Ewch i’r prif gynnwys

Gwariant ar y system gyfiawnder yng Nghymru wedi ei dorri o un rhan o bump ers dechrau polisïau llymder

5 Awst 2019

Cardiff Bay

Cynnydd yn nhreth y cyngor a chyllid o Lywodraeth Cymru wedi gwrthbwyso rhywfaint o doriadau llywodraeth y DG

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi’r dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o wariant ar y system gyfiawnder ar lefel Cymru.

Mae’r adroddiad newydd, Gwariant Cyhoeddus ar System Gyfiawnder i Gymru, yn dadansoddi’r arian a ddarperir gan lywodraethau’r DG a Chymru a graddfa’r toriadau a wnaethpwyd dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd bron i £1.2 biliwn ei wario ar system gyfiawnder Cymru yn 2017-18, sy’n cyfateb i £370 y pen a rhyw 3.5% o gyfanswm gwariant cyhoeddus yng Nghymru.

Gwasanaethau’r heddlu oedd y maes gwariant mwyaf o bell ffordd (£709 miliwn), yna gwariant ar lysoedd barn a thribiwnlysoedd (£250 miliwn), a gwariant ar garchardai (£205 miliwn).

Mae gwariant ar y system gyfiawnder wedi gostwng o dros un rhan o bump ers dechrau polisïau llymder, o £1.5 biliwn yn 2009-10. Mae cyllid o lywodraeth y DG wedi gostwng o draean mewn termau real yn ystod y cyfnod hwn.

Mae cyllid datganoledig a llywodraeth leol ar gyfer cyfiawnder bellach yn cyfateb i £442 miliwn, neu 38% o gyfanswm y gwariant ar y system gyfiawnder. Mae’r ffigwr yma wedi cynyddu mewn termau real ers 2009-10.

Dywedodd Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru: “Er ei fod yn cael ei ystyried fel maes heb ei ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn trywydd rhywfaint yn wahanol ar gyllido’r system gyfiawnder ers dechrau llymder, yn enwedig wrth ganiatáu i dreth y cyngor godi’n gyflymach yng Nghymru a darpari cyllid ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Fodd bynnag, dim ond yn rhannol y mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi lleihau graddfa’r toriadau, ac mae sawl maes o’r system gyfiawnder yn dangos arwyddion o straen.

“Gyda thrafodaeth gynyddol ynghylch dyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru a sôn am ddatganoli pellach, dylai cyllid digonol fod yn fater allweddol i’w ystyried.”

Mae’r adroddiad hefyd yn canfod:

  • Mae’r gyfran o arian yr heddlu sy’n deillio o dreth y cyngor wedi cynyddu o 17% yn 1999-00 i 42% yn 2018-19. Ers 2010, mae lefelau treth y cyngor ar gyfer yr heddlu wedi cynyddu’n gynt yn ardaloedd heddluoedd Cymru (4% y flwyddyn ar gyfartaledd) nag yn Lloegr (2.4% y flwyddyn). Mae hyn wedi arwain at gwymp cymharol is yng ngwariant a niferoedd yr heddlu yng Nghymru o gymharu â Lloegr ers 2010.
  • Roedd gwariant ar gymorth cyfreithiol yng Nghymru yn £76.9 miliwn yn 2017-18, ac mae wedi gostwng dros 38% mewn termau real ers 2010-11. Mae gwariant cymorth cyfreithiol troseddol y pen yn sylweddol is yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr.
  • Cyfanswm y gwariant ar garchardai yng Nghymru oedd £168 miliwn yn 2017-18. Yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, mae gwariant ar garchardai yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ochr yn ochr â chynnydd mawr o 42% ym mhoblogaeth carchardai yng Nghymru ers 2010-11.

Bwriad yr adroddiad yw llywio gwaith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy’n cynnal yr archwiliad mawr cyntaf o’r system gyfiawnder yng Nghymru.

Bydd awdur yr adroddiad yn cyflwyno’r canfyddiadau mewn sesiwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ar 5 Awst 2019, 11:00 y.b. (Pabell Prifysgol Caerdydd).

Rhannu’r stori hon