Llety a symud yma
Unwaith rydych wedi derbyn cynnig pendant i astudio gyda ni, gallwch wedyn wneud cais ar gyfer lle ym mhreswylfeydd y Brifysgol.
Er mwyn trefnu eich llety, bydd angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair SIMS. Byddwn yn ebostio’r manylion isod i chi ar ôl i ni roi cynnig i astudio i chi.
Bydd myfyrwyr israddedig sydd wedi dewis Prifysgol Caerdydd fel naill ai eu dewis cadarn neu ddewis wrth gefn yn sicr i gael llety yn y Brifysgol yn eu blwyddyn gyntaf.
Myfyrwyr rhyngwladol a Chyfnewid
Fel myfyriwr rhyngwladol gradd lawn, rydych yn sicr o gael lle ym Mhreswylfeydd y Brifysgol ar gyfer hyd eich astudiaethau.
Fel myfyriwr Erasmus+, rydych yn sicr o gael lle ym Mhreswylfeydd y Brifysgol os ydych yn astudio gyda ni am flwyddyn academaidd lawn. Os ydych chi yma am lai na flwyddyn academaidd, gallwch wneud cais am ystafell ym mhreswylfeydd y Brifysgol ond nid ydych yn sicr o gael lle. Os ydych yn fyfyriwr Erasmus+ yn dod i Gaerdydd ar gyfer tymor yr hydref yn unig a hoffech gael cyngor am ddod o hyd i lety yn y sector preifat, cysylltwch â'r tîm Erasmus+.
Os ydych yn fyfyriwr Cyfnewid Rhyngwladol neu Astudio Dramor sesiwn llawn, rydych yn sicr o gael lle ym Mhreswylfeydd y Brifysgol. Am gyngor pellach cysylltwch ag Astudio Dramor.
Ewch i dudalennau Preswylfeydd ar gyfer manylion am ddyddiadau cau gwarantu preswylfeydd.
Gallwch hidlo'r dewisiadau llety gydag amrywiaeth o opsiynau yn cynnwys arlwyo ac ystafelloedd ymolchi.