Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid ar gyfer Meddygaeth a Llawfeddygaeth Ddeintyddol (o’r 5ed flwyddyn ymlaen)

Yn eich pumed flwyddyn yn astudio, bydd y GIG yn cymryd drosodd fel y prif ddarparwr cyllid ar gyfer eich cwrs.

Mae blynyddoedd astudio yn cynnwys blwyddyn ragarweiniol (pre-lim) a/neu flwyddyn ymsang (intercalate), ond nid yw'n cynnwys unrhyw flynyddoedd y gallech chi fod wedi'u hailadrodd.

Nid oes rhaid ad-dalu cyllid o gynllun bwrsariaethau'r GIG ac nid oes cysylltiad â'r GIG ar ôl ichi orffen eich cwrs.

Help gyda ffioedd dysgu

Mae'r GIG yn talu ffioedd dysgu ni waeth beth fo incwm y teulu ar gyfer myfyrwyr cartref y DU. Bydd angen i chi wneud cais ar gyfer Bwrsariaeth y GIG fel bod eich ffioedd dysgu yn cael eu talu gan y GIG.

Sut i wneud cais

Bydd Swyddfa Addysg yr Ysgol Meddygaeth a’r Ganolfan Deintyddiaeth Myfyrwyr Israddedig yn llunio rhestr o'r myfyrwyr a fydd yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth y GIG ac yn ei hanfon i'r awdurdod ariannu priodol. Rhaid i'r swyddfa ariannu dderbyn y wybodaeth hon er mwyn i gais gael ei brosesu. Fel arfer mae'r broses hon yn dechrau o fis Ebrill ymlaen.

Bydd yr awdurdod rydych chi'n ymwneud ag ef yn dibynnu ar ble roeddech chi'n byw cyn dechrau eich cwrs:

Ble roeddech chi'n bywAwdurdod AriannuCyflwyno cais
CymruGwasanaethau Grantiau Myfyrwyr y GIG (Cymru) (NHS SAS)

Gallwch ymgeisio ar-lein

LloegrAwdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHS BSA)Gallwch ymgeisio ar-lein
Yr AlbanAsiantaeth Grantiau Myfyrwyr ar gyfer yr AlbanGallwch ymgeisio ar-lein
Gogledd IwerddonCyllid Myfyrwyr Gogledd IwerddonGallwch ymgeisio ar-lein

Bydd yr awdurdod cyllido perthnasol yn asesu eich cais ac yn rhoi gwybod i'r Brifysgol ac i chi am y grant. Os ydych chi'n gymwys i dderbyn bwrsariaeth ar gyfer costau byw bydd Swyddfa Gyllid y Brifysgol yn ei thalu i mewn i'ch cyfrif banc.

Help gyda chostau byw

Fel arfer, dim ond i fyfyrwyr cartref y DU sy’n cael eu hariannu y mae'r GIG yn darparu cymorth ariannol tuag at gostau byw. I gael cyngor pellach ynghylch cymhwysedd i gael cefnogaeth ar gyfer costau byw, cysylltwch â'r awdurdod cyllid priodol neu'r tîm Cyngor ac Arian.

Bwrsariaeth y GIG

Mae Bwrsariaeth y GIG, sy'n dibynnu ar brawf modd, ar gael i helpu â chostau byw. Asesir hyn yn ôl incwm eich cartref.

Os ydych chi’n bwriadu byw yng nghartref eich rhieni wrth astudio, bydd eich bwrsariaeth yn llai.

Y tabl isod yw cyfradd gyfredol Bwrsariaeth y GIG sydd ar gael gan GIG Cymru a GIG Lloegr:

Incwm y cartrefBwrsariaeth y GIG *
£24,279 neu lai£2,643
£30,000£1,996
£35,000£1,470
£40,000£944
£45,000£417
£50,000Dim 

*Mae blwyddyn academaidd safonol yn rhedeg o'r drydedd wythnos o fis Medi i ganol mis Mehefin. Am bob wythnos ychwanegol mae'n rhaid i chi astudio ar eich cwrs y tu allan i'r cyfnod hwn, ychwanegir £84 at Fwrsariaeth y GIG.

Grant y GIG

Gallwch wneud cais am Grant y GIG nad yw'n dibynnu ar brawf modd, o hyd at £1,000 y flwyddyn, i helpu gyda chostau byw.

Benthyciad cynhaliaeth

Byddwch yn gymwys i gael y benthyciad myfyriwr. Bydd eich hawl i fenthyciad yn dibynnu ar ble roeddech yn byw cyn y cwrs. NID yw'n seiliedig ar asesiad incwm ond mae'n cael ei gapio oherwydd byddwch chi mewn blwyddyn a ariennir gan y GIG.

Blwyddyn y cwrsMyfyrwyr a oedd yn byw yng Nghymru cyn y cwrsMyfyrwyr a oedd yn byw yn Lloegr cyn y cwrs
Blwyddyn olaf£5,360£2,030
Heb fod yn eich blwyddyn olaf (Os gwnaethoch chi flwyddyn ragarweiniol a/neu ymsang)£5,360£2,605
 Ymgeisio drwy Gyllid Myfyrwyr CymruYmgeisio drwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Costau lleoliad

Nid yw'r help gyda'r costau teithio i leoliad wedi'i asesu yn ôl incwm. Mae’r help yn seiliedig ar gost y daith o’ch cyfeiriad yn ystod y tymor i’r lleoliad yn llai na’r gost o’r daith dychwelyd o’ch cyfeiriad yn ystod y tymor i Brifysgol Caerdydd.

Plant a/neu oedolion sy'n ddibynyddion

Gallwch wneud cais am gyllid ychwanegol a asesir yn ôl incwm os oes gennych blant neu oedolyn dibynnol yn byw gyda chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy eich awdurdod cyllido yn seiliedig ar ble rydych chi'n byw fel arfer yn y DU fel a ganlyn:

Anghenion cymorth dysgu ychwanegol

Os oes angen cymorth dysgu arnoch chi yn gysylltiedig ag anabledd, cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir, neu anhawster dysgu penodol, mae lwfans ar gael nad yw'n seiliedig ar asesiad incwm ac nad oes rhaid ei ad-dalu a allai helpu gyda chostau cysylltiedig y cymorth hwn. Y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yw’r lwfans hwn.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm dros Anableddau a Dyslecsia drwy ebostio studentconnect@caerdydd.ac.uk. Rydych chi'n ymgeisio am y DSA drwy eich awdurdod cyllido.

Rhagor o wybodaeth

Os oes angen rhagor o gyngor a gwybodaeth arnoch am y cyllid sydd ar gael, cysylltwch â:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr