Astudio yn y Gymraeg
Dewch i gael opsiynau astudio hyblyg, ymuno â'n cymuned gefnogol a dechrau eich gyrfa ym mhrifddinas ffyniannus Cymru.
O blith prifysgolion Grŵp Russell, ni yw'r unig un sydd mewn prifddinas ddwyieithog. Dyma'r ddinas berffaith i astudio'n Gymraeg.
Cefnogaeth i astudio
Manteisiwch ar ysgoloriaethau, grwpiau seminar llai a thiwtoriaid sy'n siarad Cymraeg. Gallwch wella eich sgiliau iaith a sefyll eich arholiadau yn Gymraeg.
Byddwch wrth galon Cymru fodern
Beth am brofi'r byd gwaith yn y Senedd, Llywodraeth Cymru, BBC, ITV? Mae'r sefydlaidau cenedlaethol hyn, a llu o rai eraill, ar garreg ein drws.
Ymunwch â'n cymuned
Mae Academi Gymraeg y brifysgol a Changen Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dwyn ynghyd ein holl weithgarwch Cymraeg mewn prifysgol gynhwysol, ddwyieithog a rhyngwladol.
Pam astudio'n Gymraeg?
Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am staff sydd â sgiliau dwyieithog i gynnig gwasanaethau i'w cwsmeriaid. Mae 82% o fusnesau yng Nghymru yn dweud bod defnyddio'r Gymraeg yn werthfawr.
Mae astudio'n ddwyieithog yn eich helpu i gael dealltwriaeth lawnach o'ch pwnc. Bydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu gan gynnig:
- mwy o ddewis
- golwg wahanol - a Chymreig - ar eich pwnc
- profiadau amrywiol ac unigryw o fewn a thu allan i’r dosbarth dysgu.
Byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac i gyfrannu’n ddwyieithog at fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Cewch fod yn ddinasyddion dwyieithog sy'n rhan o fywyd Cymraeg Caerdydd. Bydd y profiad yn eich cysylltu â chyfoedion dwyieithog ac amlieithog yn y ddinas ac ar draws y byd.
Cefnogaeth i astudio'n Gymraeg
Wrth astudio yn Gymraeg, byddwch yn rhan o gymuned glòs gydag eraill ar eich cwrs.
Hyd yn oed os na fedrwch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn eich pwnc, mae croeso i bawb ymuno â Changen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Fel myfyriwr sy'n aelod o Gangen Caedydd o'r Coleg Cymraeg, byddwch yn clywed am gyfleoedd sydd ar gael i chi. Yn eu plith, mae ysgoloriaethau o hyd at £3,000, cyfleoedd i fod yn llysgennad y Coleg Cymraeg, astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith a dod o hyd i brofiad gwaith.
Trwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol cewch hefyd fynediad at holl adnoddau dysgu Cymraeg Y Porth.
Profiad gwaith
Mae Caerdydd yn gartref i lawer o sefydliadau cenedlaethol, dwyieithog. Gallwn eich cysylltu gyda chyflogwyr a phrofiadau gwaith sydd angen eich sgiliau Cymraeg.
Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd.
Tiwtoriaid personol Cymraeg
Medrwn gynnig tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg i chi ar ddechrau eich cyfnod yn astudio gyda ni, hyd yn oed os na fyddwch yn astudio'n Gymraeg. Byddwch yn gallu rhoi gwybod i'ch tiwtor personol os ydych yn dymuno cyflwyno eich aseiniadau (ysgrifenedig neu lafar) yn Gymraeg.
Bydd tiwtor personol yn:
- eich gweld yn rheolaidd i drafod eich astudiaethau
- monitro cynnydd a darparu adborth
- cynnig arweiniad proffesiynol i chi
- sicrhau eich bod erbyn cefnogaeth i edrych ar ôl eich lles corfforol a meddyliol

Yr hyn wnes i fwynhau fwyaf am fy astudiaethau, heb os ac oni bai, oedd y gallu i astudio rhywfaint trwy gyfrwng y Gymraeg. Mwynheais wneud y mwyaf o bob cyfle a gynigiwyd i mi i ymhel â, ac astudio, drwy’r Gymraeg.
Gwella'ch sgiliau iaith
Hoffech wella eich hyder i ddefnyddio'r Gymraeg ym myd addysg, neu fyd busnes? Hoffech wella eich gramadeg Cymraeg? Gallwn eich cefnogi i astudio ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ydych chi am fod yn ieithydd? Cyfunwch ech sgiliau Cymraeg gyda chyfle i ddysgu ieithoedd eraill yn y brifysgol. Bydd rhai cyrsiau yn roi'r cyfle i chi dreulio blwyddyn dramor.
Hyblygrwydd i astudio
Medrwch astudio rhai modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Gan ddibynnu ar ei pwnc, gallwch gyfuno darlithoedd Saesneg a thiwtorialau Cymraeg, neu ddewis gwneud y cyfan yn Gymraeg. Chi piau'r dewis.
Medrwch sefyll eich arholiadau yn Gymraeg, p'un ai ydych wedi bod yn astudio'ch cwrs yn Gymraeg neu beidio. manteisiwch hefyd ar fod yn rhan o grwpiau seminar llai gyda siaradwyr Cymraeg eraill.

Dwi’n mwynhau astudio yn y Gymraeg oherwydd mae’n rhoi cyfle i mi ymarfer a gwella fy hyder i sicrhau nad ydw i’n colli defnydd o’r iaith. Mae sesiynau tiwtorial ar gyfer y grwp Gymraeg yn rhoi mwy o gyfleoedd i ofyn cwestiynau a chael cymorth i weithio trwy daflenni problemau.
Ysgoloriaethau
Os byddwch yn astudio eich gradd yn rhannol neu'n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn gallu cael ysgoloriaethau israddedig:
Ysgoloriaeth | Dyfarniad | % o astudio'n Gymraeg sydd ei angen |
---|---|---|
Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol | £1000 y flwyddyn | Dros 66% |
Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol | £500 y flwyddyn | Dros 33% |
Ysgoloriaeth Prifysgol Caerdydd | Hyd at £500 y flwyddyn | Dros 22% |
Bydd ysgoloriaeth newydd Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn cael ei lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd mwy o wybodaeth amdani ar gael yn 2023.