Cymru'n wynebu etholiadau Ewropeaidd heb eu tebyg – Fideo
13 Mai 2019
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/859869/Welsh-badge-on-top-of-lots-of-EU-badges.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Wythnos diwethaf, cynhaliodd academyddion o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ddigwyddiad briffio ar etholiadau Ewropeaidd 2019 yn adeilad eiconig y Pierhead, Bae Caerdydd.
Cyflwynodd yr Athro Roger Awan-Scully, yr Athro Laura McAllister a Jac Larner eu dadansoddiad diweddaraf o'r etholiad annisgwyl, gan amlinellu'r darlun ar draws Ewrop, Cymru a'r DG.