Cyfleoedd byd-eang
Gallwch weithio, astudio neu wirfoddoli dramor fel rhan o’ch gradd i gael profiad a fydd yn newid eich bywyd. Cewch ddarganfod diwylliannau eraill, dysgu iaith newydd a gwneud ffrindiau am oes.
Dewch o hyd i’ch antur nesaf
Ni waeth beth yw eich dewis gradd, gallwch fanteisio ar dreulio amser dramor yn ystod eich cyfnod astudio gyda ni.
Mae gennym gysylltiadau â mwy na 300 o sefydliadau ac aeth ein myfyrwyr i ymweld â mwy na 50 o wledydd yn ystod 2018 - 2019 yn Ewrop a ledled y byd. P’un a ydych yn dewis gweithio, gwirfoddoli neu astudio dramor, byddwch yn creu atgofion bythgofiadwy.
Bu’n rhaid i ni wneud rhai newidiadau i’n rhaglenni lleoliadau ac astudiaethau tramor oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Ond, rydym wed gweithio gyda sefydliadau partner i roi trefniadau newydd ar waith gan ddilyn cyngor y llywodraeth o hyd.

Mae blwyddyn dramor yn ystod eich astudiaethau yn gyfle unwaith mewn oes ac yn brofiad gwerth chweil go iawn! Cewch gymorth ac arweiniad gan y Brifysgol ac mae cyllid ar gael. Cewch y cyfle i deithio ac i weld diwylliannau newydd, ac mae’r cyfan yn rhan o’ch gradd. Gallaf ddweud yn onest mai dyma amser gorau fy mywyd.

Y penderfyniad gorau a blwyddyn orau fy mywyd. Rhai o’r profiadau a’r atgofion mwyaf anhygoel, a chwrddais i â rhai o’r bobl bwysicaf i mi drwy’r rhaglen gyfnewid. Es i rannau hardd o Ganada, rhoi cynnig ar bethau newydd a mwynhau’r profiad cyfan mas draw.
Heriwch eich hun
Mae’n gyfle gwych i brofi diwylliannau a safbwyntiau eraill, gan wneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau bythgofiadwy. Gan ddibynnu ar eich lleoliad, efallai y cewch y cyfle hefyd i ddysgu iaith newydd, a fydd yn eich cyfoethogi’n bersonol am weddill eich oes ac yn rhoi hwb i’ch rhagolygon o ran gyrfa.

Cefais gipolwg ar sut mae pobl yn byw mewn hinsoddau eithafol, a chwrdd â rhai pobl wych. Datblygais fel unigolyn a chael mwy o annibyniaeth.

Cewch fwrsariaeth hael
Nid yw lleoliad rhyngwladol o reidrwydd yn gorfod bod yn fwy drud nag astudio yng Nghaerdydd. Mae ystod eang o ffynonellau ariannu er mwyn ei wneud yn haws i fyfyrwyr israddedig gwblhau lleoliadau rhyngwladol.
Y fwrsariaeth arferol sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n gymwys am Cyfleoedd Byd-eang ar raglen dros yr haf i weithio, astudio neu wirfoddoli yw £200 i £2000, gan ddibynnu ar y math o leoliad, ei hyd a’r lleoliad.
Ceir hefyd fwrsariaethau i ymgeiswyr israddedig llwyddiannus sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid a tymor byr.
Mae myfyrwyr yn gymwys o hyd ar gyfer benthyciadau cynhaliaeth, grantiau a gostyngiadau o ran ffioedd dysgu. Mae cyllid pellach ar gael i fyfyrwyr o gefndiroedd ehangu cyfranogiad ac ar gyfer myfyrwyr anabl.

Roedd y fwrsariaeth yn ffactor hynod ddylanwadol wrth benderfynu. Gall fod yn broses gostus yn aml, ond o ganlyniad i’r fwrsariaeth hawl gan Cyfleoedd Byd-eang, nid oedd y gost bellach yn ffactor mor gyfyngol.

Hwb i’ch gyrfa yn y dyfodol
Mae’n ymddangos yn bell i ffwrdd ond byddwch yn graddio ymhen dim o amser. Bydd treulio amser dramor yn rhoi hwb i’ch siawns o lwyddo – yn eich arholiadau â gyda chyflogwyr posibl.
Yn ôl Adroddiad ‘Codi Dyheadau’ Rhyngwladol Prifysgolion y DU 2019, roedd myfyrwyr a oedd yn treulio amser dramor 28% yn fwy tebygol o ennill gradd dosbarth cyntaf.

Yn bendant mae’n rhywbeth sy’n unigryw ar CV. Ar ôl cysylltu â rhai cwmnïau penodol eisoes ynghylch gwaith yn y dyfodol, rwy’n gwybod mai fy mlwyddyn dramor oedd un o’r pethau a oedd fwyaf apelgar yn eu barn nhw.

Mae cwblhau profiad gwaith yn y diwydiant meddalwedd ac yn enwedig yng Ngholombia, sef un o'r marchnadoedd cyflymaf sy'n dod i'r amlwg yn y byd, wedi caniatáu imi gael cipolwg ar sut brofiad fyddai gweithio mewn amgylchedd cystadleuol, cyflym mewn bywyd go iawn lle byddech chi’n gorfod delio â llawer o gyfrifoldebau.
Opsiynau sydd ar gael
Ni waeth beth yw eich dewis gradd, gall ein tîm Cyfleoedd Byd-eang drefnu rhaglen dros yr haf i astudio, gweithio neu wirfoddoli.
Fel rhan o’ch gradd, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am leoliadau ledled Ewrop drwy Erasmus+. Gan ddibynnu ar eich rhaglen astudio, gallwch hefyd dreulio semester neu flwyddyn academaidd yn astudio gydag un o'n partneriaid cyfnewid y tu allan i Ewrop.
Beth am astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor dros yr haf?
Mae’r lleoliadau tymor byr hyn yn para o leiaf pedair wythnos a gallwch eu cwblhau mewn amrywiaeth o leoliadau o amgylch y byd. Darperir bwrsariaethau i’ch helpu gyda thalu costau mynd dramor.
Astudio
Manteisiwch ar y cyfle i astudio pwnc nad yw’n gysylltiedig â’ch gradd, neu ddatblygu eich gwybodaeth am bwnc eich gradd wrth fwynhau profiad rhyngwladol hollol newydd.
Byddwch yn cwblhau rhaglenni astudio y tu allan i’r tymor dros wyliau’r haf, sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol i fyfyrwyr nad oes ganddynt y cyfle i astudio dramor fel rhan o’u rhaglen radd. Gallwch astudio mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y byd, gan gynnwys Asia, Ewrop, America Ladin ac UDA.
Gweithio
Beth am gael profiad gwaith yn ystod eich amser yng Nghaerdydd? Gall ein tîm Cyfleoedd Byd-eang helpu i gydlynu a chefnogi lleoliadau rhyngwladol. Rydym yn cynnig arweiniad ar leoliadau dros yr haf a blynyddoedd hyfforddi proffesiynol, a cheir cyllid ar gyfer nifer o raglenni. Trwy’r interniaethau rhyngwladol hyn, cewch y cyfle i weithio i nifer o gwmnïau byd-eang a chenedlaethol.
Gwirfoddoli
Gwnewch gyfraniad cadarnhaol i’r byd yn ystod eich amser yn y Brifysgol drwy gymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli dramor. Ymunwch â thimau o fyfyrwyr o’r Brifysgol a gwirfoddoli mewn lleoliadau megis Ffiji, Japan, Cambodia, India a mwy.
Bydd astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor yn gwella eich CV drwy ddangos sgiliau allweddol megis cyfathrebu trawsddiwylliannol, hyblygrwydd, a chydweithio yn ogystal ag ehangu eich safbwynt a’ch datblygu’n bersonol.
Treulio semester neu flwyddyn academaidd dramor yn rhan o’ch gradd
Cyfnewid Ewropeaidd (Erasmus+)
Fel rhan o’ch gradd, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am leoliadau ledled Ewrop drwy Erasmus+. Mae hyn yn dibynnu ar eich rhaglen astudio. Mae Erasmus+ yn rhaglen gyfnewid yn Ewrop sy'n eich galluogi i astudio neu weithio mewn gwlad Ewropeaidd am 2-12 mis, fel rhan o'ch gradd. Mae hyd a lleoliad y cyfnewid rhyngwladol yn dibynnu ar eich rhaglen radd.
Gall myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Erasmus+ (astudio neu weithio) fod yn gymwys i dderbyn grant Erasmus i helpu gyda chostau ychwanegol byw ac astudio dramor.
Er bod perthynas y Deyrnas Unedig yn y dyfodol â'r rhaglen Erasmus+ yn aneglur ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda’i phartneriaid yn Ewrop i sicrhau y gall myfyrwyr ymgymryd â chyfnod o astudio neu weithio dramor yn rhan o’u gradd. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfranogiad y DU yn rhaglen Erasmus+ ar gael ar wefan Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ y DU.
Cyfnewid rhyngwladol
Gan ddibynnu ar eich rhaglen astudio, gallwch hefyd dreulio semester neu flwyddyn academaidd yn astudio gydag un o'n partneriaid cyfnewid y tu allan i Ewrop, a hynny fel rhan o'ch gradd. Mae hyd a lleoliad y cyfnewid rhyngwladol yn dibynnu ar eich rhaglen radd. Mae gennym bartneriaid ledled y byd, gan gynnwys sefydliadau yn UDA, Canada, Awstralia, Hong Kong a De America.
Mae cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid yn Ewrop neu’n rhyngwladol yn ffordd wych o drochi eich hun mewn diwylliant newydd a gwneud ffrindiau o bedwar ban byd. Fel myfyriwr cyfnewid, cewch gyfle i ddysgu a datblygu set drawiadol o sgiliau a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd, a’ch helpu i amlygu eich hun mewn marchnad swyddi graddedigion rhyngwladol cynyddol gystadleuol.
Cymorth pan fyddwch dramor
Rydym yn cynnig cymorth pwrpasol i chi cyn ac yn ystod lleoliadau, ac rydym yn sicrhau eich bod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw os bydd gennych bryderon neu broblemau.

Lleihau eich ôl-troed carbon
Mae Prosiect Aildyfu Borneo yn eich galluogi i wrthbwyso’r carbon a gaiff ei allyrru wrth hedfan drwy wneud rhodd fforddiadwy i gefnogi ein prosiect plannu coed yng nghoedwig law Lower Kinabatangan, Sabah, Borneo.
Siaradwch â ni
Mae'r Tîm Cyfleoedd Byd-eang yn adnodd pwrpasol ac yn ffynhonnell arbenigedd ar gyfer yr holl gyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd. Os ydych chi'n ystyried treulio amser dramor i astudio, gweithio neu wirfoddoli, gallwn eich cefnogi, a chynnig amrywiaeth o gyfleoedd rhyngwladol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Canolfan Cyfleoedd Byd-Eang
Ein cyfeiriad:
Phrifysgol Caerdydd
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB
Dyma ein myfyrwyr sydd wedi mynd amdani. Rhagor o wybodaeth am sut brofiad go iawn ydyw i dreulio amser yn gweithio, yn gwirfoddoli neu’n astudio dramor.