Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Llun o Adeilad Pierhead a'r Senedd ym Mae Caerdydd
Rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd yn adeilad hanesyddol y Pierhead y drws nesaf i Senedd Cymru.

Sefydlwyd y Ganolfan ym 1999, yn sgîl creu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i sefydliadau datganoledig cysylltiedig, i ymgysylltu'n llawn â’r drefn lywodraethu newydd.

Rydyn ni’n uned ymchwil sy’n gweithredu gyda nawdd a chymorth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

Sefydlwyd gan J. Barry Jones, yn ystod ein degawd cyntaf cynhalion ni nifer o ddigwyddiadau a chyfrannu at ymchwil i Gymru ddatganoledig. Yn 2009, cadarnhaodd y Brifysgol ei hymrwymiad i’r Ganolfan trwy benodi’r cyfarwyddwr presennol, Yr Athro Richard Wyn Jones, i adfywio a datblygu ei gwaith ymhellach.

Gyda chymorth ac ymrwymiad y Brifysgol a gweledigaeth yr Athro Wyn Jones, rydyn ni wedi tyfu’n uned sy’n cynnal amrywiaeth o ymchwil, achlysuron a phrosiectau ynghylch themâu gwleidyddol, cyfansoddiadol a pholisi yng Nghymru.

Rydyn ni’n cynorthwyo myfyrwyr doethuriaeth cofrestredig, yn cynnig cyrsiau amser llawn a rhan-amser i ôl-raddedigion ac yn croesawu myfyrwyr ac ysgolheigion o sefydliadau ledled y Deyrnas Gyfunol, Ewrop a’r tu hwnt yn aml.

Partneriaeth gyda Senedd Cymru

Yn sgîl cytundeb partneriaeth rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru a Senedd Cymru, rydym yn cynnal digwyddiadau rheolaidd yn Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd.

Nod ein partneriaeth strategol gyda'r Senedd yw annog y cyhoedd i ymgysylltu mewn democratiaeth weithredol a chymryd rhan ynddi. Mae hyn hefyd yn cynnwys cynnig seminarau hyfforddi rheolaidd i Aelodau'r Senedd a staff y sefydliad.