Ewch i’r prif gynnwys

Annog plant yn Llanelli i ymgysylltu â gwyddoniaeth a natur

Mae'r prosiect peilot hwn yn gweithio gydag Ysgol Pen Rhos, sef ysgol gynradd yn Llanelli, i arolygu a modelu amrywiaeth y fflora a'r ffawna sydd ar dir yr ysgol.

Fe fydd yr arolwg yn cael ei ddefnyddio i lunio rhestr o'r planhigion y mae pryfed peillio yn ymweld â hwy amlaf ac i lywio strategaethau plannu ar gyfer y dyfodol ynghyd ag asesiad o amrywiaeth y rhywogaethau gwenyn sy'n ymweld â'r safle.

Bydd y prosiect peilot newydd hwn yn creu amrywiaeth o adnoddau addysgol sy'n archwilio effaith newid yn yr hinsawdd ar fflora a ffawna lleol.  Un o allbynnau’r prosiect fydd cronfa ddata o'r planhigion a'r gwenyn a welwyd ar dir yr ysgol yn ystod haf 2022. Y bwriad yw ailadrodd yr arolwg hwn yn flynyddol i archwilio effaith newid yn yr hinsawdd ar niferoedd gwenyn lleol ac amrywiaeth o ran rhywogaethau.

Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn gwella lles drwy ymgysylltu â natur. Asesir effaith ymgysylltu â natur ar les goddrychol trwy ddefnyddio offer a ddatblygwyd yn rhan o’r prosiect presgripsiynu gwyrdd Abercynon.

Rydym hefyd yn ceisio ennyn rhagor o werthfawrogiad yn y disgyblion o werth gwyddoniaeth ac ymgysylltu â’r pynciau STEM.

Mae'r prosiect peilot hwn yn cefnogi adferiad gwyrdd drwy weithio gyda phobl ifanc a grwpiau eraill sydd wedi'u tangynrychioli er mwyn datblygu sgyrsiau am newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission