Ewch i’r prif gynnwys

Addysgu a dysgu

Woman student standing in the library reading a book

Fel myfyriwr yma, byddwch chi’n elwa ar brofiad dysgu o safon uchel a chyson sy'n cynnwys defnyddio technoleg bwrpasol i'ch helpu i gyflawni'ch potensial.

Dysgu cyfunol

Rydyn ni’n cynnig addysgu wyneb yn wyneb a'r dulliau dysgu digidol diweddaraf i roi'r profiad prifysgol gorau ichi.

Bydd eich dysgu yn brofiad cymdeithasol, bydd yn digwydd mewn grwpiau astudio ac wyneb yn wyneb gyda darlithwyr. Ers y pandemig, rydyn ni hefyd wedi datblygu offer a gweithgareddau ar-lein rydyn ni wedi eu cyfuno â dulliau addysgu traddodiadol i greu diwylliant astudio sy'n gweithio i bawb.

Mae safon yr addysgu wedi bod yn rhagorol ar-lein. Mae athrawon yn y brifysgol wedi datblygu llawer o diwtorialau hunan-astudio ac mae’r rhain ar gael i fyfyrwyr eu cwblhau wrth eu pwysau eu hunain. Yn fy marn i, mae’r rhain wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac yn rhwydd iawn cael gafael ynddyn nhw
Uzair, myfyriwr Meddygaeth yn y drydedd flwyddyn

Gwella eich profiad

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddysgu cyfunol a byddwn ni’n sicrhau bod gennych yr offer, y rhaglenni, a'r mynediad i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch chi.

Bydd eich addysgu yn cael ei gyflwyno mewn nifer o ffyrdd, megis:

  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) lle gallwch chi gyrchu’r holl adnoddau ar gyfer eich cwrs, a gallwch chi gyflwyno asesiadau a gwaith cwrs
  • darlithoedd a seminarau, fydd yn digwydd naill ai wyneb yn wyneb, drwy fideo-gynadledda neu gyfuniad o'r ddau
  • fideo ar alw, ar gyfer rhai recordio rhai darlithoedd
  • cydweithio ar-lein, gan ddefnyddio offer megis Teams, Zoom, OneDrive neu fyrddau trafod
  • adnoddau digidol, megis e-lyfrau, cyfnodolion ar-lein, erthyglau papur newydd, rhaglenni teledu

Manteision dysgu cyfunol

Mae ein dull o ddysgu cyfunol yn eich annog i ddatblygu eich grwpiau dysgu eich hun a rhannu adnoddau. Mae hefyd yn golygu y gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar y sesiynau wyneb yn wyneb ar ôl paratoi’r deunyddiau digidol ymlaen llaw. Bydd defnyddio'r offer hyn yn gwella'ch rhagolygon cyflogaeth, gan eich paratoi ar gyfer y byd digidol.

Gall dysgu cyfunol eich grymuso chi. Mae adnoddau ar-lein yn hyblyg ac yn hygyrch i fyfyrwyr, felly gallwch chi ddysgu wrth eich pwysau eich hun a thrafod gyda phobl eraill. Mae ein myfyrwyr wedi croesawu’r offer a'r adnoddau ar-lein rydyn ni wedi'u rhoi ar waith a gall ein staff gynnig cymorth i unrhyw un y mae angen hyn arno.

Mantais dysgu cyfunol yw eich bod yn gallu bod yn fwy hyblyg gyda'ch trefniadau arferol. Mae hyn yn golygu bod gennych chi hefyd fwy o amser i ehangu eich dysgu. Gallwch chi gymryd dosbarth iaith ychwanegol neu gallwch chi hefyd wneud cyrsiau ar-lein allanol a fydd yn rhoi hwb i'ch CV a’ch manylion personol. Yn ogystal â hyn, gallwch chi hefyd ymgymryd â swydd ran-amser y gallwch chi ei gwneud heb amharu ar eich amserlen ddysgu.
Ayushi, myfyrwraig Newyddiaduraeth yn y drydedd flwyddyn

Cymorth o ran sgiliau astudio

Mae gennym dîm sy’n dylunio eich profiadau dysgu digidol, gan sicrhau eu bod yn rhyngweithiol, yn gynhwysol ac yn ddiddorol.

Rydyn ni hefyd wedi creu canllawiau i’ch helpu i baratoi’n llawn ar gyfer eich addysgu, ac i ddatrys pryderon posibl sydd gennych chi am sut beth fydd eich gwersi.

Er mwyn gofalu y bydd pawb yn cael profiad dysgu digidol cadarnhaol, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i werthuso a gwella ein hoffer digidol, ein hadnoddau a'n dulliau addysgu ar sail barhaus.