Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid ar gyfer myfyrwyr nyrsio rhyngwladol

Student Nurse in clinical setting

Rydym bellach yn gallu cynnig cyfle i fyfyrwyr tramor astudio Baglor mewn Nyrsio Oedolion (BN) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe fyddi di:

  • cael 3 blynedd o astudio gyda chymhorthdal gan fwrsariaeth Llywodraeth Cymru
  • ymgymryd â chyflogaeth â thâl o leiaf 2 flynedd gyda GIG Cymru
  • derbyn grantiau nad ydynt yn ad-daladwy gwerth £3,500 i gefnogi costau byw ac astudio
  • bod yn gymwys i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fel Nyrs Oedolion ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus

Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn parhau’n fforddiadwy. O ganlyniad, mae’r cyfle i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol sy’n ymrwymo ymlaen llaw i weithio am dâl i GIG Cymru am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau’r rhaglen nyrsio oedolion yn llwyddiannus yn unig.

Bydd myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y cynllun symleiddio i nyrsys graddedig a’u cefnogi i wneud cais am swyddi nyrsio i raddedigion yng Nghymru. Unwaith y bydd swydd addas wedi’i chynnig, rhaid i raddedigion wneud cais am fisa gwaith medrus cyn dechrau eu cyflogaeth. Cefnogir y broses hon gan eu darpar gyflogwr yn y GIG.

Gan fod y Cynllun yn cynnwys y cyfle i weithio yng Nghymru am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, rhaid i ni gadw at y canllaw arfer da i gyflogwyr. Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn ceisiadau gan wledydd ar y rhestr goch neu ambr, fel y nodir ar wefan cyflogwyr y GIG.

Cyflwynir yr holl wybodaeth am gyllid a ffioedd sy’n ymwneud â’r rhaglen Baglor mewn Nyrsio (BN) Oedolion yn y tabl isod:

Cyllid a ffioedd
Ffi dysgu safonol*£25,500 (y flwyddyn)

Cymhorthdal/gostyngiad ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru

(Gwneir y taliad yn uniongyrchol i Brifysgol Caerdydd)

£16,500 (y flwyddyn)
Cyfanswm y ffioedd dysgu sy’n daladwy gan y myfyriwr£9,000 (y flwyddyn)

*Y ffi ddysgu safonol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio ar gyfer Baglor mewn Nyrsio Oedolion (BN) ym Mhrifysgol Caerdydd yw £25,500 y flwyddyn. Bydd Comisiynwyr Llywodraeth Cymru (AaGIC) yn rhoi cymhorthdal i fyfyrwyr rhyngwladol gyda chyfraniad o £16,500 y flwyddyn tuag at gostau ffioedd dysgu. Mae hyn yn golygu mai dim ond ffi ddysgu o £9,000 y flwyddyn y bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio nyrsio oedolion ei thalu i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r cymorth ariannol hwn ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol sy’n gallu ymrwymo ymlaen llaw i weithio i GIG Cymru am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau’r rhaglen nyrsio oedolion yn llwyddiannus yn unig.

Bydd pob myfyriwr rhyngwladol sy’n astudio nyrsio oedolion yn derbyn grantiau na fydd yn rhaid eu had-dalu i’w cefnogi gyda chostau byw ac astudio. Amlinellir y grantiau hyn nad oes yn rhaid eu had-dalu yn y tabl uchod. Nid oes angen gwneud cais ar wahân am y grantiau hyn. Bydd pob myfyriwr rhyngwladol sydd wedi cofrestru ar y rhaglen nyrsio oedolion yn cael yr un swm, ac nid yw’n ofynnol i chi ei dalu'n ôl.

Grantiau nad ydynt yn ad-daladwy

Grant ‘ymgartrefu’ atodol untro o £500

(Gwneir y taliad yn uniongyrchol i’r myfyriwr)

£500

Taliad blynyddol o £1000 i gefnogi gyda chostau byw ac astudio

(Gwneir y taliad yn uniongyrchol i’r myfyriwr)

£1,000 (y flwyddyn)

Bydd cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer teithio, llety a chostau cynhaliaeth pan fyddwch ar leoliadau dysgu ymarfer hefyd ar gael, lle bo hynny’n berthnasol. Rydych chi’n gwneud cais am gymorth gyda chostau lleoliadau gwaith trwy Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Mae cymorth ar gyfer treuliau teithio i leoliad gwaith i’w bennu yn ôl pris taith o’ch cartref (lle rydych chi’n byw yn ystod y tymor) i’r lleoliad gwaith; heb gynnwys pris y daith o’ch cartref (lle rydych chi’n byw yn ystod y tymor) i Brifysgol Caerdydd ac yn ôl h.y eich taith arferol i’r brifysgol.

Os oes rhaid i chi dalu am lety yn eich lleoliad gwaith, gallwch wneud cais am gymorth gyda’r costau hyn os oes gennych gostau llety ar gyfer eich cyfeiriad arferol yn ystod y tymor hefyd.

Cewch ganllawiau ar sut i wneud cais am gymorth ariannol unwaith y byddwch wedi cofrestru ar y rhaglen.

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy’r DU i fyfyrwyr. Gweler ein teclyn cyfrifo costau byw ar gyfer costau byw cyfartalog yng Nghaerdydd fel myfyriwr israddedig amser llawn.

Bydd y Telerau ac Amodau sy’n gysylltiedig â’r cyfle hyfforddi hwn yn cael eu rheoli gan gomisiynwyr Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi lofnodi contract cynllun hyfforddi nyrsys rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys 3 blynedd o astudio amser llawn ac o leiaf 24 mis o weithio yng Nghymru ar ôl cwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus. Anfonir y contract cynllun hyfforddi nyrsys rhyngwladol gyda’r llythyr cynnig ffurfiol.

Drwy dderbyn cynnig ar y rhaglen nyrsio oedolion a llofnodi’r contract cysylltiedig â Chomisiynwyr Llywodraeth Cymru (AaGIC), mae’n ofynnol i chi ymrwymo i weithio yng Nghymru mewn swydd addas am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau’r rhaglen. Cewch eich cefnogi i ddod o hyd i waith addas.

  • Os byddwch yn methu â chael swydd addas ar ôl cwblhau’r rhaglen, mae’n ofynnol i chi ad-dalu’r cymhorthdal ffioedd dysgu a ddarparwyd gan Gomisiynwyr Llywodraeth Cymru (AaGIC).
  • Os byddwch yn ymddiswyddo cyn cwblhau’r 24 mis o waith addas, bydd gofyn i chi ad-dalu cyfran o’r cymhorthdal ffioedd dysgu a ddarparwyd gan Gomisiynwyr Llywodraeth Cymru (AaGIC).
  • Os byddwch yn aros mewn swydd addas am o leiaf 24 mis, ni fyddai’n rhaid i chi ad-dalu unrhyw gostau.

Bydd manylion llawn y contract gyda’r llythyr cynnig ffurfiol.

Mae’r holl feini prawf academaidd / mynediad ar gyfer y Baglor mewn Nyrsio Oedolion (BN) i’w gweld ar y tudalennau cwrs pwrpasol.

Gan fod y Cynllun yn cynnwys y cyfle i weithio yng Nghymru am o leiaf 24 mis ar ôl cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus, rhaid i ni gadw at y canllaw arfer da i gyflogwyr. Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn ceisiadau gan wledydd ar y rhestr goch neu ambr, fel y nodir ar wefan cyflogwyr y GIG.

Cysylltu â ni

Tîm Derbyn Gofal Iechyd