Ewch i’r prif gynnwys

Parcio ar gyfer Ymwelwyr

Rydym yn annog aelodau o gymuned y brifysgol (gan gynnwys ymwelwyr) i deithio i'r brifysgol gan ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw hynny'n bosibl bob amser, ac y bydd angen i rai ymwelwyr deithio i'r campws mewn cerbydau modur.

Rydym yn annog defnyddio cerbydau trydan neu hybrid at y diben hwn lle bynnag y bo modd. Mae ein meysydd parcio yn cael eu rheoli gan dechnoleg camerâu ANPR a/neu batrolio ar droed.

Nid yw parcio i ymwelwyr ar gael yn ystod Diwrnodau Agored na digwyddiadau mawr eraill ar y campws.

Cilfachau parcio talu wrth ddefnyddio y gellir eu cadw ymlaen llaw

Mae parcio PAYG y gellir ei archebu ymlaen llaw ar gael i'w ddefnyddio gan ymwelwyr (yn ogystal â staff a chontractwyr) rhwng 07:00-00:00 (hanner nos) o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc.

Rhaid cadw cilfachau PAYG cyn cyrraedd drwy ddefnyddio 'RingGo' drwy’r ap neu’r wefan.

Lleolir cilfachau PAYG fel a ganlyn:

Maes parcioCod postLleoedd sydd ar gael
Bute a MorgannwgCF10 3NB12
Rhodfa ColumCF10 3EU19
Chanolfan GynadleddaCF23 5YB24
Heath Park WestCF14 4US19
Heol MaendyCF24 3AT32
Tŷ McKenzie CF24 0DE9
Adeiladau’r FrenhinesCF24 3AA7
RedwoodCF10 3NB10
SenghenyddCF24 4AG35
Talybont (prif faes parcio)
4 awr o barcio am ddim i aelodau'r clwb chwaraeon
CF14 3AT100+
Neuadd y BrifysgolCF23 5YB4

Er mwyn atal camddefnyddio, dim ond ar Fewnrwyd y Brifysgol y ceir y codau lleoliadau RingGo sydd eu hangen i gadw cilfachau PAYG ymlaen llaw a byddant yn newid yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Bydd y sawl sy’n eich croesawu/cyswllt â'r Brifysgol yn rhoi'r cod (codau) lleoliad i chi eu defnyddio i gadw cilfach.

Nid y codau hyn yw'r codau sy'n cael eu harddangos ar arwyddion meysydd parcio, Parcio â Chodi Tâl ar y Cyhoedd y tu allan i oriau.

Cadwch eich cilfach mewn da bryd. Mae nifer y cilfachau yn gyfyngedig ac mae galw mawr amdanynt.

Ffioedd

  • Hanner diwrnod (4.5 awr o'r amser archebu a ddewiswyd gennych) = £3
  • Diwrnod llawn (hyd at hanner nos) = £6 (Ceir arwydd uwchben ym mhob maes parcio arall)

Parciwch mewn bae coch wedi'i arwyddo'n glir â:

  • 'Wedi’i gadw ymlaen llaw ar gyfer staff yn unig' (Heol Maendy yn Unig), neu
  • 'Cilfachau parcio y tu allan i oriau gwaith – cilfachau cadw ymlaen llawn, a Parcio â Chodi Tâl ar y Cyhoedd'

Parcio cyhoeddus y tu allan i oriau brig

Mae meysydd parcio penodol ar gael i'w defnyddio gan ymwelwyr/y cyhoedd yn ystod oriau nad ydynt yn rhai brig (16:00-07:00) o ddydd Llun i ddydd Gwener a thwy'r dydd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc.

Mae'r meysydd parcio canlynol ar gael at y diben hwn:

Maes parcioCod postLleoedd sydd ar gael
Bute a MorgannwgCF10 3NB175
Rhodfa ColumCF10 3EU223
Adeiladau’r FrenhinesCF24 3AA71
SenghennyddCF24 4AG35
Tŷ McKenzieCF24 0DE48

Ar y byrddau tariff yn yr ardal barcio lle ceir parcio cyhoeddus ceir cod lleoliad RingGo at ddefnydd y cyhoedd. Gall defnyddwyr dalu am barcio gan ddefnyddio'r ap RingGo, gwefan neu wasanaeth talu trwy ffôn RingGo.

Parcio hygyrch

Mae'n ofynnol i ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas roi eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Trafnidiaeth a Pharcio drwy ebostio carparking@caerdydd.ac.uk heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Mae'r sawl sydd â Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu fan parcio cyffredinol, yn rhad ac am ddim, yn amodol ar ddangos Bathodyn Glas dilys yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd.

Mae mannau parcio hygyrch wedi’u marcio’n felyn ac wedi’u harwyddo'n glir â 'Parcio Bathodyn glas yn unig'

Codi/gollwng

Mae cilfachau a pharthau casglu/gollwng ar gael ledled y campws. Gall unrhyw un ddefnyddio'r rhain am arhosiad o hyd at 30 munud.

Ni chodir tâl am ddefnyddio’r rhain.

Mae cilfachau a pharthau codi/gollwng wedi’u marcio’n oren a cheir arwyddion clir 'codi a gollwng yn unig' wrthynt.