Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Twneli Polythen Glofa ‘The Navigation’

Mae hen Lofa’r Navigation yng Nghrymlyn yn safle o bwys yn genedlaethol gan ei fod yn enghraifft brin o lofa yng Nghymru sy’n goroesi.

Mae nifer o adeiladau hanesyddol yn cael eu haddasu at ddibenion gwahanol ar hyn o bryd i gynnig addysg, gweithdai, canolfan dreftadaeth a chyfleusterau cymdeithasol i ymwelwyr.

Bydd cam cyntaf Prosiect Twneli Polythen Glofa 'The Navigation' yn troi cynhwysydd llongau ar dir y lofa yn ganolfan addysg a thywydd gwlyb i staff, gwirfoddolwyr ac i bobl ifanc o Unedau Cyfeirio Disgyblion lleol a'r Grŵp ARC, sy'n cyflogi ac yn hyfforddi pobl ifanc ar y safle i ddatblygu sgiliau adeiladu a chynnal a chadw.

Bydd yr un bobl ifanc yn cymryd rhan yn cam 2 y prosiect i greu a datblygu dau dwnnel polythen fel rhan o fenter tyfu i'r farchnad a arweinir gan y gymuned. Bydd y prosiect yn cefnogi sgiliau pobl ifanc i fyw'n annibynnol yn yr ardal leol, gan ddatblygu cwricwlwm a rhaglen astudio er mwyn iddyn nhw lwyddo hyd orau eu gallu.

Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Prifysgol Caerdydd, Ymddiriedolaeth Glofa’r Navigation, Grŵp ARC a darparwyr addysg lleol.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission