
Cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.
Rydym am ymestyn a gwella ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg arloesol, pwrpasol ac o safon uchel. Rydym hefyd yn ymgorffori diwylliant a gofod iaith Gymraeg sy'n bositif a chynhwysol i'r holl fyfyrwyr a staff.
Er mwyn gwneud hyn, mae'r Gangen yn gweithio'n agos gyda Deon y Gymraeg, Rheolwr yr Academi Gymraeg yn ogystal â Swyddog Iaith Gymraeg Undeb y Myfyrwyr.
Dewis o blith hyd at 100 cwrs
Mae gennym hyd at 100 cwrs gradd sydd ar gael unai'n rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Clywed am gyfleoedd i fyfyrwyr
Bydd myfyrwyr sy'n aelodau o'r Gangen yn clywed am gyfleoedd penodol sydd ar gael fel iddynt fel myfyrwyr sydd am astudio'n yr iaith neu ymwneud â'r Gymraeg.
Cefnogi eich sgiliau iaith
Os nad ydych yn gwbl hyderus eich Cymraeg, neu eich bod eisiau mireinio eich sgiliau ieithyddol, byddwn yn eich cefnogi i gymryd Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle
Rydym am i'n graddedigion gael y sgiliau a'r profiad i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a chyfrannu yn ddwyieithog tuag at fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Bod wrth wraidd y Gymru fodern
Yng Nghaerdydd mae'r Senedd, Llywodraeth Cymru, BBC, ITV a llu o sefydliadau cenedlaethol eraill ar garreg y drws.
Ehangu ein dysgu ac ymchwil
Rydym yn ehangu capasiti ein staff mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda'r bwriad o wella hunaniaeth ac arbenigedd Cymraeg y brifysgol.
Ymunwch â chymuned y Gangen i gael cyfleoedd i ddatblygu’ch sgiliau a’ch gyrfa. Fel aelod staff, cewch ymgeisio am gyllid megis Grant Bach a Grant Cydweithredol. Fel myfyriwr, cewch ysgoloriaethau a hyffforddiant i roi hwb i’ch astudiaethau neu’ch ymchwil.
Cynnig Caerdydd
Pwy 'di pwy
Cadeirydd y Gangen
Staff academaidd
Staff y brifysgol
Staff cysylltiedig
Rhagor o wybodaeth
Cysylltu â'r Gangen
Elliw Iwan
Swyddog Cangen Caerdydd