Ewch i’r prif gynnwys

Codi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch yng Nghaerdydd a Chymru

Gall ymosodiad seiberddiogelwch dargedu ac effeithio ar unrhyw un yn unrhyw le.

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, ac yn enwedig yn ystod y pandemig, pan fydd ein cymdeithas yn dibynnu'n drwm ar dechnoleg ddigidol, mae'n hollbwysig sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r peryglon sy'n gysylltiedig â seiberddiogelwch a thorri preifatrwydd ac yn gwybod sut i'w hosgoi ac ymateb iddyn nhw.

Nod y prosiect hwn, dan arweiniad Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, yw ennyn diddordeb rhagor o bobl ifanc, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ym maes seiberddiogelwch sy'n tyfu'n gyflym drwy gynnig ystod o weithgareddau a digwyddiadau i ysgolion uwchradd a cholegau.

Bydd y prosiect hefyd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau lleol yng Nghaerdydd a Chymru drwy gynnig sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn rhad ac am ddim ar bynciau megis diogelwch ar-lein, rheoleiddio preifatrwydd a hawliau, peirianneg gymdeithasol, diogelwch dros y ffôn, gwe-rwydo a sbam.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Arloesedd i Bawb neu unrhyw un o'r prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi, cysylltwch â ni:

Civic Mission