Ewch i’r prif gynnwys

Cynrychioli’r farn gyhoeddus wrth ddiwygio polisïau trethi

Nod y prosiect hwn yw rhoi llais i bobl sydd heb gael eu cynrychioli’n ddigonol o ran agweddau polisi ar fywyd sifig, yn enwedig wrth wneud penderfyniadau am drethi a'r system fudd-daliadau.

Bydd y prosiect yn ehangu ein grŵp o arbenigwyr amrywiol i adnabod y mannau lle mae angen diwygio trethi fwyaf a chreu platfform digidol fydd yn caniatáu cyfathrebu dwy ffordd rhwng ymchwilwyr a'r cyhoedd at ddibenion addysg gyhoeddus. Ymhlith y grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol y bydd y prosiect yn canolbwyntio arnyn nhw y mae menywod gartref ac yn y gweithle, lleiafrifoedd ethnig, gofalwyr a'r anabl.

Grŵp Ymchwil Trethiant Rhyngddisgyblaethol Caerdydd (CITRG) sy’n arwain y prosiect hwn ac mae canmol ar y grŵp yn sgîl ei ymchwil o safon uchel ar bolisïau trethiant a gweinyddu a diwygio'r system drethi, a hynny gan gynnig gwerth cyhoeddus.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission