Heddiw bydd tîm o ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn cyhoeddi eu bod wedi darganfod codisil na sylwyd arno o’r blaen yn Statud Rhuddlan. Mae goblygiadau pellgyrhaeddol i hyn o safbwynt y trafodaethau seneddol sydd ar waith ynghylch Brexit a pherthynas economaidd Cymru â’i chymdogion agosaf yn y dyfodol.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi enwau’r siaradwyr ar gyfer ei digwyddiad ar y cyd â Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a gynhelir gyda’r hwyr ar 27 Mawrth.
Mae ymchwil yn dangos bod trethdalwyr yng Nghymru yn talu mwy o arian am lai o wasanaethau gan fod awdurdodau lleol yn ceisio llenwi’r bwlch ariannu o bron i £1 biliwn.
NDros gyfnod y Nadolig, cyhoeddodd y Western Mail erthygl gan Martin Shipton yn tynnu sylw at ganfyddiadau diweddaraf prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.
Cyflwynodd Michelle O’Neill MLA, Dirprwy Arweinydd Sinn Féin, Ddarlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2018 yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Roedd yn bleser gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd gynnal sesiwn trafodaeth gan Peter Hain a Paul Silk ar Ddeddf drafft y Grŵp Diwygio Cyfansoddiadol yr wythnos hon yn adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd.
Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn datgelu hyd a lled hunan-niweidio a thrais mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc (YOIs) yng Nghymru a Lloegr.
Mae mudiadau trydydd sector wedi cyflwyno heddiw eu gofynion ar gyfer Brexit gerbron Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC, gan dynnu ar ganfyddiadau Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit.
Leas Uachtarán (Dirprwy Arweinydd) Sinn Féin ac arweinydd y blaid yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon yw Michelle O’Neill a hi fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol 2018 Canolfan Llywodraethiant Cymru.