Ewch i’r prif gynnwys

Stopio a Chwilio – hyd a lled rhagfarn hiliol yn cael ei chadarnhau yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog

8 March 2022

Welsh Police

Cafodd data newydd am stopio a chwilio gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ei ddatgelu yn ystod sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw yn Senedd Cymru.

Mae'r data ar gyfer 2020/21 yn cadarnhau'r lefelau uchel o anghymesuredd hiliol o ran sut mae’r pedwar heddlu yng Nghymru yn defnyddio pwerau stopio a chwilio. Yn 2020/21, cafodd 8 o bob 1,000 o bobl Gwyn sy'n byw yng Nghymru eu stopio a'u chwilio. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 56 o bob 1,000 o bobl Dduon, 16 o bob 1,000 o bobl Asiaidd, a 28 o bob 1,000 o bobl sy'n nodi eu bod yn dod o gefndir ethnig Cymysg. Mae'r categorïau ethnigrwydd yn seiliedig ar ddull hunan-adnabod.

Roedd y gwahaniaeth yn y gyfradd stopio a chwilio rhwng pobl Wyn a Du ychydig yn ehangach yng Nghymru (8 i 56) nag yn Lloegr (7 i 51) yn 2020/21.

Dr Robert Jones gafodd afael ar y data, a ddatgelwyd gan Rhys ab Owen, Aelod y Senedd dros Ganol De Cymru.

Mae'r canfyddiadau'n atgyfnerthu ymchwil flaenorol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a ddangosodd lefelau uchel o anghymesuredd hiliol o ran carcharu, arestio a dedfrydau o garchar. O ganlyniad i’r ymchwil, galwodd y Ganolfan ar Senedd Cymru i gynnal ymchwiliad i wahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol.

Dywedodd Dr Jones:

"Mae'r data diweddaraf hyn yn ychwanegu at y dystiolaeth rydym eisoes wedi'i datgelu bod pobl nad ydynt yn wyn yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth bod unigolion o gefndiroedd nad ydynt yn wyn yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio gan yr heddlu, eu dedfrydu i garchar a chael cyfnodau hirach yn y carchar, o’u cymharu â phobl wyn yng Nghymru.

"Yn y gorffennol, rydym wedi defnyddio ein hymchwil i alw ar un o bwyllgorau’r Senedd i gynnal ymchwiliad i anghyfiawnder hiliol yn system cyfiawnder troseddol Cymru. Mae'r data diweddaraf hyn yn tanlinellu ymhellach yr angen am ymchwiliad o'r fath ac i Lywodraeth Cymru roi llawer mwy o sylw i wahaniaethu ar sail hil a chyfiawnder troseddol yng Nghymru."

Rhannu’r stori hon