Ewch i’r prif gynnwys

Creu hyrwyddwyr y dyfodol yn ne Cymru i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Wrth i argyfwng yr hinsawdd waethygu a dod yn fwyfwy amlwg, mae unigolion, cymunedau, llywodraethau, a busnesau hwythau yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r angen i weithredu.

Mae cymhlethdod y pwnc, fodd bynnag, yr iaith dechnegol sy’n datblygu o hyd, ac ymyriadau yn yr hinsawdd sydd heb eu cynllunio’n effeithiol, yn rhwystrau amlwg o ran datblygu strategaethau cynaliadwy a chyfrifol i fynd i’r afael â’r argyfwng.

Mae bod â dealltwriaeth o’r hinsawdd yn golygu meithrin ymwybyddiaeth o’r broblem yr hinsawdd a datblygu gwybodaeth ynghylch dulliau o’i lliniaru drwy addysgu, cyfathrebu a thrin a thrafod agweddau, ymddygiadau ac actifiaeth.

Mae’r prosiect hwn yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd i ddatblygu rhwydwaith o bobl â chanddynt ddealltwriaeth o’r hinsawdd, a hefyd adnoddau addysgol. Yn rhan o’u harchwiliadau, bydd y disgyblion yn datblygu cyllideb garbon ar gyfer eu hysgol, a thrwy gydweithio â Chwmni Buddiannau Cymunedol, Zero Carbon 2030, yn ystyried sut i ddefnyddio cyllidebu carbon.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth ynghylch y rhaglen Arloesedd i Bawb, neu unrhyw un o’r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission