Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd interniaeth ar y campws

A chithau’n fyfyriwr israddedig, cewch gyfle i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith cyflogedig dros yr haf yn amgylchedd ymchwil, dysgu ac addysgu’r Brifysgol.

Dim ond myfyrwyr israddedig cofrestredig Prifysgol Caerdydd al gymryd rhan yn y Cynllun Interniaeth ar y Campws.

A photo of the 2018 summer placemetn poster exhibition

Mae'r Cynllun Interniaethau ar y Campws yn cynnig profiad gwaith i chi, a delir fesul awr, am hyd at wyth wythnos - i gymryd rhan mewn lleoliad haf yn unrhyw un o'n Hysgolion Academaidd, gan weithio dan oruchwyliaeth ar brosiectau ymchwil neu ddysgu ac addysgu.

Mae ein prosiectau yn cynnig cyfleoedd unigryw i chi gael blas ar brosiectau byw, gwella’ch sgiliau academaidd a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch ymchwilio ymhellach ar lefel ôl-raddedig.

Yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi weithio ar brosiectau diddorol a phwysig, bydd hefyd o fudd i chi drwy:

  • gwella eich CV gyda phrofiad amlwg
  • creu allbynnau y gellir eu rhannu â darpar gyflogwyr
  • magu eich hyder drwy weithio gydag eraill
  • datblygu sgiliau cyflogadwyedd (megis gweithio mewn tîm, blaenoriaethu, rheoli llwyth gwaith, gweithio'n annibynnol yn ôl yr angen)
  • pontio'r bwlch rhwng y brifysgol a byd gwaith
  • eich helpu i ddeall sut mae'r Brifysgol yn gweithredu o safbwynt mewnol.

Yn rhan o'r Rhaglen, byddwch chi hefyd yn cydweithio â myfyrwyr interniaeth eraill mewn cynhadledd a fydd yn arddangos posteri am eich prosiectau, gan rannu profiadau a dangos eich canfyddiadau ymchwil i gynulleidfa'r Brifysgol.

Rheolir y Rhaglen gan Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd ac erbyn hyn fe'i hystyrir yn un o'r cynlluniau interniaethau israddedig mwyaf yn y DU. Mae bron 1200 o fyfyrwyr wedi manteisio ar leoliadau ers 2008, gan weithio ar brosiectau mor amrywiol â gwaith archifol hanesyddol, chwilio am blanedau newydd ac ymchwil i ganser.

Rhagor o wybodaeth

Academi Dysgu ac Addysgu Interniaeth Ar y Campws