Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau Crefyddol a Sbaeneg (BA)

Blwyddyn Mynediad


Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae Astudiaethau Crefyddol a Sbaeneg BA (Gradd Cydanrhydedd) yn galluogi i fyfyrwyr gyfuno Astudiaethau Crefyddol, sydd wedi ffurfio rhan o fywyd dynol ers y dechreuad, gydag un o'r ieithoedd sy’n cael ei siarad mwyaf yn y byd.

Cadwch le ar ddiwrnod agored

A line of statues

Trosolwg y cwrs

Ein hamcan yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg ac Astudiaethau Crefyddol yw datblygu ac addysgu ein myfyrwyr i fod yn 'ddinasyddion byd-eang'.  Drwy gyfuno Sbaeneg ac Astudiaethau Crefyddol, byddwch yn meithrin amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy sy'n fuddiol i fyd gwaith, gan roi mantais gystadleuol i chi a’ch gwneud yn ddeniadol i weithlu cynyddol fyd-eang, ac agor drysau i amrywiaeth o lwybrau gyrfa

Mae crefydd yn rhan o brofiad y ddynolryw, o’i holion cynharaf hyd heddiw. Drwy grefydd y mae’r rhan fwyaf o ddiwylliannau wedi ceisio mynegi eu dealltwriaeth o bwrpas bywyd, a chrefydd yw sylfaen ymddygiad personol a chymdeithasol pobl.  Byddwch yn cael y cyfle i ymchwilio i’ch hanes a’ch diwylliant crefyddol eich hun a phobloedd eraill, ac i rai o gwestiynau sylfaenol bodolaeth, a hynny mewn canolfan ymchwil sy'n ffynnu.

Mae Sbaen yn wlad bwysig ar lwyfan Ewrop a’r byd, ac yn enwog am ddiwylliant cyfoethog a soffistigedig. Sbaeneg yw un o ieithoedd gwaith swyddogol y gymuned Ewropeaidd ac mae’n iaith diwylliant a diplomyddiaeth ar lefel fyd-eang o hyd.

Yn ogystal â datblygu sgiliau lefel uchel o ran iaith, cewch gyfle i ddatblygu dealltwriaeth ryngddiwylliannol drylwyr sy'n cwmpasu gwybodaeth benodol am ddiwylliant Sbaenaidd. Byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel o ran cyfathrebu a meddwl yn feirniadol, ac yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth yn sgil yr amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.

Rydym ni’n cynnig Sbaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant Sbaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth i chi ddilyn eich cwrs.

Bydd eich dealltwriaeth o’r iaith yn cael ei datblygu a’i mireinio ymhellach yn ystod eich blwyddyn dramor, pan fyddwch yn cael profiad uniongyrchol o fywyd mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cael cyfle i ysgrifennu traethawd hir, a fydd yn ysgogi menter a gall fod yn baratoad defnyddiol ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig. 

Mae'n bwysig cofio nad yr iaith yn unig sy'n bwysig wrth astudio ieithoedd. Mae’n cynnwys archwilio sawl agwedd ar wlad, a’n nod yw cynnig cwrs wirioneddol eang sy'n cynnig modiwlau heriol ac ysgogol. 

Fel myfyriwr cyd-anrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau ategol sy'n aml yn cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil ddiweddar. Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych lefel uchel o hyfedredd iaith, yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar hanes, diwylliant, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Sbaen.   

Nodweddion nodedig

  • Addysgu dan arweiniad ymchwil, sy’n eich galluogi i ymgysylltu â syniadau newydd sy’n helpu i lunio dyfodol Astudiaethau Crefyddol a Sbaeneg.
  • Addysgu iaith o ansawdd uchel wedi ei ddarparu gan siaradwyr brodorol.
  • Rhaglen fywiog o weithgareddau allgyrsiol i gefnogi eich gwaith dysgu iaith a throchi mewn diwylliant Sbaenaidd.
  • Cwricwlwm gyda bwa dysgu clir, yn defnyddio’r ymchwil diweddaraf a chynnig dealltwriaeth drylwyr o'r diwylliant Sbaenaidd.
  • Rhaglen sgiliau wedi ei strwythuro sy'n ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd, academaidd a throsglwyddadwy yn y gwaith dysgu o'r dechrau
  • Y dewis o leoliad gwaith lle gellir ennill credydau
  • y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn naill ai yn astudio neu’n gweithio mewn gwlad sydd yn defnyddio eich dewis iaith i’w hastudio yn bennaf
  • Amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol i ymgysylltu ag ysgolion lleol a chymunedau yn hyrwyddo dysgu iaith a datblygu eich sgiliau a'ch proffil.
Côd UCASRV46
Derbyniad nesafMedi 2020
Hyd4 blwyddyn
Modd (astudio)Amser llawn
Lleoedd sydd ar gael fel arferThe School typically has 320 places available.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferThe School typically receives 1800 applications.
  1. Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

    Adeilad John Percival

    Rhodfa Colum

    Caerdydd

    CF10 3EU

  2. Yr Ysgol Ieithoedd Modern

    66a Plas y Parc

    Cathays

    Caerdydd

    CF10 3AS

Gofynion mynediad

BBB-BBC. Sylwer, nid ydym yn derbyn Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Cymhwyster Prosiect Estynedig: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn cael cynnig un radd yn is na’r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Noder bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy’n benodol i’r pwnc o hyd

Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod) ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Graddau DDM-DMM mewn pynciau Dyniaethau, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Gyfrifiadura. Unrhyw bwnc BTEC arall os caiff ei gyfuno â Safon Uwch. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Meddwl yn Feirniadol.

Bagloriaeth Ryngwladol 32-30 neu 665-655 o dri phwnc Lefel Uwch.

Gallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Ieithoedd Modern ac Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 51 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

TGAU Saesneg Iaith Gradd C neu 4 neu cymhwyster Iaith Saesneg cyfatebol.

Dewis

Each candidate's profile is considered as a complete picture, taking into account your interest in and suitability for the degree, as shown in your personal statement and referee's report, as well as achieved and predicted grades. Your ability to present an argument, evidence of intellectual curiosity and your enthusiasm for and commitment to studying will also be assessed.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr y DU ac UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2020/21)

Ffioedd DysguBlaendal
£17,700Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis buddsoddi mewn copïau personol o'r geiriaduron dwyieithog heb eu cwtogi a’r cyfeirlyfrau gramadeg. Er bod copïau o'r rhan fwyaf o'r deunyddiau cwrs ar gael yn y Llyfrgell, mae llawer o fyfyrwyr yn dewis cael copi personol o'r testunau gosod.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Strwythur y cwrs

Mae BA mewn Astudiaethau Crefyddol a Sbaeneg yn rhaglen radd dros gyfnod o bedair blynedd. Mae wedi ei strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael cymwyseddau iaith ar lefel uchel i fod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer gwaith proffesiynol.

Ym mhob blwyddyn o’r rhaglen byddwch yn astudio 120 o gredydau, wedi eu rhannu'n gyfartal rhwng 60 o gredydau mewn Astudiaethau Crefyddol a 60 o gredydau mewn Sbaeneg. Treulir eich trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor yn Sbaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Sbaeneg.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2020/21. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2020

Blwyddyn un

Byddwch yn cyfuno 60 o gredydau mewn Sbaeneg a 60 o gredydau mewn Astudiaethau Crefyddol.

Cewch astudio crefydd drwy destunau, barddoniaeth, celf, ffilm, bywgraffiadau, gwaith maes a drama. Byddwch yn cael cyflwyniad i syniadau allweddol am ddefodau, rhyw a lle sy'n rhoi sylfaen deinamig ar gyfer astudiaeth bellach ar draws amrywiaeth o fodiwlau a gynigir yn eich ail a thrydedd flwyddyn. Byddwch hefyd yn cael y dewis i astudio un o ieithoedd gwreiddiol y testunau crefyddol a gynigir.

Ym mlwyddyn un, rydym yn cynnal dau lwybr iaith i fyfyrwyr: llwybr uwch i fyfyrwyr sydd â Safon Uwch neu gymhwysedd cyfatebol mewn Sbaeneg, a llwybr i ddechreuwyr ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am y Sbaeneg. Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen hon yn rhoi sylfaen drylwyr yng ngramadeg yr iaith i’r myfyrwyr hynny ar lwybr y dechreuwyr, ac yn datblygu sgiliau ieithyddol i fyfyrwyr ôl Safon Uwch ar y llwybr uwch. 

Byddwch hefyd yn astudio modiwl nad yw’n ymwneud ag iaith sy'n cyflwyno datblygiad Sbaen fel cenedl i chi, gan archwilio beth yw ei harwyddocâd i grwpiau gwahanol ar adegau gwahanol mewn hanes. Mae hefyd yn archwilio perthynas Sbaen â'r byd, gan eich galluogi i archwilio rôl Sbaen y tu hwnt i'r ffiniau cenedlaethol. Bydd y modiwl yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a’r gallu hynod werthfawr i gyfryngu rhwng diwylliannau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Advanced Spanish Language Year 1ML018840 credydau
Beginners Spanish Language Year 1ML018940 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
A World Full of GodsHS000120 credydau
Reading Latin1HS312120 credydau
Reading Latin 2HS312220 credydau
Reading Greek 1HS312320 credydau
Reading Greek 2HS312420 credydau
Themes and Issues in the Study of ReligionRT010220 credydau
Introduction to a Scriptural Language 1RT010320 credydau
Introduction to a Scriptural Language 2RT010420 credydau
Introduction to the BibleRT010520 credydau
The Story of ChristianityRT010620 credydau

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn dau, byddwch unwaith eto yn astudio 60 o gredydau mewn Astudiaethau Crefyddol a 60 o gredydau mewn Sbaeneg.

Mae elfennau iaith blwyddyn dau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf, ac yn eich paratoi ar gyfer eich blwyddyn dramor.

Yn ogystal ag iaith, byddwch yn astudio 30 credyd yn edrych ar Sbaen mewn cyd-destun trawswladol. Bydd hyn yn fodd o gyflwyno offer beirniadol, methodolegau ac ymagweddau allweddol y gallwch eu defnyddio mewn astudiaeth fanwl, gan edrych ar amrywiaeth o bynciau megis diwylliant, hanes a gwleidyddiaeth, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau Astudiaethau Crefyddol.

O ran Astudiaethau Crefyddol, byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu gwybodaeth fwy datblygedig o amrywiaeth o draddodiadau crefyddol, gan adeiladu ar fodiwlau rhagarweiniol a wnaed yn y flwyddyn gyntaf a byddwch yn datblygu eich ymwybyddiaeth o rôl crefydd wrth lunio materion pwysig diwylliannol, deallusol, a moesegol cymdeithasau cyfoes. 

Blwyddyn tri: Blwyddyn Ryngosod

Treulir blwyddyn tri yn Sbaen neu mewn gwlad arall Sbaeneg ei  hiaith. Bydd y flwyddyn yn eich galluogi i feithrin sgiliau iaith, yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r diwylliant targed ac yn datblygu eich annibyniaeth, eich dyfeisgarwch a’ch gwytnwch.

Ymhlith y dewisiadau y mae:

  • astudio yn un o'n prifysgolion partner;
  • gweithio fel cynorthwyydd Saesneg mewn ysgol drwy gynllun y British Council, neu
  • weithio i sefydliad neu gwmni Sbaenaidd. 

Os byddwch yn dewis yr opsiwn astudio, rydym wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid sy’n darparu cyfleoedd i astudio mewn sefydliadau mewn dinasoedd sydd wedi cynnwys Valencia, Barcelona a Seville.

Gall lleoliadau ar gyfer cynorthwywyr addysgu ar gynllun sy’n cael ei redeg gan y British Council fynd â chi naill ai i ddinas fawr neu i dref wledig fechan. Mae’r dewis hwn yn cynnig profiad addysgu uniongyrchol ac yn eich galluogi chi i ennill digon o gyflog i fyw arno, er eich bod chi ddim ond yn gweithio’n rhan-amser. Cyn cychwyn ar eich lleoliad, mae’r British Council yn cynnig penwythnos hyfforddi yn y wlad berthnasol. Yn ogystal, dylai’r ysgol rydych chi wedi cael eich neilltuo ar ei chyfer gynnig arweiniad i chi hefyd yn eich rôl fel athro a’ch helpu i ddod o hyd i le i fyw.

Mae’r trydydd dewis yn cynnwys lleoliad gwaith gyda sefydliad neu gwmni yn y byd sy’n siarad Sbaeneg. Gellir gwneud y trefniadau angenrheidiol drwy gysylltiadau personol sydd gennych chi neu drwy fynd at sefydliadau yn uniongyrchol. Er mwyn sicrhau bod eich lleoliad gwaith yn rhoi digon o gyfle i chi siarad Sbaeneg ac yn rhoi profiad buddiol i chi, bydd angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Ysgol ar gyfer trefniadau o’r fath.

Ni waeth beth y byddwch yn ei ddewis, mae’r flwyddyn dramor yn gyfle gwych i chi wella eich dealltwriaeth o’r iaith, ymgolli mewn diwylliant arall, a chael profiad astudio neu brofiad gwaith rhyngwladol. Mae astudio neu weithio dramor yn baratoad rhagorol ar gyfer eich blwyddyn olaf, ac yn rhoi lefel o hunanhyder ac aeddfedrwydd sydd wedi bod yn boblogaidd gyda chyflogwyr.

Mae unrhyw fyfyriwr sy’n ymgymryd â lleoliad astudio neu leoliad hyfforddeiaeth/gwaith yn Ewrop yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am grant Erasmus.     

Blwyddyn pedwar

Pan fyddwn yn eich croesawu yn ôl i Gaerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf, byddwch yn parhau i ddatblygu eich sgiliau iaith, gan astudio 30 o gredydau iaith a 30 o gredydau mewn modiwlau Sbaeneg dewisol, yn ychwanegol at 60 o gredydau mewn modiwlau Astudiaethau Crefyddol dewisol.

Byddwch yn cael cyfle i wella eich dealltwriaeth o themâu crefyddol a phynciau gydag amrywiaeth o fodiwlau arbenigol. Efallai y byddwch hefyd yn caffael sgiliau o ran ymchwil ansoddol a meintiol i grefydd(au) mewn cymdeithasau cyfoes, yn dibynnu ar y modiwlau a ddewiswch.

Byddwch yn mireinio eich sgiliau ieithyddol o ran mynegiant a chyfieithu, ac yn arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi drwy ddewis modiwlau arbenigol. 

Byddwch yn cael y cyfle i adeiladu ar y sylfaen eang o wybodaeth a sgiliau rydych chi wedi ei datblygu i astudio maes arbenigedd ymchwil yn yr ysgol, drwy'r modiwlau a addysgir a/neu draethawd estynedig. Cewch gyfle hefyd i gymryd rhan yn ein modiwl addysgu poblogaidd iawn, sy’n fodiwl achrededig lle byddwch yn adeiladu ar astudiaethau a gweithdai yn y Brifysgol i ymgymryd â lleoliad addysgu yn un o'n hysgolion partner yn yr ardal.

Mae'r modiwl traethawd hir yn y flwyddyn olaf yn rhoi’r dewis i chi ysgrifennu traethawd hir ac ymgysylltu’n ddyfnach â maes y testun a ddewisir, yn ogystal ag ymestyn eich sgiliau ymchwil a dadansoddi.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut caf fy addysgu?

Mae'r rhan fwyaf o'n modiwlau yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau iaith sy'n eich galluogi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu meddwl beirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys dysgu digidol.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae'r seminarau yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â syniadau allweddol yn feirniadol ac archwilio syniadau a amlinellir mewn darlithoedd mewn amgylchedd grŵp bach, fel arfer sy’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ac arweinydd seminar (aelod o'r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Caiff dosbarthiadau iaith eu haddysgu mewn grwpiau i wella hyder a dysgu gweithredol. Bydd yr amserlen amrywiol yn cynnwys mynegiant llafar, dealltwriaeth wrth wrando a sgiliau ysgrifennu, a addysgir mewn grwpiau bychain er mwyn gwella hyder a dysgu gweithredol. Mae’r sgiliau cyfathrebu hollbwysig hyn yn cael eu hymarfer a’u datblygu trwy ymarferion gwaith dosbarth a gwaith ysgrifenedig rheolaidd. Mae ein dulliau addysgu yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o dechnolegau dysgu iaith. Mae deunyddiau gan gynnwys gwerslyfrau, fideos, ffilmiau, nofelau, ffeiliau sain a gwefannau yn cael eu hategu gan adnoddau ar-lein sy'n ategu gweithgareddau’r ystafell ddosbarth ac yn hyrwyddo a hwyluso dysgu annibynnol. Mae deunyddiau dosbarth yn amrywio o destunau llenyddol a hanesyddol i destunau newyddiadurol cyfoes, gan roi cipolwg eang ar iaith a diwylliant.

Mae astudio’n annibynnol yn rhan allweddol o'ch gwaith dysgu, ac mae ein portffolios dysgu annibynnol wedi cael eu datblygu i ddarparu adnoddau ar-lein i fod o gymorth gyda’ch gwaith dysgu iaith yn annibynnol.

Blwyddyn 1

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

24%

Astudio annibynnol dan arweiniad

76%

Lleoliadau ments

0%

Blwyddyn 2

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Blwyddyn 3

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

0%

Astudio annibynnol dan arweiniad

0%

Lleoliadau ments

100%

Blwyddyn 4

Gweithgareddau dysgu ac addysgu wedi'u trefnu

null%

Astudio annibynnol dan arweiniad

null%

Lleoliadau ments

null%

Beth a ddisgwylir ohonof?

Mae ein rhaglen BA mewn Astudiaethau Crefyddol a Sbaeneg yn cael ei haddysgu gan dîm, gyda'r rhaglen yn ei chyfanrwydd yn cael ei goruchwylio gan Gyfarwyddwr y Rhaglen. Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Mae gan bob aelod o staff academaidd oriau dynodedig pan fyddan nhw ar gael i gyfarfod â myfyrwyr i gynnig cyngor ac adborth ar y pynciau maen nhw'n eu haddysgu.

Yn ogystal, bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ar eich cyfer, a fydd yn cyfarfod â chi'n rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a’ch datblygiad ar draws eich astudiaethau, ac i feddwl am sut i adeiladu ar eich cyflawniadau a hyrwyddo ymhellach. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio chi at gymorth priodol os ydych chi’n cael trafferth.

Tra byddwch chi i ffwrdd o Gaerdydd, bydd Cydlynydd Blwyddyn Dramor yn cael ei neilltuo ar eich cyfer, a fydd yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn monitro eich cynnydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael ymweliad gan un o’ch darlithwyr a fydd yn awyddus i gael gwybod sut hwyl rydych chi’n ei chael ar bethau.

Mae wythnos datblygu sgiliau bob semester yn caniatáu i chi astudio dan arweiniad ac yn rhoi cyfle i chi ddal i fyny ar waith i’w asesu, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor. 

Drwy wefan Dysgu Canolog (amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol), byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae ein Tîm Gwasanaethau Proffesiynol ar gyfer israddedigion yn rhoi cefnogaeth academaidd a chefnogaeth i fyfyrwyr ar yr holl raglenni. Lleolir y tîm mewn 'canolfan myfyrwyr' bwrpasol yn yr ysgol ac maen nhw’n darparu gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Hefyd, mae gennym Swyddog Gweinyddol ymroddedig Cymorth i Fyfyrwyr yn yr Ysgol, sy'n gallu rhoi’r cyngor a’r arweiniad angenrheidiol i chi mewn amgylchedd cefnogol, gofalus a chyfrinachol.

Rydym yn ymfalchïo yn lefel y cyswllt sydd gennym â’n corff myfyrwyr, gan roi'r cyfle i chi leisio eich barn a bod yn bartneriaid ym mhrosesau gwneud penderfyniadau’r Ysgol lle bo’n bosibl. Rydym yn creu arolwg myfyrwyr yn rheolaidd i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn gweithio ar sail yr hyn sydd orau ar eich cyfer. 

Mae gan yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Swyddog Lleoliadau Gwaith penodedig sydd yn eich cefnogi chi gyda chyfleoedd profiad gwaith yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau. 

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Datblygu Sgiliau Academaidd a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut y caf fy nghefnogi?

Our BA programme in Religious Studies and Spanish is team-taught, with the programme as a whole overseen by the Programme Director. You will be supported by a number of different staff, some focussing on academic performance in a particular area and some looking at learning and progress more holistically.

All academic staff have designated hours where they are available to meet with students to offer advice and feedback on the subjects that they teach.

You will also be allocated a personal tutor, who will meet with you regularly to reflect on your progress and development across your studies, and to think about how to build on your achievements and advance further. Your personal tutor can also guide you if you are experiencing difficulties towards appropriate support.

While you are away from Cardiff, you will be assigned a Year Abroad Coordinator, who will keep in touch with you and monitor your progress. You may also get a visit from one of your lecturers who will be keen to find out how you are getting on.

A skills development week each semester allows for guided study and a chance to catch up on assessed work, reading and revision. These weeks are also used by staff to visit students on their year abroad. 

You will have access through the Learning Central (the University virtual learning environment) to relevant learning resources, presentations, lecture handouts, bibliographies, further links, electronic exercises and discussion circles.

Our undergraduate Professional Services Team provides academic and student support for all programmes. The team are located in a dedicated ‘student hub’ within the school and provide information and guidance in response to any queries you may have. We also have a dedicated Student Support Administrative Officer within the School, who can provide you with the necessary advice and guidance in a supportive, caring and confidential environment.

We pride ourselves on the level of engagement we have with our student body, giving you the opportunity to express your opinions and be partners in School decision-making where possible. We survey students regularly to make sure we are always working in your best interests. 

The School of History, Archaeology and Religion has a dedicated Work Placements Officer who supports you with work experience opportunities both in and out of term time. 

The University offers a range of services including the Careers Service, the Counselling Service, the Disability and Dyslexia Service, the Student Support Service, the Academic Skills Development Centre and excellent libraries and resource centres.

.

Sut caf fy asesu?

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich helpu chi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a’ch cymwyseddau, gyda’r adborth a gewch chi’n bwydo ymlaen i waith yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynnig amrywiaeth o fformatau asesu traddodiadol (fel traethodau, profion dosbarth, arholiadau a thraethodau hir) yn ogystal â dulliau mwy arloesol o asesu, (fel blogiau fideo, cymryd rhan mewn sioeau radio, prosiectau fideo a sain, cyfweliadau, portffolios, ac ati). Mae'r asesiadau yn cynnwys asesiadau ffurfiannol (sy'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau, ac nid ydyn nhw’n cyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd terfynol) ac asesiadau crynodol (sy'n cyfrif tuag at eich dosbarthiad terfynol).

Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Dulliau asesu (2017/18 data)

Blwyddyn 1

Arholiadau ysgrifenedig

58%

Arholiadau ymarferol

3%

Gwaith cwrs

38%

Blwyddyn 2

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Blwyddyn 3

Arholiadau ysgrifenedig

0%

Arholiadau ymarferol

0%

Gwaith cwrs

100%

Blwyddyn 4

Arholiadau ysgrifenedig

null%

Arholiadau ymarferol

null%

Gwaith cwrs

null%

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Y gallu i siarad, ysgrifennu a deall un neu ragor o ieithoedd tramor i lefel uchel o gymhwysedd.
  • Dealltwriaeth ryngddiwylliannol fanwl gan gynnwys gwybodaeth benodol am ddiwylliannau eraill, sy’n gysylltiedig â gallu i lywio a chyfryngu rhwng mwy nag un diwylliant.
  • Y gallu i lunio casgliad i ddadl ysgolheigaidd, sy'n crynhoi'r hyn sydd wedi cael ei ddangos ac sy'n cysylltu hyn â materion ehangach o ran astudio crefydd a chymdeithas.
  • Defnyddio tystiolaeth i resymu, gan fod yn oddefgar o ddehongliadau eraill o'r dystiolaeth ar yr un pryd.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Sgiliau ieithyddol uwch, yn ogystal â gwerthfawrogiad eang o ddiwylliant, llenyddiaeth a hanes Sbaen a gwledydd lle siaredir Sbaeneg.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn Saesneg a Sbaeneg, a hynny yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Y gallu i lunio rhagdybiaethau ar sail archwiliad trylwyr o ffynonellau cynradd ac eilaidd
  • Rhagdybiaeth ysgolheigaidd, yn ogystal â'r dystiolaeth sy'n sail iddi.
  • Y gallu i lunio dadl ysgolheigaidd sy'n cefnogi cynhennau â ffynonellau cynradd ac eilaidd.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Defnyddio amrywiaeth o raglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol.
  • Dangos gwytnwch ac annibyniaeth drwy'r amser a dreulir mewn cyd-destunau trochi iaith dramor.
  • Dangos sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
  • Gweithio yn unol â therfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Deall pynciau cymhleth yn hyderus.
  • Dadansoddi testunau cymhleth.
  • Dehongli a defnyddio data perthnasol.
  • Arddangos sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Llunio eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Dysgu yn sgil beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau.
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.
  • Arddangos sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer).
  • Arddangos creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
  • Arddangos sgiliau arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli.
  • Nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Ieithoedd Modern

Yn 2015-16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio.

Mae llawer o raddedigion yn mwynhau eu blwyddyn dramor gymaint nes eu bod yn neilltuo amser i wneud rhagor o deithio, neu’n mynd dramor ar ôl graddio i chwilio am gyflogaeth.  

Ymhlith y rhai sy’n dewis aros yn y Deyrnas Unedig, mae llawer yn dilyn astudiaethau ôl-raddedig, fel un o raddau Ôl-raddedig a addysgir yr Ysgol neu gwrs TAR. Mae eraill yn dechrau gweithio yn syth ar ôl graddio, ac mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ragorol mewn diplomyddiaeth ryngwladol, y Gwasanaeth Sifil, addysgu, busnes a newyddiaduraeth. Mae dewisiadau cyflogaeth eraill yn cynnwys rolau fel cyfieithwyr, cynorthwywyr iaith, cynorthwywyr allforio a phrawf-ddarllenwyr.  

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Yn 2015-16, dywedodd 94% o raddedigion yr Ysgol oedd ar gael i weithio eu bod  mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio. Mae rhai o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i broffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o’u harbenigedd academaidd, tra bo eraill yn cystadlu yn llwyddiannus iawn mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill. 

Rydym yn trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd er mwyn helpu myfyrwyr i nodi eu sgiliau a’u priodoleddau, ac mae gennym ein Swyddog cyflogadwyedd a Lleoliadau’r Gweithle mewnol yn yr Ysgol.

Gall myfyrwyr Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol ddewis astudio'r modiwl ‘Crefydd yn y Gweithle’, sy'n canolbwyntio'n benodol ar feithrin sgiliau cyflogadwyedd a menter.

Rydym yn trefnu gweithdai rhyngweithiol gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i helpu myfyrwyr i adnabod eu sgiliau a'u priodoleddau. Mae graddedigion Astudiaethau Crefyddol yn dod o hyd i waith mewn amrywiaeth eang o gyflogaeth broffesiynol gysylltiedig a heb fod yn gysylltiedig. Mae rhai yn dewis ymgymryd ag astudiaeth ôl-raddedig yng Nghaerdydd neu yn rhywle arall, a rhai wedi dod yn haneswyr rhyngwladol honedig.

Lleoliadau

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu, mae’n bosibl y gallech chi gwblhau interniaeth yn addysgu iaith mewn ysgol uwchradd yn y Deyrnas Unedig yn eich blwyddyn olaf.

Mae'r ddwy ysgol yn cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith am gredydau.

icon-academic

Diwrnod agored nesaf i israddedigion

Gwanwyn 2020

icon-international

Rhyngwladol

icon-contact

Cysylltwch â ni

icon-pen

Sut i wneud cais