Ewch i’r prif gynnwys

Mwy o achosion o hunan-niweidio yng ngharchardai Cymru nag erioed o’r blaen

7 Awst 2019

Prisoner's hands clasped around prison bars

Yn ôl ffigurau gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, mae nifer yr achosion o hunan-niweidio mewn carchardai yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed.

Drwy ddefnyddio data o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn ogystal â ffigurau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sydd ar gael i’r cyhoedd, mae’r adroddiad yn dangos y cynyddodd nifer yr achosion o hunan-niweidio (heb gynnwys CEM Berwyn*) 16% yn ystod y flwyddyn a orffennodd ym mis Mawrth 2019. Roedd hynny’n dilyn y nifer uchaf erioed a gofnodwyd y flwyddyn flaenorol.

Cafwyd hefyd y nifer uchaf erioed o ganfod cyffuriau - 61% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Bu cynnydd sylweddol hefyd yn nifer y digwyddiadau oedd yn ymwneud ag arfau.

Mae’r gyfradd garcharau yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch na’r un yn Lloegr. Mae’r adroddiad newydd yn datgelu hefyd fod rhagor o bobl o dan oruchwyliaeth brawf yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

Meddai’r awdur Dr Robert Jones, sydd wedi bod yn casglu data ar gyfer Cymru yn unig ers 2013: “Mae ein canfyddiadau yn datgelu cyfres o broblemau parhaus yng Nghymru sy’n cynnwys mwy o achosion nag erioed o’r blaen o hunan-niweidio, canfod cyffuriau a dod o hyd o arfau. Mae cyfraddau cynyddol y bobl ddigartref sy’n mynd i’r carchar a chyfran anghymesur y carcharorion o leiafrifoedd ethnig, hefyd yn parhau i fod yn broblemau difrifol.

“Mae’r ffigurau, sy’n aml yn dra gwahanol i’r ffigurau ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyffredinol, yn amlygu’r angen am ddata ar gyfer carchardai yng Nghymru yn unig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae canfyddiadau pellach o gyflwyniad Dedfrydu a Charcharu yng Nghymru, 2018, yn dangos:

  • Yn 2018, cynyddodd nifer yr achosion o hunan-niweidio 200% yn CEM Brynbuga, 89% yn CEM Caerdydd, a 56% yn CEM Abertawe. Cafwyd 4% yn llai o achosion yn CEM Parc. Er gwaethaf y gostyngiad hwn, roedd pedwar achos o hunan-niweidio yn cael eu cofnodi yno bob dydd ar gyfartaledd;
  • Gyda’i gilydd, gan gynnwys CEM Berwyn, bu 3,024 achos o hunan-niweidio yng ngharchardai Cymru y llynedd;
  • Tra bod nifer y carcharorion o dan glo yng Nghymru (heb gynnwys CEM Berwyn) wedi cynyddu 5% ers 2013, mae nifer yr achosion o ganfod cyffuriau yng ngharchardai Cymru (heb gynnwys CEM Berwyn) wedi cynyddu 822% yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn o gymharu â chynnydd o 333% yng Nghymru a Lloegr yn gyffredinol.
  • Cynyddodd nifer yr achosion o ganfod cyffuriau yn CEM Berwyn 328% yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019. Cynyddodd poblogaeth y carchar 67% yn ystod y cyfnod hwn;
  • CEM Caerdydd oedd â’r gyfradd uchaf o ganfod cyffuriau, ar gyfradd o 51 o bob 100 carcharor, wedi’i ddilyn gan CEM Abertawe (48 o bob 100), CEM Parc (29 o bob 100), CEM Berwyn (16 o bob 100) a CEM Brynbuga/Prescoed (4 o bob 100);
  • CEM Berwyn (11) oedd â’r gyfradd uchaf o arfau y daethpwyd o hyd iddynt yng Nghymru fesul pob 100 o garcharorion, wedi’i ddilyn gan CEM Parc (10 o bob 100), CEM Caerdydd (4 o bob 100) a CEM Abertawe (3 o bob 100);
  • Er mai dim ond 2% o’r holl garcharorion yng Nghymru a Lloegr sydd yno, yn CEM Parc y cofnodwyd 9.3% o’r holl achosion o aflonyddwch yn 2018.
  • Cynyddodd canran y rhai oedd yn ddigartref a gyrhaeddodd carchardai Cymru yn 2018 - o 24% yn 2017 i 28% yn 2018. Yn CEM Caerdydd, nid oedd preswyl sefydlog gan bron un o bob tri (31%) o’r holl garcharorion a gyrhaeddodd y carchar;
  • Cynyddodd cyfradd y carcharorion o leiafrifoedd ethnig o Gymru yn 2018. Roedd 76 o bobl ddu o Gymru yn y carchar am bob 10,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn o gymharu â 15 yn unig o bobl wyn fesul 10,000 o’r boblogaeth.
  • Yn 2018, cyrhaeddodd nifer y menywod o Gymru sydd yn y carchar eu lefel uchaf ar gyfartaledd ers i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ddechrau casglu data am Gymru yn unig yn 2013.
  • Cafwyd 8% yn llai o achosion o garcharorion yn ymosod ar ei gilydd yn 2018.
  • Cynyddodd nifer y bobl o dan glo yng ngharchardai Cymru yn 2018 oherwydd y cynnydd yn nifer y carcharorion yn CEM Berwyn a agorodd yn 2017. Yn CEM Berwyn y cofnodwyd y gyfradd uchaf o ymosodiadau ar staff a chanfod arfau ac alcohol fesul pob 100 o garcharorion yn 2018.
  • Mae cyfradd y bobl o dan oruchwyliaeth brawf wedi bod yn uwch yng Nghymru o gymharu â Lloegr ers 2013. Wrth gyfuno’r gyfradd garcharu a gorchmynion llys ar gyfer 2018, roedd 373 o bob 100,000 o boblogaeth Cymru o dan glo, o gymharu â 329 o bob 100,000 o boblogaeth Lloegr.

Ychwanegodd Dr Jones: “Gall ein gwaith parhaus ym maes cyfiawnder yng Nghymru gyfrannu at drafodaethau pellach yn y dyfodol am batrwm polisïau cosbi. Efallai bydd trafodaethau yn y dyfodol am fabwysiadu ymagwedd fwy cymharol drwy ddefnyddio tystiolaeth o arferion gorau mewn gwledydd eraill. Dyma bwnc yr ydym yn edrych i mewn iddo ar hyn o bryd.”

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.