Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi digwyddiad etholiad Gogledd Iwerddon

7 Ebrill 2022

Stormont Belfast parliament

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi gweminar ar etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Bydd y digwyddiad ar-lein, a gynhelir ddydd Mawrth 26 Ebrill am 16:00, yn asesu cyflwr etholiadol a goblygiadau gwleidyddol yr hyn a allai fod yn etholiad mwyaf arwyddocaol Gogledd Iwerddon ers Cytundeb Belfast/Dydd Gwener y Groglith.

Gan fod yr arolygon barn yn pwysleisio’r posibilrwydd y bydd cryn newid gwleidyddol yn Stormont, bydd panel o arbenigwyr yn y gweminar yn asesu’r etholiad ac yn rhoi eu barn ar yr hyn a allai ddigwydd nesaf.

Bydd y goblygiadau ar gyfer Iwerddon unedig, undeb y DG, a’r newidiadau o fewn cenedlaetholdeb ac unoliaeth yn cael eu dadansoddi a’u trafod gan Gyfarwyddwr Dros Dro’r Ganolfan, Dan Wincott, Joanne McEvoy (Prifysgol Aberdeen), Colin Harvey a Katy Hayward (y ddau o Brifysgol y Frenhines Belfast) , sy'n arbenigwyr o bwys ar wleidyddiaeth y DG ac Iwerddon.

Yn dilyn y digwyddiad cyn yr etholiad bydd achlysur ar ôl yr etholiad a gynhelir gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, a chaiff y manylion eu cyhoeddi’n fuan.

Mae cofrestru ar gyfer y gweminar hwn cyn yr etholiad yn agored i academyddion ac ymchwilwyr ond hefyd i bawb sydd â diddordeb yn yr etholiad hollbwysig hwn, ac mae ar gael yn y ddolen hon.

Rhannu’r stori hon