Ewch i’r prif gynnwys

Maganimeiddiadau: Animeiddiadau magnetig

Gwyliwch un o'n fideos o'r prosiect Animeiddiadau Magnetig

Mae'r prosiect peilot hwn yn gydweithrediad gydag ysgol gynradd leol i ddatblygu animeiddiadau cyffrous yn seiliedig ar amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â gwyddoniaeth a pheirianneg.

Cafodd yr animeiddiadau eu creu a'u datblygu gan blant Ysgol Gynradd Mount Stuart ochr yn ochr ag academyddion o Brifysgol Caerdydd, animeiddwyr lleol a phartneriaid diwydiannol.

Ar gyfer y prosiect hwn, cynhaliodd staff a myfyrwyr ymchwil (grŵp ymchwil MAGMA), cynrychiolwyr y diwydiant (Western Power Distribution a Rolls Royce) ac animeiddwyr lleol (Winding Snake) weithdai ysgol newydd i ddysgu sgiliau animeiddio newydd cyffrous i ugain o bobl ifanc, ar gyfer datblygu gyrfa yn y dyfodol, ac hefyd i’w cefnogi i gynhyrchu fideos byr wedi'u hanimeiddio yn seiliedig ar wyddoniaeth deunyddiau magnetig a sut y gallai’r rhain gael eu cymhwyso’n y byd go iawn yn y dyfodol.

Roedd pynciau’r animeiddiadau a ddatblygwyd oedd yn ymwneud â pheirianneg yn cynnwys Cyflwyniad i Magnetau, Moduron a Generaduron, Trafnidiaeth y Dyfodola Rhwydweithiau a Gridiau. Crëwyd yr animeiddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg .

Y bwriad yw ailadrodd y gweithdai hyn yn flynyddol mewn ysgolion cynradd lleol er mwyn ennyn brwdfrydedd a chyffroi'r genhedlaeth nesaf o Beirianwyr ac annog pynciau STEM. Rydym yn mynd ati i ddatblygu ein gweithdai i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i ffurfio rhagor o werthfawrogiad o amrywiaeth o ran timau a chydweithrediadau ym maes Peirianneg.

Mae'r prosiect peilot hwn yn arddangos y datrysiadau newydd ar gyfer y dyfodol, sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, sy'n cael eu hymchwilio a'u datblygu ar hyn o bryd o ran yr argyfwng Ynni a Thrafnidiaeth, a hynny er mwyn annog plant i gydweithio i adeiladu economi werdd ar gyfer y dyfodol.

Datblygwyd Animeiddiadau Magnetig (Maganimeddiadau) yn rhan o gronfa ymgysylltu â'r cyhoedd Arloesedd i Bawb Prifysgol Caerdydd. Mae’n cael ei gefnogi gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF) sy’n deillio o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Ewch i'n blog neu cysylltwch â'r tîm i gael gwybod rhagor:

Dr Phillip Lugg-Widger

Dr Phillip Lugg-Widger

Research Associate

Email
widgerp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)2920 875125

Tîm Ymchwil Deunyddiau a Chymwysiadau Magnetig

https://www.cardiff.ac.uk/research/explore/research-units/magnetic-materials-and-applications-research-group