Ewch i’r prif gynnwys

Modiwl Dinesydd Caerdydd

Welsh dragon projected on Main Building

Nod y modiwl 5 credyd anffurfiol yma yw cynnig amgylchedd dysgu diddorol a rhyngweithiol i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd â sgiliau Cymraeg.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i archwilio a dysgu yn y modiwl byr yma am ddinas Caerdydd a'r Gymraeg yng nghyd-destun y gymuned leol, y brifysgol, a'r amlddiwylliannedd bywiog y mae ein prifddinas yn ei gynnig.

Bydd Dinesydd Caerdydd yn cynnig cyfle gwych i:

  • gymdeithasu a chydweithio â myfyrwyr eraill drwy weithgareddau dysgu mewn grŵp
  • gysylltu a rhyngweithio â chyd-fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o bob rhan o'r brifysgol
  • defnyddio a gwella sgiliau Cymraeg i'w potensial llawn

Pontio i fywyd prifysgol a dinas

Nod y cwrs yw helpu myfyrwyr i addasu'n llwyddiannus i fywyd prifysgol a dinas yn ddi-dor yn ystod eu semester cyntaf. Datblygwyd y cwrs hwn gyda mewnbwn gan fyfyrwyr presennol i sicrhau bod y profiad yn ffres, yn ddiddorol ac yn ddeniadol.

Mae modiwl Dinesydd Caerdydd yn ategu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg benodol ar gyfer cwrs sydd ar gael mewn deuddeg disgyblaeth wahanol.

Ymrestru

Bydd myfyrwyr israddedig sy'n nodi eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn cael eu ymrestru'n awtomatig ar y cwrs.

Bydd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir hefyd yn gallu cofrestru ar y cwrs, trwy anfon ebost at academi@caerdydd.ac.uk.

Bydd tri sesiwn yn cael eu cynnal ar gyfer myfyrwyr yn ystod yr wythnosau cyntaf o'r semester. Yn y sesiynau hyn, bydd myfyrwyr yn clywed gan siaradwyr gwadd diddorol ac amrywiol o Gaerdydd ac yn dysgu ac archwilio'r ddinas trwy daith gerdded wedi'i churadu'n arbennig.

Gan weithio mewn grwpiau bach, bydd myfyrwyr yn dewis prosiect byr i gydweithio arno, gan feithrin gwaith tîm a sgiliau dinasyddiaeth werthfawr i wella eu CV, waeth beth fo'u maes astudio.

Ysgoloriaeth Academi Gymraeg Betty Campbell

Nod yr ysgoloriaeth hon yw talu teyrnged i unigolyn nodedig yr oedd cynwysoldeb yn gynhenid i'w holl waith ym myd addysg ac a gysegrodd ei bywyd i ymladd anghydraddoldeb.

Ein nod yw sicrhau bod ei gwerthoedd, a'i brwdfrydedd dros Gymru, ei hanes a'i diwylliant fel rhan o stori fyd-eang Caerdydd yn ysbrydoliaeth i'n gwaith yn Yr Academi Gymraeg.

Mae'r ysgoloriaeth yn agored i bob myfyriwr sy'n astudio 20 credyd neu fwy drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn annog myfyrwyr a allai wynebu rhwystrau neu ansicrwydd mewn perthynas ag astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon sy'n cynnig hyd at £1,000 i fyfyrwyr cymwys, ewch i dudalen Ysgoloriaeth Academi Gymraeg Betty Cambell am fwy o wybodaeth ar sut i wneud cais.

Plant yn sefyll o flaen murlun
Roedd Betty Campbell yn adnabyddus am fod yn weithredwr cymunedol a phennaeth ysgol du cyntaf Cymru.

Cysylltu

Sylwch y bydd yr holl gyfathrebu ynghylch y modiwl a'r ysgoloriaeth trwy gyfeiriad e-bost Prifysgol Caerdydd y myfyrwyr.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau neu apeliadau ynglŷn â'r cynllun at academi@caerdydd.ac.uk.