliad ar ddyddiadau penodol, gan ddibynnu ar eich cyfnod contract). Mae angen sefydlu eich Debyd Uniongyrchol gyda ni erbyn 1 Hydref 2023, neu bydd angen i chi dalu â cherdyn credyd/debyd.
    Noder: mae'r Debyd Uniongyrchol hwn yn cynnwys rhent yn unig. Bydd angen i chi gwblhau gorchymyn ar wahân ar gyfer eich ffioedd dysgu.

Yr unig eithriadau i’r dulliau talu hyn yw:

Myfyrwyr a noddir

Os bydd eich rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i ni gan eich noddwr, dewiswch ‘Rhandaliadau sy’n cael eu talu gan noddwr’ fel eich dull talu ac anfonwch gopi o’ch llythyr Affidafid yn cadarnhau eich statws noddedig i Incwm Gwasanaethau Campws: studentconnect@caerdydd.ac.uk. Ar ôl i chi gyrraedd Caerdydd, byddwn yn anfon anfoneb at eich noddwr ar gyfer eich Rhent.

Bwrsariaeth y GIG/tâl misol

­      Os byddwch yn derbyn tâl misol o Fwrsariaeth y GIG, gallwch neud cais i talu eich rhent mewn rhandaliadau misol cyfartal trwy gynllun talu misol. Dewiswch yr opsiwn 'Rhandaliadau drwy Gerdyn Credyd/Debyd..Yna anfonwch gadarnhad o'ch bwrsariaeth at Incwm Gwasanaethau'r Campws: studentconnect@caerdydd.ac.uk. Bydd Incwm Gwasanaethau'r Campws yn cadarnhau eu bod yn derbyn eich cynllun taliad ar ôl cael tystiolaeth o'ch taliad misol ac yn fuan wedi i chi gyrraedd.

Os nad yw'r un o'r opsiynau hyn yn addas i'ch amgylchiadau chu, dewiswch 'Rhandaliadau drwy Gerdyn Credyd/Debyd'. Cysylltwch ag Incwm Gwasanaethau'r Campws a fydd yn trafod yr opsiynau talu eraill gyda chi.

Hysbysiad talu

Ychydig wythnosau cyn pob dyddiad talu, fe gewch hysbysiad talu i roi gwybod i chi pryd bydd y Debyd Uniongyrchol yn cael ei gymryd a faint fydd y taliad. Mae hyn yn eich galluogi i wneud yn siŵr bod digon o arian yn y cyfrif.

Bydd yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd ac unrhyw gyfeiriad ebost arall sydd gennym ar eich cyfer. Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw llygad ar eich cyfrifon ebost yn rheolaidd. Gallai’r neges gael ei thrin fel sbam gan rai darparwyr ebost, felly cofiwch edrych yn eich ffolder sothach/sbam yn ogystal â’ch blwch derbyn.

Dyma ddyddiadau'r taliadau ar gyfer sesiwn 2023/2024:

  • 25 Hydref 2023
  • 24 Ionawr 2024
  • 17 Ebrill 2024

Os ydych yn rhagweld anhawster talu eich rhent, er enghraifft, o ganlyniad i'ch cyllid myfyrwyr yn hwyr, neu oherwydd eich bod yn derbyn Bwrsariaeth GIG fisol, cysylltwch ag Incwm Gwasanaethau'r Campws drwy ebostio residencesfinance@caerdydd.ac.uk cyn gynted ag y gwyddoch am hyn. Bydd angen eich rhif myfyriwr arnoch pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Os oes gennych broblem â'ch cyllid, cysylltwch â'r Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr am gymorth.

Ymholiadau rhent

Cysylltwch ag Incwm Gwasanaeth Cwsmeriaid os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych am gael derbynneb ar gyfer eich taliad.

Bydd angen eich rhif myfyriwr arnoch pan fyddwch yn cysylltu â ni.

Incwm Gwasanaethau'r Campws