Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd yn dadansoddi £13.7 biliwn o ddiffyg yng nghyllid cyhoeddus Cymru

29 Gorffennaf 2019

Coins and notes

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi ei dadansoddiad diweddaraf o gyllid cyhoeddus Cymru.

Mae Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru 2019 yn tynnu ar ffigurau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd o wariant a refeniw cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â mantolen gyllidol y genedl yn gyffredinol.

Yn ôl y canlyniadau, ers yr adroddiad cyntaf o'i fath yn 2016, mae'r bwlch rhwng arian trethi a gwariant cyhoeddus wedi gostwng yng Nghymru, o £14.7 biliwn, sy'n 24% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP), i'r ffigur presennol, sef £13.7 biliwn, neu 19.4% o GDP.
Mae'r ffigur hwn yn cymharu â diffyg o 2% o GDP ar gyfer y DU gyfan.

Mae'r adroddiad yn nodi'r modd y mae sylfaen trethi Cymru'n wahanol i'r DU. Mae 4.7% o boblogaeth y DU yn byw yng Nghymru ond dim ond 3.6% o arian trethi'r DU sy'n dod o Gymru. 

Yn ôl ffigurau, yn wahanol i'r DU yn ei chyfanrwydd, lle treth incwm yw prif ffynhonnell arian y llywodraeth, TAW (Treth Ar Werth) sy'n cynhyrchu'r swm uchaf yng Nghymru.

Yn ôl Dr Ed Gareth Poole, arweinydd academaidd prosiect Dadansoddi Cyllid Cymru:  "Mae adroddiad heddiw yn rhoi darlun cynhwysfawr o gyflwr cyllid cyhoeddus Cymru, a bydd yn werthfawr dros ben i lunwyr polisïau sy'n wynebu cwestiynau pwysig am ein dyfodol cyfansoddiadol yn ogystal ag effaith Brexit.

"Tra bod y canlyniadau hynny'n seiliedig ar amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol, nid oes cuddio rhag y ffaith bod ffactorau hanesyddol wedi arwain at economi a sylfaen trethi yng Nghymru sy'n wannach o lawer na'r DU yn ei chyfanrwydd. Yn ôl y ffigurau, mae pob un o wledydd a rhanbarthau'r DU y tu allan i Lundain a'i chymdogion uniongyrchol mewn diffyg ariannol, ac mae gan Gymru'r diffyg mwyaf ond un fesul person ar ôl Gogledd Iwerddon."

Yn ôl yr adroddiad gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru:

  • Mae'r gostyngiad ym maint y diffyg yn ganlyniad ataliaeth o ran toriadau gwario, yn hytrach na chynnydd mewn cyllid. Fel cyfran o'r economi, mae gwariant wedi gostwng dros 10 pwynt canran ers 2009–10, ac mae gwariant fesul person yn dal i fod 4.2% islaw ei lefel uchaf yn 2011–12.
  • Yn y cyfamser, mae cyllid wedi cynyddu'n unol â'r economi. Tra bod cyllid TAW wedi cynyddu bron i 50% ers 2009–10, mae cyllid treth incwm yn parhau i fod ymhell islaw'r lefel uchaf cyn y dirwasgiad (2007–08), sy'n gyfuniad o dwf araf yn y sylfaen trethi ac effeithiau polisi llywodraeth y DU.
  • Ar sail amcanestyniadau presennol, disgwylir i gyfanswm gwariant cyhoeddus Cymru gyrraedd ei lefel uchaf, sef lefel 2011-12, mewn termau real eto yn 2023–24, tra disgwylir i ddiffyg ariannol Cymru barhau i syrthio fel cyfran o'r economi. Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd gwleidyddol, economaidd ac ariannol presennol, gallai llwybr cyllid a gwariant y dyfodol wyro o'r amcanestyniadau hynny.
  • Mewn cyd-destun rhyngwladol, mae gwariant y llywodraeth fesul person ar gyfer Cymru yn cyd-fynd, ar y cyfan, â'r cyfartaledd ar gyfer gwledydd datblygedig, tra bod cyfanswm y cyllid y pen yng Nghymru'n sylweddol is na'r cyfartaledd ar gyfer gwledydd datblygedig.

At hynny, mae ymchwilwyr wedi manylu ynghylch y modd y mae cyllid cyhoeddus Cymru wedi newid dros y blynyddoedd diweddar, ar ôl i gyllid trethi gael ei ddatganoli. Bydd y gyfran o gyfanswm y cyllid sy'n dod o drethi datganoledig a lleol yn cynyddu i 17.5% yn 2019–20, neu oddeutu £5.1 biliwn. Mae hynny'n cymharu â thua 55% o gyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru a llywodraethau lleol yng Nghymru.

Yn gynharach y mis hwn, nododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn y Cynulliad Cenedlaethol fod "cau'r bwlch ariannol yn uchelgais go iawn ar gyfer unrhyw lywodraeth yng Nghymru,"  ac mae'r ddadl yn tyfu ynghylch goblygiadau posibl annibyniaeth i Gymru. Er bod yr awduron yn nodi nad yw'r ffigurau yn yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa ariannol Cymru annibynnol, maent yn dweud bod y canfyddiadau'n cynnig man cychwyn er mwyn cynnal trafodaeth ar ddyfodol ariannol ac economaidd Cymru.

Ychwanegodd Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru: "Tra bod ein bwlch ariannol o'i gymharu â gweddill y DU wedi'i drafod yn eithaf da ers i'n hadroddiadau ynghylch cyllid ariannol Cymru ddechrau, mae llai o drafodaeth wedi bod ynghylch a ellir ei ostwng mewn modd ystyrlon. Gan gadw hyn mewn cof, rydym yn cynnal ymchwil i ystyried sut y gellir mynd i'r afael â'r gwahaniaethau hynny."

Mae canfyddiadau adroddiad heddiw eisoes wedi'u cyflwyno yng nghynhadledd gyntaf Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn, a byddant yn cael eu trafod ymhellach yn yr wythnosau sydd i ddod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Disgwylir y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref ynghylch yr opsiynau posibl ar gyfer gostwng y bwlch ariannol.

Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.