Ewch i’r prif gynnwys

Presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd yng Nghwm Cynon

A group of people at the Cynon Valley Organic Adventures site

Rydyn ni’n gweithio gydag Anturiaethau Organig Cwm Cynon i wella iechyd a lles pobl drwy eu cysylltu â byd natur.

Menter gymdeithasol a ddyfarnwyd yn Brosiect y Flwyddyn 2021 Loteri Genedlaethol Cymru yw Anturiaethau Organig Cwm Cynon.

Mae’r prosiect hwn yn digwydd yn hen dref lofaol Abercynon yn Rhondda Cynon Taf; un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yn y DU. Mae’r prosiect yn defnyddio’r cysylltiadau presennol rhwng meddygon teulu lleol, cydlynwyr lles ac Anturiaethau Organig Cwm Cynon i greu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â byd natur.

Gan weithio gyda'r gymuned, mae'r bartneriaeth yn datblygu llwybr natur yn Abercynon a fydd yn golygu y gall meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill atgyfeirio aelodau'r gymuned i gymryd rhan mewn gweithgareddau byd natur i wella eu hiechyd a'u lles personol.

Bydd y prosiect hefyd yn darparu tystiolaeth y mae mawr ei hangen i helpu’r gymdeithas i gael gwell dealltwriaeth o'r manteision y gall presgripsiynu gwyrdd eu rhoi i fywydau pobl. Bydd cofnodi profiadau cleifion o'r llwybr natur yn helpu i greu data o'r byd go iawn ynghylch y manteision hyn ac i ddeall sut y gall cysylltu â byd natur hybu iechyd a lles.

Cafodd y prosiect ei gynnwys ar BBC Countryfile ym mis Tachwedd 2022, mewn eitem yn archwilio sut mae cyfranogwyr wedi elwa o dreulio amser ym myd natur.

Caiff y prosiect hwn ei noddi a'i reoli gan y Cyflymydd Arloesedd Clinigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Yn bartner yn y Rhaglen Accelerate | Cyflymu mae’r Cyflymydd Arloesedd Clinigol hefyd yn cefnogi ac yn cyfrannu at y prosiect drwy ei dîm profiadol o weithwyr proffesiynol sydd â chyfoeth o arbenigedd i gyflymu'r gwaith o ddarparu arloesedd sy'n canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r prosiect hefyd yn cael ei cyllid yn rhannol gan Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru CCAUC fel un o'n prosiectau cenhadaeth ddinesig strategol.

Ein hamcanion

Bydd canlyniadau’r prosiect yn cynnwys:

  • Llwybr natur rhyngweithiol, a ddatblygwyd gan y gymuned yng Nghwm Cynon, sy'n gwasanaethu'r gymuned leol i hybu gwell lles a chanlyniadau iechyd hirdymor.
  • Adnodd ar-lein i fesur lles unigolion sy'n defnyddio'r llwybr.
  • Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gofal sylfaenol yn ne Cynon ynghylch manteision posibl presgripsiynu gwyrdd i'r boblogaeth leol.
  • Tystiolaeth y byd go iawn ar sut mae ymwneud â byd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les y gymuned
    Model i ysbrydoli a chefnogi’r gwaith o roi presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd ar waith ledled Cymru.

Ein partneriaid

Ymhlith partneriaid y prosiect hwn mae Anturiaethau Organig Cwm Cynon Cyf, Interlink Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Clwstwr Gofal Sylfaenol De Cynon a Phrifysgol Abertawe.

Cymryd rhan

I gael gwybod sut i gymryd rhan yn y prosiect, cysylltwch ag Anturiaethau Organig Cwm Cynon drwy eu ffonio neu gan ddefnyddio'r ffurflen ar eu gwefan:

Cynon Valley Organic Adventures

cynonvalleyorganicadventures.co.uk/contact

  • Telephone07880837465