Ewch i’r prif gynnwys

Newyddion

Money and graph

Awdurdodau lleol Cymru yn wynebu bwlch ariannu sylweddol y flwyddyn nesaf, yn ôl adroddiad newydd

16 Ebrill 2021

Yn ôl y dadansoddiad, mae awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu o £178 miliwn yn 2022−23, a diffyg o £132 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2023−24 a 2025−26 − her sylweddol i'r llywodraeth nesaf

Covid-19 i roi pwysau ariannol ar y GIG am flynyddoedd i ddod, yn ôl adroddiad newydd

9 Ebrill 2021

Yn ôl yr adroddiad, mae bwlch sylweddol rhwng y cyllid fydd yn deillio o wariant iechyd gan Lywodraeth y DG yn Lloegr a’r pwysau cyllidol fydd yn wynebu’r GIG yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys costau delio gyda chanlyniadau Covid-19

Senedd Building in Cardiff Bay

Dadansoddi polisïau maniffesto’r pleidiau cyn yr etholiad

1 Ebrill 2021

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad ar lein a’n cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn bwrw golwg ar oblygiadau cyllidol ymrwymiadau maniffesto a’r rhagolwg cyllidol i Gymru

Ergyd ddwbl i gyllido Rheilffyrdd: Cymru'n colli £500m er 2011 a gwasgfa ariannol i ddod yn y dyfodol yn ôl adroddiad newydd

22 Mawrth 2021

Canfyddiad yr adroddiad yw y gallai Cymru, dan system wedi’i datganoli’n llawn, fod wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol o £514m yn ei seilwaith rheilffyrdd rhwng 2011-12 a 2019-20

Nederland Beslist | Yr Iseldiroedd yn Penderfynu 2021: Sesiwn Briffio gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru

8 Mawrth 2021

Gyda Chymru hefyd ar fin cynnal etholiad cenedlaethol yn ystod y pandemig, a’r posibilrwydd o lywodraeth glymblaid arall ym Mae Caerdydd, gallwn gael dealltwriaeth o’r sefyllfa yn y drafodaeth hon gyda’n cymdogion agos

Money and graph

Hwb i gyllid Cymru flwyddyn nesaf ond toriadau i gynlluniau gwariant yn y blynyddoedd i ddilyn, yn ôl adroddiad cyllideb newydd

5 Mawrth 2021

Mae penderfyniad Llywodraeth y DG i gwtogi ar y cynlluniau gwariant a osodwyd cyn y pandemig o 2021-22 ymlaen yn lleihau’r cynnydd a gaiff ei ragamcan ar gyfer cyllideb Cymru o tua £600 miliwn y flwyddyn

Gwersi ar system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy i Gymru

3 Mawrth 2021

Mae’r adroddiad yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol i roi STV ar waith yng Nghymru yn y dyfodol

Gwefan ymgyrch McAllister yn mynd yn fyw

26 Chwefror 2021

Mae cyn-gapten tîm cenedlaethol Cymru yn sefyll mewn etholiad i fod yn gynrychiolydd benywaidd UEFA ar Gyngor FIFA

Welsh flag

Tîm Astudiaeth Etholiad Cymru yn paratoi ar gyfer ymgyrch etholiadol y Senedd 2021

11 Chwefror 2021

Bydd yr astudiaeth yn cael ei defnyddio i ddadansoddi hunaniaethau a gwerthoedd pleidleiswyr, effaith y pandemig Covid-19, ac agweddau tuag at ddadansoddi treth