Ewch i’r prif gynnwys

Mae’n bosibl y bydd angen rhagor o gymorth ar aelwydydd wrth i wasgfa costau byw barhau

11 Mawrth 2022

Bydd aelwydydd Cymru £600 y flwyddyn yn waeth eu byd ar gyfartaledd yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni a chyfraddau threthi, hyd yn oed ar ôl i fesurau i gynorthwyo â chostau byw gael eu rhoi ar waith, yn ôl dadansoddiad newydd.

Mae'r papur briffio, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dangos mai'r cartrefi tlotaf fydd yn cael eu taro galetaf a bydd codiadau mewn prisiau yn cyfyngu ymhellach ar eu gallu i brynu nwyddau a gwasanaethau hanfodol.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn dyrannu bron i £340 miliwn tuag at fesurau costau byw – llawer mwy hael na rhannau eraill o’r DU. Ond mae ymchwilwyr yn rhagweld y bydd angen cymorth pellach hwyrach yn ystod y misoedd nesaf.

Dyma a ddywedodd awdur yr adroddiad, Cian Siôn, sy’n rhan o Dîm Dadansoddi Cyllid Cymru: “Er gwaetha’r ymyriadau gan lywodraethau’r DU a Chymru, mae cyfuniad o bwysau chwyddiant, cynnydd mewn cyfraddau treth a thwf araf mewn incwm yn golygu bod aelwydydd yn y DU yn wynebu’r wasgfa fwyaf o ran safonau byw ers degawdau.

“Mae’r datblygiadau pryderus yn Wcráin wedi cynyddu’r tebygolrwydd y bydd prisiau ynni’n parhau’n uchel. Er y bydd y mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn lleddfu’r effaith ar aelwydydd i ryw raddau, ac mae’r cymorth ychwanegol wedi’i dargedu a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru wedi helpu i ffrwyno’r effaith ar y rheiny ar yr incwm isaf, bydd aelwydydd o bob incwm yn dal i fod yn waeth eu byd y gwanwyn hwn.”

Mae llywodraethau’r DU a Chymru wedi cyhoeddi mesurau i helpu i liniaru effaith prisiau cynyddol – yn enwedig cost gynyddol ynni – ar aelwydydd.

Mae’r rhain yn cynnwys Cynllun Gostyngiad Bil Ynni Llywodraeth y DU yn ogystal ag ystod o gynlluniau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ad-daliadau’r dreth gyngor, cymorth tanwydd gaeaf a chronfeydd dewisol i’r rheiny sy’n wynebu caledi ariannol.

Ond gan ddefnyddio model buddion treth*, mae ymchwilwyr wedi cyfrifo y byddan nhw, hyd yn oed ar ôl ystyried y cymorth hwn ar gyfer aelwydydd,£600 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu colled o fis Ebrill ymlaen. Nid yw'r dadansoddiad hwn yn ystyried cost gyffredinol nwyddau a gwasanaethau - sydd hefyd ar fin cynyddu - yn ogystal â chynnydd pellach i'r cap ar brisiau ynni yr hydref nesaf.

Ym mis Ionawr, cyrhaeddodd cyfradd Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr (CPI) 12 mis 5.5%, i fyny o 5.4% yn ystod y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021. Mae Banc Lloegr bellach yn disgwyl i gyfradd y CPI gyrraedd ei huchafbwynt uwchlaw 7% yng ngwanwyn 2022, sef ei lefel uchaf ers tri degawd.

Ychwanegodd Cian Siôn: “Mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn heriol a bydd y pwysau hyn yn taro’r rheiny ar yr incwm tlotaf fwyaf. Gwyddom, hyd yn oed cyn y codiadau diweddar mewn prisiau, fod aelwydydd â’r incymau tlotaf yn gwario mwy na dwywaith cymaint ar dai a biliau fel cyfran o’u hincwm gwario nag aelwydydd ar yr incymau uchaf.

“Yn ogystal â hyn, mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch pa mor uchel fydd y gyfradd chwyddiant ar ei hanterth ac i ba raddau y bydd y cynnydd mewn prisiau yn effeithio ar bob agwedd o’n bywydau. Os bydd prisiau yn parhau’n uchel am gyfnod hir heb dwf real mewn incwm, efallai nad dyma’r tro olaf y bydd gofyn i lywodraethau ymyrryd i helpu gyda chostau byw.”

Rhannu’r stori hon