Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Flaengar yn Darganfod ‘Backstop’ Cudd yng Nghytuniad Cymru â Lloegr yn 1284: Rhaid i Gymru aros mewn Undeb Tollau gydag Iwerddon

1 April 2019

Welsh flag

Heddiw bydd tîm o ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn cyhoeddi eu bod wedi darganfod codisil na sylwyd arno o’r blaen yn Statud Rhuddlan. Mae goblygiadau pellgyrhaeddol i hyn o safbwynt y trafodaethau seneddol sydd ar waith ynghylch Brexit a pherthynas economaidd Cymru â’i chymdogion agosaf yn y dyfodol.

Mae statud 1284 – a wnaeth ymgorffori cyfeddiannaeth Cymru gan Deyrnas Loegr mewn deddfwriaeth - yn cynnwys cymal sy’n gwarantu hawl masnachwyr gwlân a lledr mewn tiroedd atodedig i gael mynediad i farchnadoedd gwlân Iwerddon, a hynny hyd byth.

Roedd y ddarpariaeth hon i bob pwrpas yn creu marchnad sengl ar gyfer gwlân, lledr a nwyddau hanfodol eraill rhwng Cymru ac Iwerddon hyd byth.

Meddai’r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, sydd hefyd yn hanesydd gwleidyddol a phen sy’n siarad, “Drwy chwilio’n fanwl ar Wikipedia, daethon ni o hyd i ddarpariaeth ‘backstop’ nad oedd neb wedi sylwi arni o’r blaen yn Statud Rhuddlan, a wnaeth Gymru’n rhan o Deyrnas Lloegr”.

Er bod tîm cyd-drafod Cymru yn wannach ac (yn llythrennol) heb gystal arfau â llu goresgynnol Normanaidd Edward I, dan arweiniad Michel de Berlaymont, llwyddodd y Cymry i sicrhau un peth hanfodol o’u plaid, sef yr ‘Ewe Compromise’.
Oherwydd bod mynediad i’r marchnadoedd gwlân wedi bod yn hanfodol erioed i economi Cymru, daeth yr ‘Ewe Compromise’ i rym mewn codisil sy’n gwarantu mynediad rhydd i farchnadoedd Iwerddon hyd byth.  Petai’r hawl mynediad hwn byth yn cael ei atal, byddai ‘backstop’ yn sicrhau bod rheolau masnach Cymru yn glynu wrth y rheoliadau yn Iwerddon.

Bu Rhuddlan gynt yn gartref i’r llywodraeth, gan mai hi oedd prifddinas Gwynedd adeg teyrnasiad y brenin Gruffydd ap Llywelyn, ac mae ei uchafbwyntiau modern yn cynnwys y Castell, ffordd osgoi’r A525 sy’n hwyluso mynediad i’r Rhyl, a nifer o fwytai gwych.

Daeth Jo Hunt, Athro ym maes Cyfraith Ewe, i’r casgliad:  “Wrth i Theresa May drafod trefniadau Brexit, mae’r ‘backstop’ yma yn golygu bod Ewe Compromise yn bwysicach nag erioed i sicrhau dyfodol Cymru.”

Rhannu’r stori hon