Ewch i’r prif gynnwys

Creu cymuned gyfeillgar i blant yn Grangetown

Rhoi llais i bobl ifanc yn y broses o greu cynllun adfer ar ôl y pandemig, ar gyfer eu cymuned.

Mae'r ymatebion i bandemig COVID-19, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, cau ysgolion a gwahardd gweithgareddau awyr agored, wedi dwysáu anghydraddoldebau cymdeithasol a gofodol. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi gorlawn neu fflatiau uchel, heb fynediad at erddi, a dim ond mynediad cyfyngedig at y rhyngrwyd.

“Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd y pandemig yn gadael effeithiau hirdymor ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Nod y prosiect hwn yw gwella lles plant a phobl ifanc yn Grangetown, Caerdydd, un o’r cymunedau a gafodd eu heffeithio waethaf gan y pandemig. Drwy gyfres o weithdai a gweithgareddau ymgysylltu, mae'r prosiect hwn yn rhoi llais i blant a phobl ifanc yn y broses o greu cynllun adfer gwyrddach a thecach ar gyfer eu cymuned

Mae'r cynllun adfer ar gyfer Grangetown sy'n gyfeillgar i blant, yn cynnwys argymhellion y gellir eu rhoi ar waith mewn cymunedau eraill yng Nghaerdydd, a ledled y DU.

Mae'r cynllun adfer, wedi'i lansio ym mis Chwefror 2023, ar gael yma:

Grangetown: lle gwych gael eich magu

Cynllun plant a phobl ifanc ar gyfer Grangetown, Caerdydd

Cysylltwch â Matluba Khan i gael rhagor o wybodaeth:

Dr Matluba Khan

Dr Matluba Khan

Lecturer in Urban Design

Email
khanm52@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4994