Bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn nodi sut mae'n bwriadu ymgysylltu â phobl Cymru wrth lunio "gweledigaeth newydd i Gymru gref mewn DG lwyddiannus"
Mae’r seminar academaidd nesaf yn y gyfres gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd bellach yn hysbys, a bydd lle amlwg iawn i amaethyddiaeth a’r economi wledig
Datgelwyd canfyddiadau cychwynnol Astudiaethau Etholiad yr Alban a Chymru 2021 mewn gweminar yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd
Bydd y seminar yn dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw ar bolisi cymdeithasol a chyhoeddus ac ar lywodraethu lleol yng Nghymru i fyfyrio ar ble rydyn ni, sut wnaethon ni gyrraedd yma a beth yw'r heriau sydd ar ddod
Yn ôl y dadansoddiad, mae awdurdodau lleol yn wynebu bwlch ariannu o £178 miliwn yn 2022−23, a diffyg o £132 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2023−24 a 2025−26 − her sylweddol i'r llywodraeth nesaf
Yn ôl yr adroddiad, mae bwlch sylweddol rhwng y cyllid fydd yn deillio o wariant iechyd gan Lywodraeth y DG yn Lloegr a’r pwysau cyllidol fydd yn wynebu’r GIG yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys costau delio gyda chanlyniadau Covid-19
Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd yn cynnal digwyddiad ar lein a’n cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn bwrw golwg ar oblygiadau cyllidol ymrwymiadau maniffesto a’r rhagolwg cyllidol i Gymru