Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau

Rydyn ni’n cynnal rhaglen amryfal o achlysuron megis darlithoedd, dadleuon, derbyniadau a chynadleddau.

Mae’r rhan fwyaf yn rhad ac am ddim yn Adeilad Pierhead, ac yn agored i’r cyhoedd.

I gael newyddion am ein hachlysuron yn rheolaidd, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.

25 Mlynedd o Lywodraeth Cymru – Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2024 gan Jane Runeckles

Roedd Jane Runeckles yn Bennaeth Tîm Cynghorwyr Arbennig Mark Drakeford yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog; bu Jane hefyd yn gynghorydd arbennig i Carwyn Jones a Rhodri Morgan am y rhan fwyaf o 25 mlynedd cyntaf datganoli. Dechreuodd weithio i'r Grŵp Llafur yn y Senedd 2000 ac mae hi hefyd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio i TUC Cymru, gyda chyfrifoldeb am bolisi gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y 2010au cynnar. Fel cynghorydd arbennig, gweithiodd ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Cymru 2017 a bu â llaw yn llawer o'r newidiadau cyfansoddiadol allweddol dros gyfnod o 25 mlynedd. Yn fwy diweddar, mae hi wedi gadael Llywodraeth Cymru a bellach yn gweithio i'r FDA, yr undeb ar gyfer rheolwyr a gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaeth cyhoeddus.

Etholiad Cyffredinol y DU 2024 a Chymru

Mae Astudiaeth Etholiad Cymru yn cyflwyno eu canfyddiadau o ganlyniad Etholiad Cyffredinol y DU Gorffennaf 2024 yng Nghymru. Mae Dr Jac Larner a’r Athro Richard Wyn Jones yn cyflwyno data a dadansoddiadau newydd ac yn drafod sefyllfa y pleidiau Cymreig ar ddechrau’r ymgyrch ar gyfer yr ethnoliad cenedlaethol yng Nghymru yn 2026.

Recordiwyd yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, ar 7fed o Dachwedd 2024.