Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth Betty Campbell - Yr Academi Gymraeg

Mae Ysgoloriaeth Betty Campbell yn cynnig hyd at £1,000 i fyfyrwyr cymwys sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Statue of Betty Campbell

Mae ceisiadau am ysgoloriaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24 bellach ar gau. Bydd cylch ceisiadau 2024/25 yn agor ym mis Hydref 2024 a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda'r ffurflen gais a'r dyddiadau cau diwygiedig.

Mae’r ysgoloriaeth yn agored i fyfyrwyr sy’n astudio 20 credyd neu ragor drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn annog unigolion a all wynebu rhwystrau neu ansicrwydd o ran astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol.

Ein nod oedd talu teyrnged i unigolyn anhygoel, sef Betty Campbell MBE wrth enwi’r ysgoloriaeth hon. Roedd cynwysoldeb yn gynhenid ​​i’w holl waith ym myd addysg a chysegrodd ei bywyd i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb.

Ein nod yw sicrhau bod ei gwerthoedd a'i brwdfrydedd dros Gymru, i'n hanes a’n diwylliant yn rhan o stori fyd-eang Caerdydd yn ysbrydoliaeth i’n gwaith yn Yr Academi Gymraeg.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth, mae'n rhaid i fyfyrwyr:

  • fod yn gymwys i dderbyn cyllid myfyrwyr y DU ar gyfer costau byw (fel y'i diffinnir yn y rheoliadau cymorth cyllid i fyfyrwyr)
  • fod wedi ymrestru ar gwrs israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd
  • ddilyn 20+ o gredydau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • lenwi'r ffurflen gais erbyn y dyddiadau cau gofynnol
  • ddilyn y canllawiau isod a chytuno i'r telerau ac amodau

Gall myfyrwyr wneud cais am yr ysgoloriaeth mewn unrhyw flwyddyn o astudiaeth israddedig. Mae modd gwneud cais am yr ysgoloriaeth cyn dewis modiwlau os ydyn nhw'n gwybod bod eu cwrs yn cynnig modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cyrsiau y gallwch eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae croeso i bob myfyriwr wneud cais ac rydym yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr sydd o'r cefndiroedd isod:

  • Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  • incwm isel
  • cyntaf yn y teulu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl

Bydd y Brifysgol yn dyfarnu hyd at wyth ysgoloriaeth lawn (3 blynedd) bob blwyddyn.

Bydd dyfarniadau hyd at uchafswm o £1,000 y flwyddyn:

  • £500 am 20 credyd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
  • £1,000 am 40 credyd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Bydd y trefniadau talu yn cael eu nodi wrth gyflwyno'r dyfarniadau, ond byddant yn cael eu talu ar ôl i fodiwlau'r myfyriwr gael eu cadarnhau. Bydd angen gwneud cais newydd bob blwyddyn y byddant yn gymwys.

Yn fwy na dim, rydym am i fyfyrwyr fanteisio i’r eithaf ar eu hastudiaethau, a mwynhau bod yn rhan o’r gymuned Gymraeg ei hiaith a’r gymuned ehangach o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rydym yn annog pob myfyriwr i gymryd rhan mewn cyfleoedd allgyrsiol i wella'r profiad dysgu a’u paratoi ar gyfer bywyd ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau.

Bydd myfyrwyr sy’n derbyn yr ysgoloriaeth hon yn cael cymorth i edrych ar gyfleoedd i gyfrannu at waith yr Academi Gymraeg, neu ymgysylltu â rolau Llysgenhadon Myfyrwyr Cymraeg eraill.

Mae'n rhaid i fyfyrwyr gwblhau modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg i fod yn gymwys ar gyfer cyllid ysgoloriaeth yn y flwyddyn academaidd ganlynol.

Bydd myfyrwyr sy’n derbyn yr ysgoloriaeth yn cael cymorth i edrych ar gyfleoedd i gyfrannu at waith yr Academi Gymraeg, neu ymgysylltu â rolau Llysgenhadon Myfyrwyr Cymraeg eraill.

Er mwyn i fyfyrwyr gael eu hystyried ar gyfer yr ysgoloriaeth, mae'n rhaid  cynnwys datganiad ysgrifenedig hyd at 500 gair yn ymateb i ddau neu fwy o'r cwestiynau canlynol. Bydd angen cynnwys manylion ar sut yr ydych yn cyd-fynd ag un neu fwy o'r meini prawf cymhwysedd yn y datganiad:

  • Beth mae'r Gymraeg yn ei olygu i chi?
  • Pam mae hi’n bwysig i chi fod yn rhan o’r gymuned Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd?
  • Sut ydych chi'n meddwl y bydd bod yn rhan o'r gymuned Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyfoethogi eich profiad yn y brifysgol?
  • Beth yw’r brif her i chi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a sut allech chi oresgyn yr her honno?
  • Pam ei bod yn bwysig eich bod yn cwblhau rhan o’ch astudiaethau neu’r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg?
I dderbyn ysgoloriaeth, mae'n rhaid i fyfyrwyr dderbyn y telerau ac amodau:
  1. Mae'r rhaid i'r myfyriwr fod wedi ymrestru'n llawn ac yn bresennol cyn y gellir talu
  2. Efallai y bydd yn rhaid i holl unigolion llwyddiannus yr ysgoloriaeth gytuno i'w henwau (yn ogystal â llun a phroffil) gael eu cynnwys yn rhan o ddeunydd cyhoeddusrwydd y Brifysgol
  3. Caiff ysgoloriaethau eu tynnu'n ôl o dan yr amgylchiadau canlynol:
    1. mae myfyriwr yn gadael y brifysgol
    2. mae myfyriwr yn trosglwyddo o gwrs cymwys, neu ddim yn dilyn nifer ofynnol y credydau yn Gymraeg mwyach
  4. Byddwn yn gohirio talu ysgoloriaethau pan fydd unrhyw darfu ar addysg
  5. Bydd unrhyw fyfyriwr sy'n gohirio ei gais tan 2024-25 yn cael ei ystyried yn unol ag unrhyw gynlluniau sydd ar gael ar yr adeg honno
  6. Panel yr Academi Gymraeg fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch cynnig neu ganslo ysgoloriaethau

Cysylltwch â ni

Bydd yr holl gyfathrebu ynghylch yr ysgoloriaeth trwy gyfeiriad ebost prifysgol y myfyriwr.

Dylech anfon unrhyw ymholiadau, gwestiynau neu apeliadau sy'n ymwneud â'r cynllun at Yr Academi Gymraeg.