Ewch i’r prif gynnwys

Y gymdeithas sifil yn dod ynghyd i drafod heriau Brexit

30 Mai 2019

Charles Whitmore, Cydlynydd y Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit sydd yn adrodd yn nôl ar y gynhadledd mis hwn yn Belfast

I nifer o bobl mewn cymdeithas sifil, prin iawn yw’r adegau pan fydd cael trafodaethau ynglŷn â Brexit yn achos o lawenydd. Gydag ofnau am gydlyniad cymdeithasol ac atchweliad hawliau a safonau i golli ariannu gan yr UE yn yr hir dymor. Fodd bynnag, ar nodyn mwy cadarnhaol, mae Brexit wedi ymddwyn fel sbardun ar gyfer cydweithio ar draws y cenhedloedd datganoledig ar gyfer cymdeithas sifil.

Gyda hyn yn gefndir fe wnaeth Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit, sef project partneriaeth rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) gydweithio gyda’i chwaer brojectau yn y Consortiwm Hawliau Dynol yng Ngogledd Iwerddon a Phroject Brexit Cymdeithas Sifil yn yr Alban i drefnu cynhadledd deuddydd yn Belfast a arianwyd gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol, o’r enw 'Datganoli, Brexit a Chymdeithas Sifil'.

Nod y ddau ddiwrnod oedd chwilota a chyferbynnu oblygiadau Brexit ar gyfer cymdeithas sifil ar draws y cenhedloedd datganoledig ond efallai ei bod hi’n bwysicach i ddechrau’r sgyrsiau ynglŷn â sut gall sefydliadau weithio gyda’i gilydd er mwyn deall a llunio’r dirwedd ar ôl Brexit, yn wleidyddol, yn gymdeithasol, yn gyfreithiol ac yn gyfansoddiadol.

Cynhaliwyd y gynhadledd yng Ngwesty hanesyddol yr Europa, lle cafwyd dros 100 o gynrychiolwyr ar ei anterth o gymdeithas sifil, academaidd a chylchoedd gwleidyddol o Gymru, Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.

Wrth agor y gynhadledd, dywedodd Arglwydd Faer Belfast, y Cynghorydd Deirdre Hargey, mai Brexit yw un o’r pethau a gaiff yr effaith fwyaf ar hanes yr ynys ac mae’n cynrychioli her anferth, nid yn unig ar gyfer Cytundeb Gwener y Groglith a’r broses heddwch ei hun, ond hefyd ar gyfer y safonau hawliau dynol a chydraddoldeb a adeiladwyd o amgylch y cytundeb.

Rhannwyd nifer o bryderon tebyg ymhlith cynrychiolwyr, o anallu cymdeithas sifil heddiw i gynllunio am Brexit o ganlyniad i’r ansicrwydd cyffredinol, i’r heriau a wynebir gan sefydliadau sydd eisoes yn teimlo gwir effaith Brexit yn eu bywydau dyddiol, er enghraifft o fewn cymunedau lleiafrifol neu o gylch gwneud penderfyniadau economaidd.

Cafodd gwahaniaethau pwysig ynglŷn ag effaith a chyd-destun eu hamlygu drwy gydol y digwyddiad, o heriau dinasyddiaeth ar ynys Iwerddon, lle mae Brexit yn amharu ar yr hawl i uniaethu fel Gwyddelig, Prydeinig neu’r ddau, a mudiad annibyniaeth yr Alban, i ddibyniaeth benodol Cymru ar ariannu gan yr UE a rhwydweithiau o fewn y cyd-destun o fod yr unig genedl ddatganoledig a chanddi fwyafrif o blaid gadael ar adeg y refferendwm.

Llwyddodd y gynhadledd mewn nifer o ffyrdd i roi cyfle ar gyfer rhannu’r dysgu- cafwyd diddordeb yn sgwrs Joanna Cherry QC ynglŷn ag archwiliad yr Alban o ddefnyddio model Gogledd Iwerddon o gynulliadau’r bobl i helpu iachau peth o’r rhaniad a achoswyd gan Brexit.

Yn y pen draw fodd bynnag, fe gafwyd rhai negeseuon cyffredin cryf:

  • Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit yng Nghymru, oedd un o’r cyntaf o nifer o bobl i amlygu bod Brexit wedi herio’r trefniadau cyfansoddiadol datganoledig yn sylfaenol. Dyma drefniadau a seiliwyd ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd ac a aeth mor bell â chwestiynu p’un a allai’r rhain barhau yn eu ffurfiau presennol.
  • Fe godwyd cwestiwn pwysig sawl gwaith na chafodd ei drafod llawer hyd yn hyn, sef pa fath o gymdeithas yr hoffai sefydliadau weld mewn oes ar ôl Brexit.
  • Yn olaf, cytunodd cynrychiolwyr bod gan gymdeithas sifil a chydweithrediad traws ffiniol ran hanfodol i’w ware wrth lunio ateb i’r cwestiwn hwn.

Bydd negodi ein perthynas gyda’r UE yn y dyfodol yn ffurfio rhan anferth o’r dirwedd ôl-Brexit hwn, a gyfeirir ato’n aml fel cyfnod dau o Brexit. Bydd yr ail gyfnod hwn lawer yn fwy cymhleth, yn cynnwys mwy o faterion o lawer, a chyda llawer mwy yn y fantol o’i gymharu gyda’r Cytundeb Gadael.

Ac wrth i sefydliadau adael y gynhadledd ar Mai 3, ar ôl mynegi brwdfrydedd mawr dros gydweithio i symud Brexit yn ei flaen, amlygwyd nifer o heriau sylweddol a arhosodd yn drwm ar feddyliau pobl.

Mae Cynghrair Cymdeithas Sifil Brexit wedi amlygu, yn dilyn y gynhadledd, bod Llywodraeth y DG wedi methu hyd yn hyn i ymwneud yn ystyrlon gyda’r cenhedloedd datganoledig yn ystod cyfnod cyntaf Brexit a bod hyn yn arbennig o ddifrifol i gymdeithas sifil- rhywbeth ’mae'r Sefydliad dros Lywodraeth wedi galw ar Lywodraeth y DG i’w wella.

Rhannu’r stori hon