Ewch i’r prif gynnwys

Mae Bil Cymreig newydd yn gwanhau rheolaeth y Senedd dros drethi, dadleua Athro

18 January 2022

Bydd deddf newydd yn rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru newid deddfwriaeth ar drethi a bydd llai o graffu gan y Senedd, mae academydd blaenllaw wedi rhybuddio.

Mewn erthygl a gyhoeddwyd mewn blogiad estynedig gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, mae’r Athro Emyr Lewis o Brifysgol Aberystwyth yn dadlau bod y Bil Deddfau Trethi Cymru (Pŵer i Addasu) “yn codi rhai cwestiynau sylfaenol am rym cyfansoddiadol, rheolaeth y gyfraith a democratiaeth yng Nghymru”.

Bydd y Bil yn rhoi pwerau ‘Henry VIII’ i Weinidogion Cymru addasu’r tair Deddf Trethi Cymru gyfredol sy’n cwmpasu’r fframwaith casglu trethi, y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT). Mae'r Athro Lewis yn esbonio bod y Llywodraeth yn wreiddiol wedi cynnig pŵer ehangach o lawer a fyddai’n newid y gyfraith.  Yn y Bil mae cwmpas y pŵer wedi'i gyfyngu.  Ar yr un pryd mae’r Bil wedi cael gwared ar yr hyn a elwid yn ‘glo’r Senedd’, sef na ellid ond defnyddio’r pŵer i newid y Deddfau yn sgîl caniatâd blaenorol Senedd Cymru.

Mae’r Bil yn pennu pedair sefyllfa gyfyngedig pan fyddai modd defnyddio pwerau Harri’r VIII. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • sicrhau nad yw LTT neu LDT yn cael eu gosod gan y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol;
  • diogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â LTT neu LDT;
  • ymateb i newid mewn treth ragflaenol sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir i Gronfa Gyfunol Cymru yn unol ag adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
  • ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad unrhyw un o Ddeddfau Trethi Cymru neu’r rheoliadau a wneir yn unol ag unrhyw un o’r Deddfau hynny.

Ond mae’r Athro Lewis yn dadlau, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau hynny, y dylai fod caniatâd blaenorol y Senedd yn ofynnol i ddefnyddio’r pŵer fel mater o egwyddor gyfansoddiadol yn y rhan fwyaf o’r achosion os nad pob un. Mae’n nodi ymhellach fod y pŵer eang yn y Bil sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ag effaith ôl-weithredol yn creu heriau i sicrwydd cyfreithiol a rheolaeth y gyfraith.

Daw’r erthygl i’r casgliad bod yn rhaid i’r Bil ‘gael y cydbwysedd yn iawn’ rhwng y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa, ac mae’n galw am gyflwyno mesurau diogelu er mwyn adfer uchafiaeth y Senedd a gwarchod rhag ehangu pŵer y weithrediaeth yn anfwriadol. Gallai’r mesurau diogelu hynny gynnwys ailgyflwyno ‘clo’r Senedd’ ym mhob achos neu’r rhan fwyaf o achosion, drafftio culach a mwy cyfyngedig o ddau o’r dibenion y mae’r llywodraeth yn ceisio pwerau ar eu cyfer, a chyfyngiadau sy’n gyfreithiol rwymol ar allu’r llywodraeth i ddeddfu’n ôl-weithredol.

Nododd yr Athro Emyr Lewis:

“Byddai’r Bil yn rhoi pwerau Harri’r VIII - fel y’u gelwir - pellgyrhaeddol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pedwar diben a nodwyd. Mae dau o’r dibenion hynny wedi’u diffinio’n agos ac mae llai o anhawster yn perthyn iddynt, sef sicrhau bod cyfraith Cymru yn unol â’r gyfraith ryngwladol a galluogi trethi Cymru i gyd-fynd â threthi’r DU er mwyn sicrhau nad effeithir ar grant bloc Cymru gan Drysorlys y DU mewn ffordd artiffisial. Mae’r broblem gyda’r ddau ddiben arall yn ymwneud yn bennaf ag ehangder eu drafftio, a allai gael yr effaith o roi gormod o bŵer i’r weithrediaeth newid cyfraith trethi heb graffu ymlaen llaw gan y Senedd.

“Dylai fod pryder penodol ynghylch y diben gwrth-osgoi y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pŵer ar ei gyfer i wneud rheoliadau ôl-weithredol. Mae cwmpas y diben fel y’i drafftiwyd yn eang iawn ac mae’n bosibl y bydd yn tresmasu ar diriogaeth y gellir ei hystyried yn gywirach yn eiddo’r Senedd yn hytrach nag eiddo’r Llywodraeth.

“Mae ehangder y dibenion fel y’u drafftiwyd yn awgrymu eu bod yn cael eu ceisio hwyrach yn bwerau ‘rhag ofn’, sy’n mynd yn groes i’r egwyddor ymddangosiadol mai cynrychiolwyr y bobl yn hytrach na rhai’r Goron sy’n penderfynu a ddylid trethu pobl ac i ba raddau.

“Fel yr amlinellwyd yn llawnach yn fy erthygl, gellid mynd i’r afael â’r pryderon hyn drwy dynhau’r gwaith o ddrafftio’r Bil a thrwy barchu uchafiaeth y Senedd dros ddeddfwriaeth trethi datganoledig.”

Rhannu’r stori hon